Are you brave enough to join in with all the spooky Halloween activities happening across Neath Port Talbot during October half term?
The family friendly Halloween activities taking place around the county borough include spooky story sessions, Halloween arts and crafts sessions, Halloween Lego clubs, deadly discos and many more!
Cabinet Member for Education Skills and Culture, Cllr Peter Rees, said “It is a joy to see so many opportunities for families to have fun in Neath Port Talbot over the October half term. The range of country parks and indoor attractions in Neath Port Talbot really do have something to offer residents and visitors all year round.
Set against the magnificently eerie backdrop of Margam Castle, Margam Country Park’s Spookfest will entertain all ages with a huge programme of events including a Halloween quiz, spooky stories and Halloween arts and crafts throughout half term. Don’t forget to wear your Halloween costume… the scarier the better!
Elsewhere in the county borough, Pontardawe, Glynneath, Sandfields, Neath and Cwmafan Libraries will be hosting their own events, ranging from creepy craft sessions, to scary storytelling and even broom making!
Children aged 3-8 and their ‘minder’s can join the Jollytotz Festival at Pontardawe Arts Centre for lots of Halloween fun on 31st October or if you’re brave enough to watch a scary film, why not check out the film listings at The Gwyn Hall www.gwynhall.celticleisure.org.
For more information on times, prices and locations of all of the Halloween events and activities taking place across Neath Port Talbot, take a look at the ‘What’s On’ listings via www.npt.gov.uk/whatson.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gwyl Fwganllyd Calan Gaeaf yng Nghastell-nedd Port Talbot
Ydych chi'n ddigon dewr i ymuno yn yr holl weithgareddau bwganllyd Calan Gaeaf a gynhelir yn ystod hanner tymor mis Hydref?
Mae'r gweithgareddau Calan Gaeaf sy'n addas i deuluoedd a gynhelir ar draws y fwrdeistref sirol yn cynnwys sesiynau straeon bwganllyd, sesiynau celf a chrefft Calan Gaeaf, clybiau Lego Calan Gaeaf, disgos dieflig a llawer mwy!
Meddai'r Cyng. Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, "Mae'n hyfryd gweld cynifer o gyfleoedd i deuluoedd gael hwyl yng Nghastell-nedd Port Talbot dros hanner tymor mis Hydref. Mae'r amrywiaeth o barciau gwledig ac atyniadau dan do yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnig rhywbeth i breswylwyr ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.
Gyda chefndir ysblennydd ac iasoer Castell Margam, bydd Gwyl Fwganllyd Parc Gwledig Margam yn diddanu pobl o bob oedran gyda rhaglen enfawr o ddigwyddiadau gan gynnwys cwis Calan Gaeaf, straeon arswydus, a chelf a chrefft Calan Gaeaf yn ystod hanner tymor. Cofiwch wisgo eich gwisg Calan Gaeaf ... gorau po fwyaf dychrynllyd!
Mewn mannau eraill yn y fwrdeistref sirol, bydd llyfrgelloedd Pontardawe, Glyn-nedd, Sandfields, Castell-nedd a Chwmafan yn cynnal eu digwyddiadau eu hunain, gan amrywio o sesiynau crefftau iasol i adrodd straeon arswydus a hyd yn oed creu ysgubellau!
Gall plant 3-8 oed a'u gwarchodwyr ymuno â'r Wyl Jollytotz yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe ar gyfer llawer o hwyl Calan Gaeaf ar 31 Hydref, neu, os ydych yn ddigon dewr i wylio ffilm arswydus, beth am gymryd cip ar y rhestr o ffilmiau yn Neuadd Gwyn yn gwynhall.celticleisure.org/?lang=cy?
I gael mwy o wybodaeth am amserau, pris a lleoliadau'r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau Calan Gaeaf a gynhelir ar draws Castell-nedd Port Talbot, cymerwch gip ar y rhestr 'Digwyddiadau' yn www.npt.gov.uk/whatson?lang=cy-gb.
More stories