Two men have been given fines and costs totalling more than £2,000 after they admitted dumping waste including a swimming pool, a tent, a bed frame and soiled nappies along Crymlyn Road and Drummau Road in Skewen.
Leighton Kieft, 38, of Glantawe Street, Morriston, Swansea, dumped the waste on October 29th last year on behalf of a woman from Llanelli after they made contact on Facebook.
After a complaint was received from the public about the waste dumped in Skewen, Neath Port Talbot Council Waste Enforcement Officers investigated and in the dumped waste, found a letter with the woman’s name and address on it.
After visiting her they traced Mr Kieft from photographs of his van the woman’s partner had taken.
On being interviewed by Waste Enforcement Officers, Mr Kieft admitted removing waste for profit and transporting it without a license. He also revealed he was helped in depositing the waste by Terance Fox, 28, of Powys Avenue, Townhill, Swansea.
Mr Fox later admitted throwing the waste from the back of the van as it moved along Drummau Road and Crymlyn Road.
The woman told the Council’s investigating Waste Enforcement Officers she had paid Mr Kieft £90 in cash.
At West Glamorgan Magistrates Court on January 29th this year, Mr Kieft was fined £640, given a £700 costs order and a victim impact surcharge of £64 after pleading guilty to illegally depositing controlled waste contrary to section 33, (1a) of the Environmental Protection Act 1990 and transporting controlled waste without being registered to do so contrary to Section 1 of the Control of Pollution (Amendment) Act 1989.
Mr Fox was fined £400 and given a £314.42 costs order plus a £40 victim impact surcharge for illegally depositing controlled waste. He pleaded guilty.
Councillor Ted Latham, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetscene and Engineering said: “Neath Port Talbot Council makes more prosecutions for fly-tipping than any other in Wales and this latest case shows we will not tolerate the dumping of rubbish anywhere in the county borough.
“This has proved very expensive for the perpetrators and we also warn that legislation introduced in 2005 places a duty of care on householders to ensure their domestic waste is disposed of correctly which means people can be prosecuted for hiring others to dispose of waste illegally.”
Householders should:
• Confirm that the person who removes the waste is registered to do so;
• Make sure that you receive a 'Transfer Note' (Official Receipt) from the carrier.
• Take the vehicle registration number from the carrier.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Tipiwyr anghyfreithlon Facebook yn wynebu holl rym y gyfraith
Mae dau ddyn wedi derbyn dirwy a chostau o o fwy na £2000 wedi iddynt gyfaddef i dipio gwastraff, gan gynnwys pwll nofio, pabell, ffrâm gwely a chewynnau brwnt ar hyd Heol Crymlyn a Heol Drumau yn Sgiwen.
Roedd Leighton Kieft, o Stryd Glantawe, Treforys, Abertawe, wedi tipio'r gwastraff ar 29 Hydref y llynedd ar ran menyw o Lanelli wedi iddynt gysylltu â'i gilydd ar Facebook.
Ar ôl i gwyn gael ei derbyn gan y cyhoedd am y gwastraff a dipiwyd yn Sgiwen, aeth Swyddogion Gorfodi Castell-nedd Port Talbot ati i ymchwilio i'r mater ac yn y gwastraff a dipiwyd, canfuwyd llythyr gydag enw a chyfeiriad y fenyw arno.
Ar ôl ymweld â hi, llwyddon nhw i ddod o hyd i Mr Kieft o ffotograffau o'i fan yr oedd partner y fenyw wedi'u tynnu.
Wrth i Swyddogion Gorfodi Gwastraff gyfweld â Mr Kieft, cyfaddefodd ei fod wedi gwaredu'r gwastraff er mwyn gwneud elw, a'i fod wedi'i gludo heb drwydded. Datgelodd hefyd iddo gael help i dipio'r gwastraff gan Terrance Fox o Rodfa Powys, Townhill, Abertawe.
Cyfaddefodd Mr Fox yn ddiweddarach ei fod wedi taflu'r gwastraff o gefn y fan wrth iddo deithio ar hyd Heol Drumau a Heol Crymlyn.
Dywedodd y fenyw wrth Swyddogion Gorfodi Gwastraff ei bod wedi talu £90 mewn arian parod i Mr Kieft.
Yn Llys Ynadon Abertawe ar 29 Ionawr eleni, cafodd Mr Kieft ddirwy o £700, derbyniodd orchymyn costau o £640 a thâl ychwanegol ar gyfer effaith ar ddioddefwyr o £64 ar ôl pledio'n euog i dipio gwastraff a reolir yn anghyfreithlon, yn groes i adran 33 (1a) Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, a chludo gwastraff a reolir heb ei fod wedi'i gofrestru i wneud hynny, yn groes i Adran 1 Deddf Rheoli Llygredd (Diwygiad) 1989.
Cafodd Mr Fox ddirwy o £400 a derbyniodd orchymyn costau a thâl ychwanegol o £40 ar gyfer effaith ar ddioddefwyr am dipio gwastraff a reolir yn anghyfreithlon. Plediodd yn euog i hyn.
Meddai'r Cynghorydd Ted Latham, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros y Strydlun a Pheirianneg, "Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn erlyn mwy o bobl am dipio anghyfreithlon nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru, ac mae'r achos diweddaraf hwn yn dangos na fyddwn yn goddef sbwriel yn cael ei dipio yn unrhyw le yn y fwrdeistref sirol.
"Mae hyn wedi bod yn brofiad drud i'r troseddwyr ac rydym hefyd yn rhybuddio pobl bod y ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd yn 2005 yn gosod dyletswydd gofal ar breswylwyr i sicrhau y gwaredir eu gwastraff cartref yn gywir, sy'n golygu y gellir erlyn pobl am logi eraill i waredu gwastraff yn anghyfreithlon."
Dylai preswylwyr:
• Gadarnhau bod y person sy'n cael gwared ar y gwastraff wedi'i gofrestru i wneud hynny;
• Sicrhau eich bod chi'n derbyn 'Nodyn Trosglwyddo' (Derbynneb Swyddogol) gan y cludwr;
• Derbyn rhif cofrestru'r cerbyd gan y cludwr.
More stories