A self-employed businessman from Neath has been fined for failing to dispose of waste correctly.
The waste which contained items related to a Car Sales Dealership was investigated by the Council’s Waste Enforcement team.
Mr Ceri James of Cimla Road, Neath, pleaded guilty to two offences in relation to section 34 of the Environmental Protection Act 1990.
On 4th July 2017, Council Solicitor Mike Shaw told Swansea Magistrates Court that on 22nd March 2017, the local authority had received a complaint that a large quantity of controlled waste had been deposited on land at Heol Feol, Cwmavon.
Mr Gareth Evans, Neath Port Talbot Council's Waste Enforcement Officer visited the site on 22nd March and found the waste which was consistent with the Car Sales Dealership, ‘World of Cars’ Pant Yr Heol, Neath. Other evidence found amongst the waste also led the Officer back to 'World of Cars'.
At an interview with the local authority investigation team, Mr James said that he had made arrangements on behalf of his son, who was the director of a business known as 'World of Cars' Pant Yr Heol, Neath, for the removal and disposal of waste from those premises. He said that when he was approached by a person enquiring about scrap metal, that person had offered to remove the waste for him which he had agreed and subsequently paid £190.00.
However, he did not enquire whether the person was a registered waste carrier, nor did he obtain a waste transfer note.
Mr James was ordered by the court to pay a total of £824.00 in fines and charges.
Mr James was represented by Mr Grayson Tanner, Solicitor.
Council Leader Cllr Rob Jones said: “Neath Port Talbot Council has made a firm commitment to preventing fly-tipping, which is detrimental to the environment and unsightly for residents and visitors. Our record for success in prosecutions of this nature is impressive and is the direct result of the hard work and collaborative effort of our own staff, and our partners.
“We urge anyone who is planning on disposing of waste to check that the service providers are licensed before paying for services. We will continue to pursue and prosecute these people who continue to break these laws.”
To report fly tipping in Neath Port Talbot, you can tweet @nptwastecrime, or message their Facebook account NPT Waste Crime or report it online.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
‘World of Cars’ yn cael ei erlyn am dipio'n anghyfreithlon yn y Bwlch
Mae dyn busnes hunangyflogedig o Gastell-nedd wedi derbyn dirwy am fethu gwaredu gwastraff yn gywir.
Cafodd y gwastraff, a oedd yn cynnwys eitemau sy'n ymwneud â'r cwmni ceir, ei archwilio gan dîm gorfodi gwastraff y cyngor.
Plediodd Mr Ceri James o Heol Cimla, Castell-nedd, yn euog i ddwy drosedd mewn perthynas â rhan 34 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Ar 4 Gorffennaf 2017, dywedodd Mike Shaw, cyfreithiwr y cyngor, wrth Lys Ynadon Abertawe, bod yr awdurdod lleol wedi derbyn cwyn ar 22 Mawrth 2017 am swm mawr o wastraff wedi'i reoli a ollyngwyd ar dir yn Heol Feol, Cwmafan.
Aeth Mr Gareth Evans, Swyddog Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot, i ymweld â'r safle ar 22 Mawrth a gweld bod y gwastraff yn gysylltiedig â'r cwmni ceir 'World of Cars', Pant yr Heol, Castell-nedd. Roedd tystiolaeth arall ymysg y gwastraff hefyd wedi arwain y swyddog yn ôl i 'World of Cars'.
Mewn cyfweliad gyda thîm archwilio'r awdurdod lleol, dywedodd Mr James ei fod wedi gwneud trefniadau ar ran ei fab, sef cyfarwyddwr y busnes 'World of Cars', Pant yr Heol, Castell-nedd, i symud a gwaredu'r gwastraff o'r eiddo. Dywedodd pan ddaeth person ato'n gofyn am fetel sgrap, fod y person wedi cynnig symud y gwastraff iddo. Cytunodd i hynny a thalodd £190.00.
Fodd bynnag, nid oedd wedi gofyn a oedd y person yn gludwr gwastraff cofrestredig, ac nid oedd wedi gofyn am nodyn trosglwyddo.
Gorchmynnodd y llys i Mr James dalu cyfanswm o £824.00 mewn dirwyon a chostau.
Mr Grayson Tanner, cyfreithiwr, oedd yn cynrychioli Mr James.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor , y Cynghorydd Rob Jones, "Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo'n llwyr i atal tipio anghyfreithlon, sy'n niweidiol i'r amgylchedd ac sy'n hyll i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae ein cofnod llwyddiant o ran erlyniadau o'r fath yn nodedig ac mae'n ganlyniad uniongyrchol i waith caled ac ymdrechion ar y cyd ein staff a'n partneriaid.
"Rydym yn annog unrhyw un sy'n bwriadu gwaredu gwastraff i wirio bod darparwyr y gwasanaeth yn drwyddedig cyn talu am wasanaethau. Byddwn yn parhau i ganlyn ac erlyn y bobl hyn sy'n parhau i dorri'r cyfreithiau hyn."
I adrodd am unrhyw achosion o dipio'n anghyfreithlon yng Nghastell-nedd Port Talbot, gallwch anfon neges drydar i @nptwastecrime, anfon neges i'w cyfrif Facebook NPT Waste Crime neu adrodd amdanynt ar-lein.
More stories