Neath Port Talbot County Borough is set to be the first in Wales to have a Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence Strategy.
A draft strategy has been published for consultation and it sets out how Neath Port Talbot County Borough Council, ABMU Health Board and other key partners will continue to work together to tackle these issues.
The Neath Port Talbot strategy encompasses domestic violence, forced marriage, sexual violence, female genital mutilation and honour based violence. The document recognises that the majority of victims are female, but acknowledges that both victims and perpetrators can be male or female.
The strategy meets the requirement for the Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015, focussing on the areas of prevention, protection and the provision of support.
An event was held at Margam Orangery to mark the start of the consultation. Council Leader Cllr. Ali Thomas OBE opened the event. During the morning attendees, including elected members, partners and support providers heard speeches from Cllr. Alan Lockyer Chair of the NPT Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence Partnership and Eleri Butler, CEO of Welsh Women’s Aid. They also saw a presentation by Port Talbot and Afan Women’s Aid and Calan’s ‘BRAVE’ early intervention project.
Councillor Thomas said:
“Based on national figures, the number of Neath Port Talbot residents who are experiencing some form of Domestic Abuse could be more than 18,000. These acts of violence and abuse can have a devastating and long lasting impact on victims and those close to them.
“The Council is committed to working with our partners to build on and improve the arrangements for the prevention, protection and support of victims and survivors of these crimes.”
ABMU Director of Nursing and Patient Experience, Professor Rory Farrelly, said the health board was committed to working with local authorities, third sector specialist services and all relevant agencies to provide help and support to victims of domestic abuse and sexual violence. Professor Farrelly said the health board welcomed its joint involvement in developing the draft strategy and looked forward to the consultation:
“ABMU is an early adopter of Ask and Act, which will be rolled out across Wales over the next five years. This is a targeted enquiry process whereby healthcare professionals identify signs a patient may be a victim of domestic abuse or sexual violence and ask the patient if they experience this. If it is occurring, appropriate referral to specialist services is made for the patient to receive help and support.”
Professor Farrelly said one such patient later said her life had been transformed as she now felt safe in her home. He added:
“This is a true testament to the partnership approach of all agencies in tackling the serious public health issue of domestic abuse and sexual violence.”
The consultation is now open and will end on 7th June 2017. Specific groups have been invited to give their views, but members of the public are also being encouraged to respond. A copy of the draft strategy and feedback form can be found online at www.npt.gov.uk/haveyoursay. Paper copies will be available at Neath and Port Talbot Civic Centres and Pontardawe Hub.
If you have been affected by any of the issues raised in this story, you can contact the Live Fear Free Helpline on 0808 8010 800 or visit the Domestic Abuse One Stop at 17 Victoria Gardens, Neath.
~~~~~~~~~~~~~~~~
Gofyn am farn ar y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fydd y cyntaf yng Nghymru i feddu ar Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Cyhoeddwyd strategaeth ddrafft er mwyn ymgynghori arni ac mae'n nodi sut bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd PABM a phartneriaid allweddol eraill yn parhau i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Mae strategaeth Castell-nedd Port Talbot yn cwmpasu trais domestig, priodas dan orfod, trais rhywiol, llurgunio organau rhywiol merched a thrais ar sail anrhydedd. Mae'r ddogfen yn cydnabod bod y rhan fwyaf o ddioddefwyr yn fenywod, ond mae'n cydnabod bod dioddefwyr a throseddwyr yn gallu bod yn ddynion neu'n fenywod.
Mae'r strategaeth yn bodloni gofynion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, gan ganolbwyntio ar feysydd atal, diogelu a darparu cefnogaeth.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Orendy Margam i lansio dechrau'r ymgynghoriad. Agorwyd y digwyddiad gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Ali Thomas OBE. Yn ystod y bore, bu'r rhai a oedd yn bresennol, gan gynnwys aelodau etholedig, partneriaid a darparwyr cefnogaeth yn gwrando ar areithiau gan y Cyng. Alan Lockyer, Cadeirydd Partneriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol CNPT ac Eleri Butler, Prif Weithredwr Cymorth i Fenywod Cymru. Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Gymorth i Fenywod Port Talbot ac Afan a phrosiect ymyrryd yn gynnar 'BRAVE' Calan.
Meddai'r Cynghorydd Thomas,
"Yn seiliedig ar ffigurau cenedlaethol, gallai nifer preswylwyr Castell-nedd Port Talbot sy'n wynebu rhyw fath o gam-drin domestig fod yn fwy na 18,000. Gall y trais a'r cam-drin hwn gael effaith drychinebus a hirhoedlog ar ddioddefwyr a'r rhai sy'n agos atynt.
"Mae'r cyngor yn ymrwymedig i weithio gyda'n partneriaid i ddatblygu'r trefniadau a'u gwella er mwyn atal, diogelu a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr y troseddau hyn."
Meddai'r Athro Rory Farelly, Cyfarwyddwr Profiad Nyrsio a Chleifion PABM, fod y bwrdd iechyd yn ymrwymedig i weithio gydag awdurdodau lleol, gwasanaethau arbenigol y trydydd sector a'r holl asiantaethau perthnasol i ddarparu cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dywedodd yr Athro Farrelly fod y bwrdd iechyd yn croesawu eu cyfranogaeth ar y cyd er mwyn datblygu strategaeth ddrafft a'i fod yn edrych ymlaen at yr ymgynghoriad.
"Mae PABM yn un o'r sefydliadau cyntaf i fabwysiadu Gofyn a Gweithredu, a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Dyma broses o ymholiadau penodol lle bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn nodi arwyddion sy'n awgrymu y gallai claf fod yn dioddef o gam-drin domestig neu drais rhywiol, ac yn gofyn i'r claf os yw'n profi hyn. Os yw'n digwydd, bydd y claf yn cael ei gyfeirio at y gwasanaethau arbenigol priodol er mwyn derbyn cymorth a chefnogaeth."
Dywedodd yr Athro Farelly fod un claf o'r fath wedi dweud yn ddiweddarach bod ei bywyd wedi'i thrawsnewid gan ei bod hi bellach yn teimlo'n ddiogel yn ei chartref.
Ychwanegodd:
"Mae hyn yn destament i ymagwedd bartneriaeth yr holl asiantaethau wrth fynd i'r afael â materion iechyd cyhoeddus difrifol cam-drin domestig a thrais rhywiol."
Mae'r ymgynghoriad bellach ar agor a bydd yn dod i ben ar 7 Mehefin 2017. Gwahoddwyd grwpiau penodol i fynegi eu barn, ond mae aelodau'r cyhoedd hefyd yn cael eu hannog i ymateb. Mae copi o'r strategaeth ddrafft a ffurflen adborth ar gael ar-lein yn www.npt.gov.uk/haveyoursay. Bydd copïau papur ar gael yng Nghanolfannau Dinesig Castell-nedd a Phort Talbot ac yn yr Hwb ym Mhontardawe.
Os effeithiwyd arnoch gan unrhyw faterion a nodwyd yn y stori hon, gallwch ffonio Llinell Gymorth Live Fear Free ar 0808 8010 800 neu ewch i'r Siop dan yr Unto Cam-drin Domestig yn 17 Gerddi Victoria, Castell-nedd.
More stories