Neath Port Talbot Council has completed the purchase of the former Crown/Metal Box factory in Neath to establish a major new employment site with the potential for significant job creation.
The Milland Road site was occupied for more than 70 years by the Metal Box container factory known locally as “The Box” but has been vacant after the previous occupiers, the Crown packaging company, closed in 2016.
Located within an important employment zone in Neath, the site forms part of the Welsh Government’s Neath Valleys Strategic Hub. Neath is to play a key role in the delivery of the Welsh Government’s ongoing Our Valleys, Our Future plan, which aims to close the employment gap between the South Wales Valleys and the rest of Wales, creating new and sustainable jobs.
Following the purchase, part funded by a Welsh Government Targeted Regeneration Investment (TRI) grant, phase 1 of the refurbishment and re-development of the site will now focus on works which will allow it to attract new investment and create jobs.
The Council is currently seeking tenders for the re-development and refurbishment project which will also involve other necessary remedial works to ensure the former Crown/Metal Box site attracts new business investment and secures the long term sustainability of the site.
A block on the site for office space will be secured with a new roof being provided and new windows will also be fitted to all floors, the refurbishment works aimed at upgrading the property to provide modern, well specified office accommodation to meet clearly identified demand in the area.
The site could provide space for up to 500 jobs with interest from a number of locally based companies.
Councillor Rob Jones, the Leader of Neath Port Talbot Council said: “The purchase of this strategic site signifies the council’s commitment to Neath and its communities to ensure there are opportunities for job creation close to the town centre and to valleys communities.
“This acquisition will enable the council develop a centre for both offices, manufacturing and other uses which will help develop expansion and growth and create jobs.”
Deputy Minister for Housing and Local Government Hannah Blythyn said:
“The Welsh Government’s flagship Targeted Regeneration Investment programme is providing £100m of capital funding across Wales over three years to support regeneration projects in town centres and neighbouring areas. This funding is supported by estimated further investment of at least £60 million from other organisations and businesses, providing an overall boost of £160 million to communities all over Wales.
“This project is an excellent example of how The Targeted Regeneration Investment programme is breathing new life into old buildings, attracting employers, creating jobs and improving the appearance of communities.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Hen ffatri’n cael rôl newydd, yn ganolfan weithgynhyrchu a busnes fodern
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cwblhau’r broses o brynu hen ffatri Crown/Metal Box yng Nghastell-nedd er mwyn sefydlu safle cyflogaeth newydd pwysig, a allai gyfrannu’n sylweddol at greu swyddi.
Bu ffatri gynwysyddion Metal Box, yr oedd pobl leol yn ei hadnabod wrth yr enw “The Box”, yn llenwi’r safle ar Heol Milland am fwy na 70 o flynyddoedd, ond mae wedi bod yn wag ers i gwmni pecynnu Crown, deiliad diwethaf y safle, gau yn 2016.
Mae’r safle mewn parth cyflogaeth pwysig yng Nghastell-nedd, ac yn rhan o Ganolfan Strategol Llywodraeth Cymru yng Nghymoedd Nedd. Mae rôl allweddol i Gastell-nedd yng nghynllun Ein Cymoedd Ni, Ein Dyfodol Ni, sy’n rhan o waith parhaus Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o gau’r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd De Cymru a gweddill Cymru, a chreu swyddi newydd, cynaliadwy.
Nawr bod y safle wedi’i brynu gyda chymorth grant Buddsoddi mewn Adfywio a Dargedir (TRI) gan Lywodraeth Cymru, bydd cam 1 y gwaith i adnewyddu ac ailddatblygu’r safle yn canolbwyntio ar elfennau fydd yn golygu bod modd denu buddsoddwyr newydd a chreu swyddi.
Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ceisio tendrau ar gyfer y prosiect ailddatblygu ac adnewyddu, a fydd hefyd yn cynnwys gwaith adfer arall angenrheidiol er mwyn sicrhau bod safle Crown/Metal Box gynt yn denu buddsoddiadau busnes newydd ac yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y safle.
Bydd bloc yn cael ei neilltuo ar y safle ar gyfer swyddfeydd, gyda tho newydd, a bydd ffenestri newydd yn cael eu gosod ar yr holl loriau hefyd. Nod y gwaith adnewyddu fydd uwchraddio’r eiddo i ddarparu swyddfeydd modern gyda chyfleusterau da, er mwyn ymateb i’r galw amlwg yn yr ardal.
Gallai’r safle ddarparu lle ar gyfer hyd at 500 o swyddi, ac mae nifer o gwmnïau lleol wedi mynegi diddordeb.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae prynu’r safle strategol hwn yn arwydd o ymrwymiad y cyngor i Gastell-nedd a’i chymunedau, er mwyn sicrhau bod cyfleoedd i greu swyddi yn agos at ganol y dref a chymunedau’r cymoedd.
“Bydd caffael y safle hwn yn galluogi’r cyngor i ddatblygu canolfan ar gyfer swyddfeydd, gweithgynhyrchu a defnyddiau eraill a fydd yn helpu i ddatblygu twf ac ehangu a chreu swyddi.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: “Mae rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru, Buddsoddi mewn Adfywio a Dargedir, yn darparu £100m o arian cyfalaf ledled Cymru dros gyfnod o dair blynedd i gefnogi prosiectau adfywio yng nghanol trefi ac ardaloedd cymdogol. Mae’r arian hwn yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiadau pellach yr amcangyfrifir eu bod yn werth o leiaf £60 miliwn gan sefydliadau a busnesau eraill, sy’n golygu bod cyfanswm o ryw £160 miliwn yn dod i hybu cymunedau ledled Cymru.
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft ragorol o sut mae’r rhaglen Buddsoddi mewn Adfywio a Dargedir yn anadlu bywyd newydd i mewn i hen adeiladau, yn denu cyflogwyr, yn creu swyddi, ac yn gwella gwedd cymunedau.”
More stories