Funding for Further/Education and Training Available. From the 1st April applicants for the Glamorgan Further Education Trust Fund can now apply through Neath Port Talbot Council’s new online service. This service allows those applying to log on at a time that is convenient to them.
The fund which is administered by the Council provides financial support to individuals who are pursuing further/higher education or training. The fund can also assist with costs associated with preparing to enter a trade or profession, such as equipment, tools and training.
The fund is intended to benefit those who have attended a secondary school in the area of the former County of Glamorgan, including Howells School. Information on eligibility areas, criteria and how to apply is available on the Council’s Website or by contacting 01639 763580.
The closing date for applications is 31st May 2017. Applications are available from the School and Family Support Section, Port Talbot Civic Centre and on the above link.
This new online service is part of the Council’s commitment to encourage more people to get online through their Switch marketing campaign, which encourages residents of the County Borough to embrace the Council’s easy and convenient 24/7 range of digital services.
There are a variety of Council services available online at www.npt.gov.uk. People can now register to vote, order recycling equipment, pay Council Tax, order parking permits, renew library books and lots more.
Switch – Save Time and Do it Online….
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg bellach yn derbyn ceisiadau
Cyllid ar gael ar gyfer addysg a hyfforddiant pellach. O 1 Ebrill, gall ymgeiswyr sy'n cyflwyno cais i Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg wneud hynny drwy wasanaeth ar-lein newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae'r gwasanaeth hwn yn galluogi'r sawl sy'n ymgeisio i fewngofnodi ar amser sy'n gyfleus iddynt.
Mae'r gronfa a weinyddir gan y cyngor yn rhoi cymorth ariannol i unigolion sy'n dilyn cwrs addysg neu hyfforddiant pellach/uwch. Gall y gronfa hefyd roi cymorth gyda'r costau sy'n gysylltiedig â pharatoi i ddechrau ar grefft neu alwedigaeth, megis cyfarpar, offer a hyfforddiant.
Nod y gronfa yw bod o fudd i'r rheiny sydd wedi derbyn addysg uwchradd yn ardal yr hen Sir Forgannwg, gan gynnwys Ysgol Howells. Cewch wybodaeth am ardaloedd a meini prawf cymhwysedd yn ogystal â sut i ymgeisio ar wefan y cyngor neu drwy ffonio 01639 763580.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Mai 2017. Mae ffurflenni cais ar gael gan yr Is-adran Cymorth i Ysgolion a Theuluoedd, Canolfan Ddinesig Port Talbot a thrwy ddefnyddio'r ddolen uchod.
Mae'r gwasanaeth ar-lein newydd hwn yn rhan o ymrwymiad y cyngor i annog mwy o bobl i fynd ar-lein drwy ei ymgyrch farchnata Symud, sy'n annog preswylwyr y fwrdeistref sirol i ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau digidol sy'n syml, sy'n gyfleus ac sydd ar gael ddydd a nos.
Mae amrywiaeth o wasanaethau'r cyngor ar gael ar-lein yn www.npt.gov.uk. Gall pobl gofrestru i bleidleisio, archebu cyfarpar ailgylchu, talu Treth y Cyngor, archebu hawlenni parcio, adnewyddu llyfrau llyfrgell a llawer mwy.
Symud – I arbed amser ewch ar-lein.... More stories