Contractors working for Neath Port Talbot Council have started renewing two historic bridges in Briton Ferry.
Staff from Neath based Ian Davies Plant Ltd have been working at the East Bridge in Giant’s Grave and will soon be starting renewal work on the nearby West Bridge.
The project, costing an estimated £180,000, involves laying new concrete on the surfaces of the bridges and their parapets will also be fitted with new stonework.
The renewal project at the Briton Ferry bridges is expected to take between three and three and a half months.
The East and West bridges which span the ancient Neath Canal are thought to have been built in the early 1900s.
The two landmark bridges are popular with both pedestrians and cyclists and the work will ensure access over the canal for many years to come.
Cllr Ted Latham, Neath Port Talbot Council's Cabinet Member for Streetscene and Engineering,said: “These bridges are well used not only by people from Briton Ferry by an increasing number of visitors to the area who come on foot and with cycles.
“This is an historic part of the County Borough and it’s good to see these two historic structures being renewed so access in this area can be guaranteed for years to come.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gwaith yn dechrau i adnewyddu pontydd hanesyddol dros Gamlas Nedd
Mae contractwyr sy'n gweithio i Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dechrau adnewyddu dwy bont hanesyddol yn Llansawel.
Mae staff o Ian Davies Plant Ltd yng Nghastell-nedd wedi bod yn gweithio ar bont ddwyreiniol Giant's Grave a byddant yn dechrau'r gwaith adnewyddu ar y bont orllewinol gerllaw yn fuan.
Mae'r prosiect, sy'n costio oddeutu £180,000, yn cynnwys gosod concrit newydd ar arwynebau'r pontydd a bydd gwaith cerrig newydd hefyd yn cael ei wneud i'r canllawiau.
Disgwylir i'r prosiect i adnewyddu pontydd Llansawel gymryd rhwng tri mis a thri mis a hanner i'w gwblhau.
Credir i'r pontydd dwyreiniol a gorllewinol, sy'n ymestyn dros Gamlas Nedd hanesyddol, gael eu hadeiladu yn y 1900au cynnar.
Mae'r ddwy bont dirnod yn boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr a bydd y gwaith yn sicrhau bod mynediad ar gael dros y gamlas am flynyddoedd lawer i ddod.
Meddai'r Cynghorydd Ted Latham, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros y Strydlun a Pheirianneg, "Defnyddir y pontydd hyn yn gyson gan bobl Llansawel a chan nifer cynyddol o ymwelwyr sy'n cerdded neu'n beicio i'r ardal.
"Dyma ran hanesyddol o'r fwrdeistref sirol ac mae'n braf cael gweld y ddau adeiledd hanesyddol hyn yn cael eu hadnewyddu er mwyn sicrhau y bydd mynediad i'r ardal hon am flynyddoedd i ddod."
More stories