The Council’s Local Area Coordination scheme has held its first Christmas lunch to help bring people in the community closer together.
Known as ‘Mingle at the Miners’, the community lunch takes place on a monthly basis with the aim of building relationships and enabling people to develop new friendships to alleviate social isolation.
Over thirty-five people living in the communities of Skewen, Neath Abbey and Longford attended the lunch that was organised by the scheme’s Local Area Coordinator. Held at The Miners pub in Skewen, everyone who attended had the opportunity to get to know each other over a three course Christmas meal, a game of fun bingo and singing on the karaoke.
Emma Jones, the Coordinator for the area and organiser of the lunch said:
“Arranging lunches such as these are a great opportunity to meet new, local people in a friendly and relaxed atmosphere. It shows how just a few hours chatting with people in your own community can lead to lasting friendships.
“It was encouraging to hear everyone comment on how much they enjoyed and how they would like to attend again next year.”
The Local Area Coordination scheme focuses on supporting people using resources available in the community to relieve the pressure on Council care services. The coordinator for the area will work closely with the community using their local knowledge to provide information and advice to help people lead a better life.
Leader of Neath Port Talbot Council, Councillor Ali Thomas OBE said:
“It is encouraging to see so many people coming together to help one another. Nobody should be alone over Christmas, and community lunches can help to make sure this does not happen.
“This is just one of many ways that the Local Area Coordination Scheme can support people in their own communities to lead a better life.”
Anyone living in the areas mentioned can find out more about the scheme by contacting Emma Jones on 07583780991 or by emailing e.jones7@npt.gov.uk . For general information, visit www.npt.gov.uk/localareacoordinators .
~~~~~~~~~~~~~~~~
Cynllun cymunedol yn dod â phobl at ei gilydd dros y Nadolig
Mae cynllun Cydlynu Ardaloedd Lleol y cyngor wedi cynnal cinio cymunedol i helpu i ddod â phobl at ei gilydd dros gyfnod y Nadolig.
Ei enw yw 'Mwynhau yn y Miners' a chynhelir y cinio cymunedol bob mis gyda'r nod o adeiladu perthnasoedd a rhoi cyfle i bobl ddatblygu cyfeillgarwch newydd er mwyn lleddfu ar arwahanrwydd cymdeithasol.
Daeth dros 35 o bobl sy'n byw yng nghymunedau Sgiwen, Mynachlog Nedd a Longford i ginio wedi'i drefnu gan gydlynydd ardaloedd lleol y cynllun. Wedi'i gynnal yn nhafarn y Miners yn Sgiwen, cafodd pawb a ddaeth gyfle i ddod i nabod ei gilydd dros ginio Nadolig tri chwrs. Yn dilyn y cinio, ymunodd pawb mewn gêm llawn hwyl o fingo a chanu eu hoff ganeuon Nadoligaidd ar y caraoce.
Mae'r cynllun Cydlynu Ardaloedd Lleol yn canolbwyntio ar gefnogi pobl i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt yn y gymuned er mwyn lleihau'r pwysau ar wasanaethau gofal y cyngor. Bydd cydlynydd yr ardal yn gweithio'n agos gydag unigolion yn y gymuned, gan elwa ar eu gwybodaeth leol nhw, er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i'w helpu i gael bywyd gwell.
Meddai Emma Jones, cydlynydd yr ardal a threfnydd y cinio,
"Mae trefnu ciniawau fel yr un hwn yn gyfle gwych i gwrdd â phobl leol a newydd mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar. Mae'n dangos sut gall ychydig oriau o sgwrsio yn unig gyda phobl yn eich cymuned arwain at gyfeillgarwch parhaol.
"Roedd yn galonogol i glywed pawb yn siarad am gymaint roeddent wedi mwynhau a sut byddai'n braf iawn ganddynt ddod eto'r flwyddyn nesaf."
Meddai'r Cyng. Ali Thomas OBE, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot,
"Mae'n galonogol gweld cynifer o bobl yn y gymuned yn dod ynghyd er mwyn helpu ei gilydd. Ni ddylai neb fod ar ei ben ei hun dros y Nadolig, a gall ciniawau cymunedol helpu i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.
"Dyma un ffordd yn unig gall y cynllun Cydlynu Ardaloedd Lleol gefnogi pobl yn eu cymunedau eu hun i fyw bywyd gwell."
Gall unrhyw un sy'n byw yn yr ardaloedd a enwir uchod gael mwy o wybodaeth drwy gysylltu ag Emma Jones ar 07583780991 neu drwy e-bostio e.jones7@npt.gov.uk.
Am wybodaeth gyffredinol am y cynllun Cydlynu Ardaloedd Lleol ac i ganfod pa ardaloedd eraill sy'n rhan o'r cynllun, ewch i www.npt.gov.uk/localareacoordinators. More stories