Council Trading Standards watchdogs have been working with partner agencies to combat rogue traders operating in the area.
For the week of the 8th May, NPT Trading Standards carried out exercises within the County Borough, stopping builders, plumbers, domestic repair, house clearances and other trades by the roadside and advising of them of their obligations under consumer protection law.
At the same time partner agencies the Police, National Resources Wales and Her Majesty’s Revenue and Customs were checking the same traders for their driver documents, waste carrier licences and their fuel tanks for the presence of “red” (duty free) diesel.
Also during that week, the department visited a property linked to the sale of “Kodi” boxes. These electronic devices allow the user to have illegal access to subscription television services.
Finally, the department raided a house which was the hub of a counterfeit tobacco sales operation. Counterfeit tobacco is unsafe and undermines local trade who have to pay for the more expensive, but legitimate, tobacco products
Head of Planning & Public Protection Nicola Pearce said, “We hope that these operations send out a strong message to rogue traders and counterfeiters. We will not tolerate local residents being preyed upon by cowboy builders, or local businesses being undermined by the criminal activities of a few nefarious traders.”
“We would urge the public to be extra vigilant and to report any information they have on these kind of activities to the department. Tradesmen must give you cancellation and cooling off rights in writing when selling to you on your doorstep. If the trader does not offer you these rights, we’d recommend that you do not purchase.”
“Buying counterfeit goods or devices that allow you to breach copyright can be hazardous. Many of these products do not comply with safety regulations and can be dangerous.”
Sellers visiting consumers at their home are obliged to supply a notice of cancellation for most types of work and sales of goods. Almost every transaction is subject to a 14 day cooling off period for any work or goods more than £42 in value.
The sale of devices designed to circumnavigate copyright protection is a criminal offence, as is the sale of non-duty-paid and/or counterfeit products.
Homeowners and businesses are being urged not to deal with cold callers, if you feel you are victim to this kind of scam, call Citizens Advice Consumer Service 03454 04 05 06
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Newyddion Safonau Masnach
Mae arolygwyr Safonau Masnach wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau partner i frwydro yn erbyn masnachwyr twyllodrus sy'n gweithredu yn yr ardal.
Yn ystod yr wythnos a oedd yn dechrau ar 8 Mai, ymgymerodd Safonau Masnach CNPT ag ymgyrch yn y fwrdeistref sirol i dargedu masnachwyr gwaith adeiladu, plymwaith, atgyweiriadau tai, glanhau tai a masnachwyr eraill, gan eu hatal wrth ymyl y ffordd a'u cynghori ar eu rhwymedigaethau o dan y gyfraith diogelu defnyddwyr.
Ar yr un pryd, roedd eu partneriaid, sef yr heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yn ymchwilio i'r un masnachwyr, gan wirio eu trwyddedau gyrru, eu trwyddedau cludo gwastraff a'u tanciau tanwydd am bresenoldeb diesel "coch", sef diesel di-doll.
Hefyd yn ystod yr wythnos honno, aeth yr adran i ymweld ag eiddo a oedd yn gysylltiedig â gwerthu blychau "Kodi". Mae'r dyfeisiau electronig hyn yn galluogi'r defnyddiwr i gael mynediad anghyfreithlon i wasanaethau teledu tanysgrifiol.
Yn olaf, cynhaliodd yr adran gyrch ar dy a oedd yn ganolfan i gynllwyn gwerthu tybaco ffug. Mae tybaco ffug yn beryglus ac mae'n tanseilio'r fasnach leol sy'n talu am y cynnyrch tybaco drutach ond cyfreithiol.
Meddi Nicola Pearce, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd, "Gobeithiwn fod yr ymgyrchoedd hyn yn anfon neges gref at fasnachwyr twyllodrus a ffugwyr. Ni fyddwn yn caniatáu camfanteisio ar breswylwyr lleol gan adeiladwyr twyllodrus, nac yn goddef busnesau lleol yn cael eu tanseilio gan weithgareddau troseddol nifer bach o fasnachwyr ysgeler.”
"Anogwn y cyhoedd i fod yn arbennig o wyliadwrus ac adrodd am unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am weithgareddau o'r fath i'r adran. Mae'n rhaid i fasnachwyr roi hawliau canslo a chyfnod ailfeddwl i chi wrth werthu ar garreg eich drws. Os nad yw'r hawliau hyn yn cael eu cynnig i chi, argymhellwn na ddylech chi brynu.”
“Gall prynu nwyddau neu ddyfeisiau ffug sy'n eich galluogi i dorri hawlfraint fod yn beryglus. Nid yw llawer o'r cynhyrchion hyn yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch a gallant fod yn beryglus."
Mae rheidrwydd ar werthwyr sy'n ymweld â chartrefi cwsmeriaid i gyflwyno hysbysiad o ganslo ar gyfer y mwyafrif helaeth o wasanaethau a nwyddau a werthir. Mae bron pob gweithrediad masnachol yn amodol ar gyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod ar gyfer unrhyw waith neu nwyddau sy'n werth mwy na £42.
Mae gwerthu dyfeisiau sydd wedi'u dylunio i osgoi cyfyngiadau hawlfraint yn drosedd. Mae gwerthu cynnyrch di-doll neu ffug yn drosedd.
Anogir perchnogion tai a busnesau i beidio â delio â galwyr di-wahoddiad. Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi dioddef y fath o dwyll, ffoniwch Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06.
More stories