‘Thank you for all your patience and hard work’ is the message from Neath Port Talbot Council as the Recycle+ rollout is nearly complete.
By the end of this month close to 100% of residents in the County Borough will be on the new recycling system.
Over the last few years residents have seen big changes to the way they have been asked to recycle to help achieve strict targets.
And Neath Port Talbot is performing well.
Latest figures show that we are now recycling more than 60% of our waste, compared to 58% in the same period last year and we are making good progress towards the next target of recycling 64% in 2019/20.
Over the last few years the Council has kept the service under review, making changes and responding to feedback from customers.
This has included the introduction of the Recycle+ service to make it easier for residents to recycle more materials more often.
The Council also invested in extra kerbside recycling vehicles and some smaller vehicles will be in operation soon to support recycling in some of the more difficult to access places in the County Borough.
We understand that changes need time to bed in and would like to thank our residents and particularly those who are new to Recycle+ for their support and patience.
Councillor Ali Thomas OBE, Leader of Neath Port Talbot Council said: “I am delighted with the recycling performance in Neath Port Talbot. We could not have achieved this without the backing of householders and I want to thank residents for all their efforts.
“We have introduced a number of initiatives over the last few years and clearly they are working.
“However, there is still some way to go with a recycling target of 64% to be reached by 2019/20. We will keep our recycling service under review and continue to improve it and make it easier for residents to recycle even more.”
More information about recycling in Neath Port Talbot can be found on the Council’s website www.npt.gov.uk/recycle
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Mae Ailgylchu+ yn gweithio – diolch i drigolion Castell-Nedd Port Talbot
‘Diolch am eich amynedd a’ch gwaith caled’ – dyna’r neges oddi wrth Gyngor Castell-nedd Port Talbot wrth i’r gwaith o roi Ailgylchu+ mewn grym nesáu at ei ddiwedd.
Erbyn diwedd y mis yma fe fydd bron 100% o drigolion y Bwrdeistref Sirol wedi cael eu cynnwys yn y system ailgylchu newydd.
Dros y blynyddoedd diwethaf hyn mae pobl yr ardal wedi gweld newidiadau mawr yn y ffordd y disgwylir iddynt ailgylchu â’r nod o gyrraedd targedau llym.
Ac mae Castell-nedd Port Talbot yn perfformio’n dda.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos ein bod ni yn ailgylchu mwy na 60% o’n gwastraff ni erbyn hyn, o’i gymharu â 58% dros yr un cyfnod y llynedd, a’n bod ni’n symud yn ddiymdroi at y targed nesaf o ailgylchu 64% erbyn 2019/20.
Mae’r Cyngor wedi cadw’r gwasanaeth dan arolwg parhaus dros y blynyddoedd diwethaf, gan wneud newidiadau ac ymateb i adborth gan y cwsmeriaid.
Mae hyn wedi cynnwys sefydlu’r gwasanaeth Ailgylchu + i’w gwneud hi’n haws i drigolion ailgylchu mwy o ddeunyddiau’n amlach.
Buddsoddodd y Cyngor mewn cerbydau ychwanegol i hyrwyddo ailgylchu wrth ymyl y ffordd, a bydd nifer o gerbydau llai’n gweithredu hefyd cyn bo hir i wneud ailgylchu’n rhwyddach mewn rhai o’r mannau ledled y Bwrdeistref Sirol sy’n anodd i’w cyrraedd.
Rydym yn deall bod angen amser i newidiadau sadio, a hoffem ddiolch i’n trigolion, ac yn enwedig i’r rhai sy’n dod yn newydd at Ailgylchu+, am eu cefnogaeth a’u hamynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Ali Thomas OBE, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant ailgylchu yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ni allem fod wedi cyflawni hyn oni bai am gefnogaeth ein deiliaid cartef a hoffwn i ddiolch i’r trigolion am eu holl ymdrechion.
“Rydym wedi cyflwyno nifer o fentrau dros y blynyddoedd diwethaf hyn, ac mae’n amlwg eu bod yn llwyddo.
“Ond mae tipyn o ffordd o’n blaenau o hyd os ydym am gyrraedd y targed ailgylchu o 64% erbyn 2019/20. Fe gadwn ni ein gwasanaeth ailgylchu dan arolwg, gan barhau i’w wella a’i gwneud hi’n haws i drigolion ailgylchu mwy byth.”
Gellir darllen rhagor am ailgylchu yng Nghastell-nedd Port Talbot ar wefan y Cyngor www.npt.gov.uk/ailgylchu More stories