An event has been held to celebrate Neath Port Talbot’s very best green spaces and to officially present nine community and local authority sites with Green Flags.
Each year the Green Flag Awards recognise the UK’s best parks, gardens and green spaces and are only awarded to sites which can demonstrate they have met the high standard required.
This year four parks run by Neath Port Talbot Council achieved the Green Flag Award - Gnoll Estate Country Park, Margam Country Park, Victoria Gardens and Talbot Memorial Park.
In addition five sites - Aberavon Community Project Garden, Amman Valley Trotting Club, Glyncorrwg Ponds, Godre'r Graig Park and Pontardawe Riverside Park - achieved the Green Flag Community Award, which is the benchmark for parks and green spaces managed by volunteers.
The Green Flag Awards are delivered in Wales by Keep Wales Tidy with support from Natural Resources Wales and each year three local authority areas are invited to host their own Green Flag Award presentation and celebration event. This is the first time Neath Port Talbot has hosted such an event.
The event was held at Gnoll Estate Country Park, which has proudly flown the Green Flag every year since 2010.
Councillor Edward Latham, Cabinet Member for Streetscene and Engineering said: “Being recognised with a Green Flag Award is a great achievement and a mark of quality for any green space, so I am therefore very proud that despite pressures on budgets, Neath Port Talbot is still achieving these high standards.
“I would like to give my sincere thanks both to Council staff and to the many volunteers such as our ‘Friends of’ groups who dedicate a great deal of their own time and effort to maintain and enhance our parks and gardens across the county borough.”
“Congratulations must also go to the five community organisations who have demonstrated enormous commitment towards managing their own green spaces to such a high standard”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Mannau gwyrdd arobryn Castell-nedd Port Talbot
Cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu mannau gwyrdd gorau Castell-nedd Port Talbot ac i gyflwyno Baneri Gwyrdd yn swyddogol i naw safle cymunedol ac awdurdod lleol.
Bob blwyddyn, mae Gwobrau'r Faner Werdd yn cydnabod parciau, gerddi a mannau gwyrdd gorau'r DU ac fe'u dyfernir yn unig i safleoedd sy'n gallu dangos eu bod wedi bodloni'r safon uchel ofynnol.
Eleni, roedd pedwar parc a reolir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd - Parc Gwledig Ystâd y Gnoll, Parc Gwledig Margam a Pharc Coffa Talbot.
Yn ogystal, derbyniodd pum safle - Gardd Prosiect Cymunedol Aberafan, Clwb Trotian Dyffryn Aman, Pyllau Glyncorrwg, Parc Godre'r Graig a Pharc Glan-yr-afon Pontardawe - Wobr Gymunedol y Faner Werdd, sy'n feincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd a reolir gan wirfoddolwyr.
Cyflawnir Gwobrau'r Faner Werdd yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus gyda chefnogaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a, bob blwyddyn, gwahoddir tair ardal awdurdod lleol i gynnal eu cyflwyniad a'u digwyddiad eu hunain i ddathlu Gwobr y Faner Werdd. Dyma'r tro cyntaf y mae Castell-nedd Port Talbot wedi cynnal digwyddiad o'r fath.
Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll, sydd wedi ennill gwobr y Faner Werdd bob blwyddyn ers 2010.
Meddai'r Cynghorydd Edward Latham, Aelod y Cabinet dros y Strydlun a Pheirianneg, "Mae cael eich cydnabod â Gwobr y Faner Werdd yn gamp fawr ac yn nodi ansawdd ar gyfer unrhyw fan gwyrdd, felly rwy'n falch iawn bod Castell-nedd Port Talbot yn parhau i gyflawni'r safonau uchel hyn er gwaethaf y pwysau ar gyllidebau.
"Hoffwn ddiolch o galon i staff y cyngor ac i'r nifer o wirfoddolwyr, megis ein grwpiau "Cyfeillion" sy'n rhoi llawer o'u hamser a'u hymdrech i gynnal a chadw a gwella ein parciau a'n gerddi ar draws y fwrdeistref sirol".
"Llongyfarchiadau hefyd i'r pum sefydliad cymunedol sydd wedi dangos ymrwymiad enfawr tuag at reoli eu mannau gwyrdd eu hunain i gynnal safon mor uchel".
More stories