A garden dedicated to those who lost their lives at Cefn Coed Colliery has been unveiled.
Located on the grounds of the former colliery in Crynant, the garden is open to all visitors to the museum.
The memorial was designed by Olwen Maidment and was created by the Friends of Cefn Coed Colliery Museum, a volunteer group who also donated the flowers. Donations were also made by members of the public and local Councillor, Sian Harris. Plaques with names of those who died at the colliery were commissioned by family members and are featured throughout the garden.
Leader of Neath Port Talbot Council, Councillor Rob Jones said:
“This wonderful garden is a welcome addition to the museum and is a fitting memorial to commemorate those who lost their lives at the colliery.
“The memorial will ensure the site’s history is remembered for years to come and is a place where visitors can come to pay their tributes.
“I would like to thank everyone who has contributed to the garden for their hard work and generous donations, and to Olwen Maidment for her creative design work. Without their help and support this would not have been possible.”
The opening took place on Wednesday (23rd August) and was attended by the Leader of Neath Port Talbot Council, Councillor Rob Jones and Aled Evans, Director of Education, Leisure and Lifelong Learning.
The new garden follows the museum’s reopening last May after it closed for renovation works. This included remedial work to maintain the colliery’s winding headframes and structures that sit directly above the mine.
Visit www.npt.gov.uk/cefncoedmuseum to find out more about Cefn Coed Colliery Museum.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gardd Goffa Glowyr yn agor yn Amgueddfa Glofa Cefn Coed
Mae gardd sy'n talu teyrnged i'r rheiny a gollodd eu bywydau yng Nglofa Cefn Coed wedi cael ei dadorchuddio.
Wedi'i lleoli ar safle'r hen bwll glo yn y Creunant, mae'r ardd ar agor i holl ymwelwyr yr amgueddfa.
Dyluniwyd y gofeb gan Olwen Maidment, a chafodd ei chreu gan Gyfeillion Amgueddfa Gwaith Glo Cefn Coed, grwp gwirfoddol a wnaeth gyfrannu'r blodau hefyd. Cafwyd rhoddion gan aelodau'r cyhoedd a'r cynghorydd lleol, Sian Harris, hefyd. Comisiynwyd placiau gydag enwau'r sawl bu farw yn y pwll glo gan aelodau teulu, a chânt eu dangos trwy gydol yr ardd.
Meddai Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones,
"Mae'r ardd hyfryd hon yn ychwanegiad braf i'r amgueddfa ac yn gofeb briodol i ddathlu'r rheiny a gollodd eu bywydau yn y pwll glo.
"Bydd y gofeb yn sicrhau bod hanes y safle'n cael ei gofio am flynyddoedd lawer i ddod, ac mae'n lle i ymwelwyr dalu teyrnged.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ardd am eu gwaith caled a'u rhoddion hael, a hoffwn ddiolch i Olwen Maidment am ei gwaith dylunio creadigol. Heb eu help nhw, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl.”
Agorwyd yr ardd ddydd Mercher (23 Awst) gyda Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a Llyfrgellydd y Sir, Wayne John yn bresennol.
Mae'r ardd newydd yn dilyn ailagor yr amgueddfa fis Mai diwethaf ar ôl iddi gau ar gyfer gwaith adnewyddu. Roedd hwn yn cynnwys gwaith adfer i gynnal a chadw fframiau a strwythurau weindio'r pwll glo sy'n uniongyrchol uwchben y pwll.
Ewch i www.npt.gov.uk/cefncoedmuseum?lang=cy-gb i ddarganfod mwy am Amgueddfa Glofa Cefn Coed.
More stories