Householders across Port Talbot are being given greater warmth and security thanks to a major Neighbourhood Renewal Scheme now in its third phase.
Homes are receiving an External Wall Insulation System and many are also getting improvements to other parts of their homes including windows, doors and roofs.
Local contractors are currently working on properties in Oakwood Street in Port Talbot and Hillview Terrace and Gwyn Terrace in Aberavon.
The scheme is funded by three programmes currently being delivered in the area; Port Talbot’s Vibrant and Viable Places (VVP) Regeneration Programme funded by the Welsh Government; The ARBED programme, also funded by Welsh Government, which aims to insulate so-called ‘hard to heat and treat’ properties and help to lift families out of fuel poverty, and the Sandfields East and Aberavon Renewal Area which was declared in 2004 and comes to an end in 2017.
By the end of the third phase of the VVP and ARBED Programmes 278 homes will have been improved and brought up to standard.
The scheme is means-tested and some home owners are contributing 10 per cent of the cost.
Leader of Neath Port Talbot Council Cllr Ali Thomas OBE said: “These schemes are improving the quality of life of many of our residents and have
already made a real difference during what remains a very tough time for many families.
Doing this work will not only improve the quality of life for many of our residents, but also help reduce fuel poverty by targeting some of our most vulnerable communities.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~
Cynllun Adnewyddiad yn dosbarthu gwelliannau i gartrefi Port Tablot
Mae deiliaid tai ar draws Port Talbot yn cael mwy o gynhesrwydd a diogelwch oherwydd Cynllun Adnewyddu Cymdogaeth sydd bellach yn ei trydydd gam.
Mae cartrefi'n derbyn system inswleiddio waliau allanol a chaiff gwelliannau eu gwneud hefyd i rannau eraill o'u cartrefi gan gynnwys ffenestri, drysau a thoeon.
Mae contractwyr lleol yn gweithio ar hyn o bryd ar gartrefi yn Stryd Prenderwen ym Mhort Talbot a Theras Hillview a Theras Gwyn yn Aberafan.
Ariennir y cynllun gan dair rhaglen sy'n cael eu cyflwyno yn yr ardal ar hyn o bryd; Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Port Talbot a ariennir gan Lywodraeth Cymru; rhaglen ARBED, hefyd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio inswleiddio eiddo ‘anodd eu gwresogi a'u trin’ a helpu teuluoedd sy'n dioddef tlodi tanwydd, ac Ardal Adnewyddu Dwyrain Sandfields ac Aberafan a gyhoeddwyd yn 2004 ac sy'n dod i ben yn 2017.
Erbyn diwedd trydydd cam y Rhaglenni Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ac ARBED, bydd 278 o gartrefi wedi cael eu gwella ac yn cyrraedd y safon.
Mae'r cynllun yn destun prawf modd ac mae rhai perchnogion cartref yn cyfrannu hyd at 10 y cant o'r gost.
Meddai'r Cyng. Ali Thomas OBE, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Mae'r cynlluniau'n gwella ansawdd bywyd llawer o'n preswylwyr ac eisoes
wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod cyfnod sy'n dal i fod anodd iawn i lawer o deuluoedd.
Yn ogystal â gwella ansawdd bywyd llawer o'n preswylwyr, bydd gwneud y gwaith hwn hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd drwy dargedu rhai o'n cymunedau mwyaf diamddiffyn."
More stories