Neath Port Talbot Council has received over £1.7m funding from Welsh Government to deliver Road Safety and infrastructure priorities.
The funding will go towards improvements to walking and cycling routes, road safety measures and training initiatives for drivers, motorcyclists and pedestrians.
Traffic calming and speed reduction measures and some additional crossing points will be carried out in a number of locations, including in Briton Ferry, along the A4107 Afan Valley Road and the B4290 between Llandarcy and Skewen, addressing road safety concerns from residents in those areas.
Money will also be allocated to fund a shared foot and cycle path along Margam Road and improvements to crossing points which will also provide a safe route and cycle way to the new school in Margam, due to open in September 2018.
Other walking and cycling improvements include work at the Neath Canal towpath and improvements to the National Cycle Network between Neath and Briton Ferry.
Upgrades/Enhancements to the bus route between Margam and Port Talbot are also on the list of works, with new bus shelters and safety improvements at bus stops.
This important scheme will build on the work already carried out along the Port Talbot to Neath and the Neath to Swansea routes. The aim is to encourage more bus use by making the route more attractive and safer for users.
A series of driver/rider and pedestrian training initiatives have also received support with the aim to reduce casualties amongst vulnerable road user groups.
Gareth Nutt, Director of Environment said: “I am pleased that the Council has secured this funding.
“This work will significantly improve road safety for all road users, helping us achieve our aim to reduce casualties on the County network in line with our Road Safety Strategy.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Hwb ariannol i welliannau diogelwch ffyrdd a theithio
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn dros £1.7m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau isadeiledd a diogelwch ffyrdd.
Bydd y cyllid yn cael ei wario ar welliannau i lwybrau beicio a cherdded, mesurau diogelwch ffyrdd a mentrau hyfforddiant i yrwyr, beicwyr modur a cherddwyr.
Bydd mesurau arafu traffig a lleihau cyflymder a rhai croesfannau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith hefyd mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Llansawel, ar hyd yr A4107 Heol Cwm Afan a'r B4920 rhwng Llandarcy a Sgiwen, er mwyn mynd i'r afael â phryderon diogelwch ffyrdd gan breswylwyr yn yr ardaloedd hynny.
Clustnodir cyllid hefyd i ariannu llwybr beicio a cherdded a rennir ar hyd Heol Margam a gwelliannau i groesfannau a fydd hefyd yn darparu llwybr diogel i gerdded a beicio i'r ysgol newydd ym Margam, y bwriedir ei hagor ym mis Medi 2018.
Mae gwelliannau cerdded a beicio eraill yn cynnwys gwaith ar lwybr halio Camlas Nedd a gwelliannau i'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol rhwng Castell-nedd a Llansawel.
Mae gwelliannau i'r llwybr bysus rhwng Margam a Phort Talbot hefyd ar y rhestr o waith, gyda chysgodfannau bws newydd a gwelliannau diogelwch wrth safleoedd bws.
Bydd y cynllun pwysig hwn yn adeiladu ar waith a wnaed eisoes ar hyd y llwybrau o Bort Talbot i Gastell-nedd ac o Gastell-nedd i Abertawe. Y nod yw annog mwy o bobl i ddefnyddio bysus drwy wneud y llwybr yn fwy deniadol a diogel i ddefnyddwyr.
Mae cyfres o fentrau hyfforddi gyrwyr/beicwyr hefyd wedi derbyn cefnogaeth â'r nod o leihau damweiniau ffyrdd ymhlith grwpiau o ddefnyddwyr ffyrdd diamddiffyn.
Meddai Gareth Nutt, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, "Dwi'n falch bod y cyngor wedi sicrhau'r cyllid hwn.
"Bydd y gwaith hwn yn gwella diogelwch ffyrdd i'r holl ddefnyddwyr ffyrdd yn sylweddol, gan ein helpu i gyflawni ein nod o leihau damweiniau ar rwydwaith y sir yn unol â'n Strategaeth Diogelwch Ffyrdd." More stories