An autism awareness event held at Aberafan Shopping Centre has been hailed a success.
Hundreds of family members, friends, carers and professionals working with people with autism attended the event to find out more about what support is available in Neath Port Talbot.
The event was supported by a number of information stands which people could drop in and talk to, including educational and social services departments of Neath Port Talbot Council, NPTC Group, NPT Council for Voluntary Service and a number of local third sector organisations.
At the event, on behalf of the various shops and businesses, Aberafan Shopping Centre was presented with the ‘Rainbow Award’ from ASD Info Wales for becoming an autism aware shopping centre by sharing the autism information posters with staff members, promoting awareness raising and displaying autism aware stickers in the shop windows.
Leader of Neath Port Talbot Council, Councillor Rob Jones, said:
“It was encouraging to see such a great turn out from both people wanting to find out more information and organisations promoting what services they offer. Events such as these are crucial to those who care for people with autism as it raises awareness of what support is available.
“The Council is committed to supporting people with autism to live the life they want through assisting them to find employment, leisure and social activities.”
The event was hosted by the ASD Steering Group for Neath Port Talbot, a collaboration between Neath Port Talbot Council, NPT Council for Voluntary Service and third sector organisations. The Group has been set up to contribute to and implement the Welsh Assembly Government Autistic Spectrum Disorder (ASD) Strategic Action Plan for Wales on behalf of Neath Port Talbot.
Gaynor Richards MBE, Director of Neath Port Talbot CVS, said:
“One of the main priorities of the Local ASD Steering Group is to ensure children and adults with autism are supported to reach their full potential in all aspects of their lives.
“The group aims to drive improvements across services through responding to the needs of individuals and their families, encourage joint working between members of the Steering Group, raising awareness of autism amongst the wider community, and developing a local response to service requirements.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Cyhoeddwyd bod digwyddiad ymwybyddiaeth o awtistiaeth a gynhaliwyd yng Nghanolfan Siopa Aberafan wedi bod yn llwyddiant.
Aeth cannoedd o aelodau teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a phobl broffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ag awtistiaeth i'r digwyddiad i gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Bydd amrywiaeth eang o stondinau gwybodaeth yn y digwyddiad y gall pobl alw heibio iddynt a siarad â'r stondinwyr, gan gynnwys adrannau addysg a gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Grwp CNPT, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol CNPT a nifer o sefydliadau trydydd sector lleol.
Yn y digwyddiad, ar ran y siopau a'r busnesau amrywiol, cyflwynwyd Canolfan Siopa Aberafan â Gwobr Enfys gan ASD Info Wales am fod yn ganolfan siopa sy'n ymwybodol o awtistiaeth drwy rannu'r posteri gwybodaeth am awtistiaeth ag aelodau staff, hybu cynyddu ymwybyddiaeth ac arddangos sticeri ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar ffenestri'r siopau.
Meddai'r Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot,
"Roedd yn galonogol gweld cymaint o bobl yno sydd am gael mwy o wybodaeth, a sefydliadau sy'n hyrwyddo'r gwasanaethau a gynigir ganddynt. Mae digwyddiadau fel y rhain yn hanfodol i'r rhai sy'n gofalu am bobl ag awtistiaeth am eu bod yn cynyddu ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael.
“Mae'r cyngor yn ymrwymedig i gefnogi pobl ag awtistiaeth i fyw'r bywyd maent am ei fyw drwy eu cynorthwyo i ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth, hamdden a chymdeithasol.”
Trefnir y digwyddiad gan y Grwp Llywio ASA Lleol, cydweithrediad rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol CNPT a sefydliadau'r trydydd sector. Sefydlwyd y grwp i gyfrannu at Gynllun Gweithredu Strategol Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i roi ar waith, ar ran Castell-nedd Port Talbot.
Meddai Gaynor Richards MBE, Cyfarwyddwr CGG Castell-nedd Port Talbot,
"Un o brif flaenoriaethau'r Grwp Llywio ASA Lleol yw sicrhau y cefnogir plant ac oedolion ag awtistiaeth i gyrraedd eu potensial llawn ym mhob agwedd ar eu bywydau.
"Mae'r grwp yn ceisio ysgogi gwelliannau ar draws gwasanaethau drwy ymateb i anghenion unigolion a'u teuluoedd, annog gweithio ar y cyd rhwng aelodau o'r Grwp Llywio, cynyddu ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith y gymuned ehangach a datblygu ymateb lleol i ofynion y gwasanaeth."
Ar ddiwrnod y digwyddiad, bydd y stondinau gwybodaeth yn defnyddio'r stwnshnod #CNPTYnCefnogiASA i bobl sydd am ymuno â'r sgwrs neu gael y diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd drwy gyfryngau cymdeithasol.
More stories