The Neath Town Centre Consortium brings the Real Ale and Cider Festival to the town for the two day event, which, now in its fifth year, is an established part of Neath’s busy line-up of events which include The Great Guitar Gig, the historic Neath September Fair and the Neath Food & Drink Festival (October).
On Friday July 20th and Saturday July 21st, from 12am to 11pm, Neath’s Old Town Hall on Church Place will be offering first class real ales and ciders from a variety of local brewers.
Guests will be entertained by an array of live music throughout the two-day festival which promises to be a great celebration of local talent and community spirit. On the Saturday evening there will also be a family entertainment area and a pulled pork stall in Angel Square.
Free parking after 10 am in all town centre pay and display car parks in the town centre. Entry to the festival is £5 (with free glass) and if entry tickets are bought on Friday purchasers qualify for a “free day” on Saturday.
Among the ales due to be on offer are Gower Power (Gower Brewery), Cherry Bomb (Neath Ales) Iron Runner (Borough Arms) and Mosaic Pale Ale (Grey Trees).
Ciders due to be served up include Celtic Warrior (Gwynt y Ddraig), Heartbreaker (Hallets) and Pig Swill (Afal y Graig).
Music will be provided by the likes of Sara Suta (Neath Town Hall, Saturday, 5pm) Santa Cruz (Neath Town Hall, Saturday, 9pm) and Like a Lion (Saturday, Angel Square, 9pm).
Councillor Annette Wingrave, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Regeneration and Sustainable Development said: “It’s great to see this festival, now in its fifth year, growing and attracting visitors to Neath’s town centre which is attracting a good reputation for its festivals.
“The Neath Real Ale and Cider festival is a fantastic showpiece for brewers and cider makers and is a marvellous opportunity to show off our beautiful market town to the many tourists and residents that visit us over the two days.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Diolch! Mae'n amser ar gyfer yr Wyl Cwrw a Seidr Go Iawn
Canol Castell-nedd fydd y lle i bobl sy'n dwlu ar gwrw a seidr go iawn fynd iddo ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Consortiwm Canol Tref Castell-nedd sy'n dod â'r Wyl Cwrw a Seidr Go Iawn i'r dref am y digwyddiad deuddydd sydd bellach yn ei bumed flwyddyn. Mae'r wyl erbyn hyn yn rhan sefydledig o restr brysur o ddigwyddiadau Castell-nedd sy'n cynnwys y Gig Gitâr Gwych, Ffair Fedi hanesyddol Castell-nedd a Gwyl Bwyd a Diod Castell-nedd (mis Hydref).
Ddydd Gwener 20 Gorffennaf a dydd Sadwrn 21 Gorffennaf, o 12 ganol dydd tan 11pm, cynigir cyrfau a seidrau go iawn o'r radd flaenaf gan amrywiaeth o fragwyr lleol yn Hen Neuadd y Dref, Castell-nedd.
Bydd llawer o adloniant byw ar gael i ddifyrru gwesteion drwy gydol yr wyl ddeuddydd sy'n addo bod yn ddathliad gwych o ddoniau lleol ac ysbryd cymunedol. Ar y nos Sadwrn, bydd ardal adloniant i'r teulu hefyd a stondin porc wedi'i dynnu yn Sgwâr yr Angel.
Bydd parcio am ddim ar ôl 10am ym mhob maes parcio talu ac arddangos yng nghanol y dref. Pris mynediad i'r wyl yw £5 (gyda gwydryn am ddim) ac os caiff tocynnau mynediad eu prynu ddydd Gwener, bydd hawl gan brynwyr gael "diwrnod am ddim" ddydd Sadwrn.
Bydd Gower Power (Gower Brewery), Cherry Bomb (Neath Ales), Iron Runner (Borough Arms) a Mosaic Pale Ale (Grey Trees) ymysg y cyrfau go iawn a fydd ar gael.
Bydd y seidrau a fydd ar gael yn cynnwys Celtic Warrior (Gwynt y Ddraig), Heartbreaker (Hallets) a Pig Swill (Afal y Graig).
Darperir cerddoriaeth gan Sara Suta (Neuadd y Dref Castell-nedd, nos Sadwrn, 5pm) Santa Cruz (Neuadd y Dref Castell-nedd, nos Sadwrn, 9pm) a Like a Lion (nos Sadwrn Sgwâr yr Angel, 9pm).
Dywedodd y Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Mae'n wych gweld yr wyl hon, sydd bellach yn ei phumed flwyddyn, yn tyfu ac yn denu ymwelwyr i ganol tref Castell-nedd sy'n ennill enw da am ei gwyliau.
“Mae Gwyl Cwrw a Seidr Go Iawn Castell-nedd yn ddigwyddiad o fri i fragwyr cwrw a gwneuthurwyr seidr ac yn gyfle gwych i arddangos ein tref farchnad hyfryd i'r llu o dwristiaid a phreswylwyr sy'n ymweld â'r ardal dros y deuddydd.”
More stories