Ten years after being inspired by Margam’s famous herd of deer, an internationally acclaimed artist will be exhibiting in Margam Country Park for the first time ever this summer.
Fine art sculptor Chris Crane has described how he feels that his iconic piece ‘The Stag’ will be ‘coming home’. The piece is one of four from a collection of sculptures formed from the contemporary medium of reclaimed steel and steel objects. Whilst the stag was inspired by the park, the other three pieces have been made specifically to exhibit at Margam.
The sculptures reflect on the park’s wildlife and will be sited in and around Margam Castle.
Leader of the Council and ward member for Margam was delighted to hear that such a fantastic display is coming to Margam Country Park. “The exhibition is one of many events at the park to celebrate The Year of Legends. It applauds everything that is legendary about Wales, from traditional mythical stories to modern day legendary people, like Port Talbot’s very own Richard Burton”.
Cabinet Member for Education and Leisure Cllr. Peter Rees said: “Margam Country Park has been enjoyed by many visitors over the years. In addition to the magnificent castle and breath-taking grounds, there is always something new to see and do with a year-long programme of events and exhibitions. I am sure that Chris’s fantastic artwork will be a great hit with visitors in the Year of Legends”.
Chris’s work is the culmination of a lifetime’s fascination with wildlife, and making artwork from discarded recyclable materials.
“Some of the work starts life with a magical moment in the countryside, such as spotting a stag or an otter,” he says. “One of the subjects which I have returned to throughout my career is the red stag. Being one of the largest land mammals of our native wildlife with its crown of antlers, the red deer make the most impressive subject. I haven’t found a better place in South Wales to find and study them than in the grounds of Margam Country Park.
“Among the park’s diverse wildlife, the Red Deer has been a great source of inspiration. When the opportunity to exhibit one of the sculptures came about, the idea was such a natural match that it further developed into this exhibition to also reflect on Margam’s gardens”.
Chris Crane’s exhibition will be on show at Margam Country Park from 22 July to 3 September.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Dur ym Myd Natur - Arddangosfa gerfluniau newydd gan Chris Crane
Ddeng mlynedd ar ôl iddo gael ei ysbrydoli gan hyddgre o geirw enwog Margam, bydd artist sydd wedi ennill clod rhyngwladol yn arddangos ei waith ym Mharc Gwledig Margam am y tro cyntaf yr haf hwn.
Mae'r cerflunydd celfyddyd gain, Chris Crane, wedi disgrifio sut y mae'n teimlo nawr bod ei ddarn eiconig, 'The Stag' yn 'dychwelyd adref'. Mae'r darn yn un o bedwar o gasgliad o gerfluniau modern sydd wedi'u creu o wrthrychau dur a dur wedi'i adfer. Cafodd cerflun yr hydd ei ysbrydoli gan y parc, ac mae'r tri darn arall wedi'u creu'n arbennig er mwyn eu harddangos ym Margam.
Mae'r cerfluniau'n adlewyrchu bywyd gwyllt y parc a byddant yn cael eu harddangos yng Nghastell Margam ac o'i amgylch.
Roedd Arweinydd y Cyngor ac aelod ward Margam yn falch o glywed y bydd arddangosfa arbennig o'r fath yn dod i Barc Gwledig Margam. "Mae'r arddangosfa yn un o sawl digwyddiad yn y parc sy'n dathlu'r Flwyddyn Chwedlau. Mae'r Flwyddyn Chwedlau yn dathlu popeth sy'n arbennig am Gymru, o'i chwedlau traddodiadol i'w harwyr modern fel y brodor o Bort Talbot, Richard Burton”.
Dywedodd y Cyng. Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg a Hamdden "Mae llawer o ymwelwyr wedi mwynhau Parc Gwledig Margam ar hyd y blynyddoedd. Yn ogystal â'r castell godidog a'r tir syfrdanol, mae yna rywbeth newydd i'w weld ac i'w wneud o hyd gyda'r rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd a gynhelir trwy gydol y flwyddyn. Rwy'n sicr y bydd gwaith celf arbennig Chris yn boblogaidd iawn gyda'n hymwelwyr ar gyfer y Flwyddyn Chwedlau."
Mae gwaith Chris yn ganlyniad i'w ddiddordeb mawr mewn bywyd gwyllt a chreu gwaith celf allan o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu sydd wedi'u taflu.
"Mae peth o'i waith yn dechrau gydag eiliad hudolus yng nghefn gwlad, megis gweld hydd neu ddyfrgi," mae'n esbonio. "Un o'r themâu rwyf wedi dychwelyd ati drwy gydol fy ngyrfa yw'r hydd coch. Mae'r carw coch, un o famaliaid tir mwyaf ein bywyd gwyllt brodorol, gyda'i goron o gyrn yn destun trawiadol iawn. Nid wyf wedi canfod lle gwell yn ne Cymru na Pharc Gwledig Margam i ddod o hyd iddynt, a'n hastudio.
Ymysg bywyd gwyllt amrywiol y parc, mae'r ceirw coch wedi bod yn ffynhonnell wych o ysbrydoliaeth iddo. Pan ddaeth y cyfle i arddangos un o'r cerfluniau, roedd y syniad yn un mor naturiol ei fod wedi'i ddatblygu ymhellach i'r arddangosfa hon i adlewyrchu ar gerddi Margam hefyd.
Bydd arddangosfa Chris Crane i'w gweld ym Mharc Gwledig Margam o 22 Gorffennaf tan 3 Medi.
More stories