Doing things online is child’s play! That’s the message from a group of Neath Port Talbot youngsters from Awel y Môr and Gnoll Primary Schools. They have been helping the Council in its efforts to encourage people to ‘Switch’ and save time, do it online.
The pupils from years one and two took part in a series of cute, but informative videos for social media where they discuss a range of online services that the Council currently offers.
The videos, filmed in the summer, focus on reporting a full dog waste or litter bin, downloading or renewing library books, ordering recycling equipment and booking a bulky waste collection. The Council has been releasing them via its Facebook and Twitter as part of the ‘Switch – save time, do it online’ campaign. The campaign is designed to help people in Neath Port Talbot save valuable time by accessing a range of Council services online.
There were some funny moments during filming and, amidst fits of giggles and nudging, some quite imaginative stories emerged. While talking about using a dog waste bag for his grandmother’s dog, Noah from Awel y Môr explained ‘a man came running, grabbed the bag and he looked in it and he thought it might be some jewellery’.
Council Leader Ali Thomas OBE said:
“These videos are really charming and I would like to thank Eve, Joe, Lexie-Mae, Liam, Morgan, Noah and Sophie for the excellent job they have done in helping us with this campaign.
“These children have, of course, been born into a digital age when going online is second nature to them. They obviously had fun making the videos, but still manage to get the message across that using online services can be straightforward and convenient. I hope their videos will encourage people to go to our website and try these services for themselves.”
There are a variety of Council services available online at www.npt.gov.uk. People can register to vote, order recycling equipment, pay Council Tax, order parking permits, renew library books and lots more!
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Mae symud i wasanaethau ar-lein yn hawdd
Mae gwneud pethau ar-lein yn hawdd! Dyma'r neges gan grwp o blant o Gastell-nedd Port Talbot, o ysgolion cynradd Awel y Môr a'r Gnoll. Maent wedi bod yn helpu'r cyngor yn ei ymdrechion i annog pobl i 'Symud' ac arbed amser drwy fynd ar-lein.
Roedd y disgyblion o flwyddyn un a dau wedi cymryd rhan mewn cyfres o fideos gwreiddiol, llawn gwybodaeth lle maent yn trafod amrywiaeth o wasanaethau ar-lein y mae'r cyngor yn eu cynnig ar hyn o bryd.
Mae'r fideos yn canolbwyntio ar adrodd am fin llawn gwastraff neu faw cwn, lawrlwytho neu adnewyddu llyfrau llyfrgell, archebu cyfarpar ailgylchu a threfnu casgliad gwastraff swmpus. Mae'r cyngor wedi bod yn eu rhyddhau drwy ei gyfrifon Facebook a Twitter fel rhan o'r ymgyrch 'Symud - i arbed amser ewch ar-lein'. Diben yr ymgyrch yw helpu pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot i arbed amser gwerthfawr drwy ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau'r cyngor ar-lein.
Cafwyd rhai adegau doniol yn ystod y ffilmio, ac yng nghanol y chwerthiniadau bach a'r penelino, daeth sawl stori llawn dychymyg i'r amlwg. Wrth siarad am ddefnyddio bag baw cwn ar gyfer ci ei fam-gu, eglurodd Noah o Ysgol Awel y Môr 'rhedodd dyn tuag atom, cydio yn y bag ac edrych ynddo oherwydd roedd e'n meddwl bod gemwaith ynddo'.
Meddai Ali Thomas OBE, arweinydd y cyngor,
"Mae'r fideos hyn yn hyfryd a hoffwn ddiolch i Eve, Joe, Lexie-Mae, Liam, Morgan, Noah a Sophie am y gwaith gwych maent wedi'i wneud i'n helpu gyda'r ymgyrch hon.
"Mae'r plant ym wrth gwrs wedi cael eu geni mewn oes ddigidol pan fo mynd ar-lein yn ail natur iddynt. Mae'n amlwg iddynt gael llawer o hwyl yn gwneud y fideos, ond llwyddon nhw i gyfleu'r neges y gall defnyddio gwasanaethau ar-lein fod yn broses syml a chyfleus. Rwy'n gobeithio bydd eu fideos yn annog pobl i fynd i'r wefan a rhoi cynnig ar y gwasanaethau hyn eu hunain."
Mae amrywiaeth o wasanaethau’r cyngor ar gael ar-lein yn www.npt.gov.uk. Gall pobl gofrestru i bleidleisio, archebu cyfarpar ailgylchu, talu Treth y Cyngor, archebu hawlenni parcio, adnewyddu llyfrau llyfrgell a llawer mwy!
More stories