Applications for a free childcare and early education scheme being piloted in 14 wards across Neath Port Talbot is now open.
The scheme, known as The Childcare Offer for Wales, provides eligible working parents with 30 hours a week of funded early education and childcare for 3 to 4 year olds, for up to 48 weeks of the year.
The scheme is being initially piloted in the wards of: Aberavon, Baglan, Blaengwrach, Bryncoch (North and South), Cymmer, Glyncorrwg, Gwaun-Cae-Gurwen, Gwynfi, Lower Brynamman, Onllwyn, Pontardawe, Resolven and Taibach. Wards not in the pilot will be included in a planned further rollout of the scheme later in the year, pending agreement from Welsh Government.
Councillor Peter Rees, cabinet member for education, skills and culture, said:
“I am delighted we are able to give families across Neath Port Talbot the opportunity to access The Childcare Offer for Wales scheme.
“The scheme will make a real difference to parents, reducing the pressure on family income and helping ensure childcare is not a barrier to them taking up employment.”
To be eligible for the scheme, parents need to live within one of the selected pilot areas, have a child who is 3 or 4 years old, and earn on average a weekly minimum equivalent of 16 hours at national minimum wage (NMW) or national living wage (NLW) or more. If you are in a lone parent family you need to be working, and if you are in a two parent family you both need to be working. If you are self-employed or on a zero hours contract you need to be able to prove this by providing the relevant documents.
Applications are now open for parents online: www.nptfamily.com/childcareoffer . All applications for the scheme are processed by Neath Port Talbot Council’s Childcare Offer Team.
Childcare providers are also being encouraged to register their service with the scheme to ensure parents can select them when applying for the Offer. Childcare providers can find the provider registration form using the same webpage.
The scheme is funded by Welsh Government as part of its ‘Taking Wales Forward’ programme, with one of its main pledges being the removal of barriers stopping parents from taking up employment.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Mae'r cynllun, sef y Cynnig Gofal Plant i Gymru, yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir am hyd at 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer plant 3 a 4 oed y mae eu rhieni'n gymwys ac yn gweithio.
Cytunodd Bwrdd Addysg, Sgiliau a Diwylliant Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot i'r cynllun gael ei dreialu i ddechrau yn wardiau Aberafan, Baglan, Blaengwrach, Bryncoch (de a gogledd), y Cymer, Glyncorrwg, Gwaencaegurwen, Gwynfi, Brynaman Isaf, Onllwyn, Pontardawe, Resolfen a Thai-bach. Bydd y wardiau nad ydynt yn rhan o'r cynllun peilot cychwynnol yn cael eu cynnwys mewn cyflwyniad cynlluniedig arall o'r cynllun yn hwyrach yn y flwyddyn, yn amodol ar gytundeb gan Lywodraeth Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant,
"Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cynnig y cyfle i deuluoedd ar draws Castell-nedd Port Talbot gael mynediad at gynllun y Cynnig Gofal Plant i Gymru.
"Bydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth go iawn i rieni, gan leihau pwysau ar incwm teuluoedd a helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag dechrau gweithio."
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynnig, mae'n rhaid i'r rhieni fod yn byw yn un o'r ardaloedd peilot dewisol, mae'n rhaid bod ganddynt blentyn sy'n 3 neu'n 4 oed, ac mae'n rhaid iddynt weithio, ar gyfartaledd, leiafswm wythnosol sydd gyfwerth ag 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu'r cyflog byw cenedlaethol neu fwy. Os ydych yn deulu rhiant sengl, mae angen eich bod yn gweithio, ac os ydych yn rhan o deulu â dau riant, mae angen bod y ddau ohonoch yn gweithio. Os ydych yn hunangyflogedig neu ar gontract heb oriau penodol, bydd angen i chi brofi hyn drwy ddarparu'r dogfennau perthnasol.
Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i rhaglen 'Symud Cymru Ymlaen', ac un o'i phrif addewidion yw cael gwared ar rwystrau sy'n atal rhieni rhag gweithio.
Caiff ceisiadau ar gyfer y cynllun eu prosesu gan Dîm Cynnig Gofal Plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Bydd hi'n bosib i rieni gofrestru ar-lein ar ddechrau mis Awst drwy'r we-dudalen www.nptfamily.com/childcareoffer.
Anogir darparwyr gofal plant hefyd i gofrestru eu gwasanaeth gyda'r cynllun er mwyn sicrhau y gall rhieni eu dewis wrth gyflwyno cais am y cynnig. Gall darparwyr gofal plant ddod o hyd i'r ffurflen gofrestru ar gyfer darparwyr drwy ddefnyddio'r un we-dudalen.
Cytuno ar ardaloedd peilot ar gyfer gofal plant ac addysg gynnar am ddim
Mae Cynghorwyr wedi cymeradwyo cynllun gofal plant ac addysg gynnar am ddim i'w dreialu mewn 14 o wardiau ar draws Castell-nedd Port Talbot o fis Medi 2018.
More stories