A Neath landlord has been fined for failing to become licensed under the Rent Smart Wales scheme.
Richard Howells pleaded guilty and was fined £687 at Cardiff Magistrates’ Court for offences under the Housing (Wales) Act 2014.
Rent Smart Wales is the Welsh Government registration and licensing scheme for all private landlords and agents with properties in Wales. Enforcement powers have been active since November 23, 2016.
Following the successful prosecution, a spokesperson for Cardiff Council, the single licensing authority for Wales, warned that landlords who continue to ignore the law will be found and prosecuted.
The spokesperson said: “Rent Smart Wales regularly receives reports about unregistered properties and landlords who own or manage properties without being registered and licensed. This prosecution shows that we will find out about those individuals who think they are under the radar.
“We work with local authorities across Wales to identify unregistered properties and landlords who aren’t complying and get in contact to remind them of their legal obligations. As these prosecutions show, there are clearly those who ignore the warnings but enforcement activity is gaining momentum and we will take action.”
Cllr Des Davies, Neath Port Talbot Council Cabinet Member for Community Safety and Public Protection said: “The deadline to comply with the Rent Smart Wales passed some time ago and now with Rent Smart Wales enforcement officers, we are now actively seeking out people who have made no attempt to comply with the law and will not hesitate to take enforcement action against those landlords who seek to avoid complying with the Welsh Government’s legislation”
“This prosecution sends a strong message to other non-compliant landlords or agents letting out properties in Neath Port Talbot. Landlords who continue to flout the law will be dealt with and will find it extremely difficult to carry out their duties without being registered and/or licensed.”
Mr Howells of Dan Y Graig Terrace, Cadoxton, Neath pleaded guilty to failing to obtain a license for letting and managing a property at Dan Y Bryn, Tonna, Neath.
Following reports of the unregistered property to Rent Smart Wales, officers contacted Mr Howells and he proceeded to register. However, he did not submit a completed licence application and was issued with a Fixed Penalty Notice.
Mr Howells failed to pay the notice resulting in the prosecution for three offences including failure to provide information about the rental address under Section 37 of the Housing (Wales) Act 2014.
Magistrates fined Mr Howells £687 and ordered him to pay £200 costs.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Dirwyon I Landlordiaid Heb Drwydded Am Herio Deddfwriaeth Rhentu Doeth Cymru
Mae landlord o Gastell Nedd wedi cael dirwy am beidio â chael trwydded dan gynllun Rhentu Doeth Cymru.
Plediodd Richard Howells yn euog, a chafodd ddirwy o £687 yn Llys Ynadon Caerdydd oherwydd troseddau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Rhentu Doeth Cymru yw cynllun cofrestru a thrwyddedu Llywodraeth Cymru ar gyfer pob landlord ac asiant sydd ag eiddo yng Nghymru. Mae’r pwerau gorfodi wedi bod yn weithredol ers 23 Tachwedd, 2016.
Yn dilyn yr erlyniad llwyddiannus, gwnaeth cynrychiolydd o Gyngor Caerdydd, yr awdurdod trwyddedu sengl yng Nghymru, rybuddio y bydd landlordiaid sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith yn cael eu canfod a’u herlyn.
Dywedodd y cynrychiolydd: “Mae Rhentu Doeth Cymru yn derbyn adroddiadau rheolaidd am eiddo heb eu cofrestru a landlordiaid sydd berchen ar eiddo neu sy’n rheoli eiddo heb fod yn gofrestredig nac yn drwyddedig. Dengys yr erlyniad hwn y byddwn ni'n dod o hyd i’r unigolion hynny sy’n meddwl nad oes modd eu canfod.
“Rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru i nodi eiddo heb eu cofrestru a landlordiaid nad ydynt yn cydymffurfio ac yn cysylltu â nhw i’w hatgoffa o’u rhwymedigaethau cyfreithiol. Dengys yr erlyniadau hyn fod rhai sy’n amlwg yn anwybyddu’r rhybuddion, ond mae gweithgarwch gorfodi yn cynyddu momentwm a byddwn ni yn gweithredu."
Meddai’r Cyng. Des Davies, Aelod Cabinet Castell-nedd Port Talbot dros Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu’r Cyhoedd: “Roedd y dyddiad cau i gydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru cryn dipyn o amser yn ôl, felly wrth gydweithio â swyddogion gorfodi Rhentu Doeth Cymru rydym yn mynd ar ôl y bobl hynny sydd heb geisio cydymffurfio â'r gyfraith ac ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi yn erbyn y landlordiaid hynny sy’n ceisio osgoi cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru”
“Mae’r erlyniad hwn yn anfon neges gref at landlordiaid neu asiantau eraill sydd heb gydymffurfio, sy’n gosod eiddo yng Nghastell-nedd Port Talbot Bydd landlordiaid sy’n dal i dorri’r gyfraith yn cael eu cosbi ac yn ei chael hi’n anodd iawn i ymgymryd â’u dyletswyddau heb fod wedi cofrestru a/neu bod â thrwydded.”
Plediodd Mr Howells o Dan y Graig Terrace, Tregatwg, Castell-nedd yn euog i fethu â chael trwydded i osod a rheoli eiddo yn Dan y Bryn, Tonna, Castell-nedd.
Yn dilyn adroddiadau o’r eiddo heb ei gofrestru i Rhentu Doeth Cymru, aeth swyddogion ati i gysylltu â Mr Howells ac fe aeth yn ei flaen i gofrestru. Fodd bynnag, ni chyflwynodd gais wedi'i gwblhau am drwydded a chyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig iddo.
Methodd Mr Howells â thalu’r hysbysiad gan arwain ato’n cael ei erlyn am dair trosedd gan gynnwys methu â rhoi gwybodaeth am y cyfeiriad rhent o dan Adran 37 Deddf Tai (Cymru) 2014.
Rhoddodd yr ynadon ddirwy gwerth £687 i Mr Howells a gorchymyn iddo dalu costau gwerth £200.
More stories