Lovers of Neath Port Talbot’s beautiful and historic Margam Country Park now have the chance to buy a Park Membership which will be valid for a whole year from the day of purchase.
The year-long Membership is a great way to enjoy the park for those who visit regularly.
Members will also receive fantastic discounts from various attractions within the park. A 10% discount will be given to Membership card holders in the Park Gift Shop, Charlotte’s Pantry, MCP outdoor clothing and on the Go Ape Tree Top Adventure.
Members will also benefit from an exclusive Early Park Entry, from 9am-10am. As well as a ‘Late Park Entry’, 30 minutes prior to the Seasonal closing time. What better way to enjoy and make the most of the wonderful Park throughout the seasons, weekends and holidays?
The Standard Membership is £40 with a discounted ticket available for Neath Port Talbot residents priced at just £35. You can purchase both online and in person from the Park.
Why not pop to the Park over the Easter Half Term holiday to purchase a Park Membership and at the same time enjoy Spring in the Park as well as some of the family friendly Easter activities.
Close to the M4, the 850-acre park where deer roam, boasts among its many attractions the stunning neo-Gothic Margam Castle, the grand 12th Century Margam Orangery and the impressive remains of the medieval Margam Abbey – a former home to Cistercian monks.
The Park Membership is valid for one calendar year from the date of purchase and covers parking charges for a single car.
You have the option to add a donation of £5 when you purchase your season ticket. We are grateful for all donations which go directly to the maintenance of the Park.
Cllr Peter Rees, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Education, Skills and Culture said: “We have so many regular visitors to Margam Country Park it’s great we can offer extra incentives to the many people who use the park a lot.”
Cllr Rob Jones, the Leader of Neath Port Talbot Council who also represents the Margam ward added: “Margam Country Park is a wonderful place in which to relax or to take part in activities such as walking or cycling and we want to make it available to as many people as possible.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Ydych chi'n dwlu ar Barc Gwledig Margam? Yna beth am brynu aelodaeth o'r parc?
Bydd cyfle bellach gan y bobl sy'n dwlu ar Barc Gwledig hanesyddol Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot i brynu aelodaeth o'r parc a fydd yn ddilys am flwyddyn gyfan o'r dyddiad y caiff ei phrynu.
Mae'r aelodaeth flwyddyn hon yn ffordd wych i fwynhau'r parc i'r rhai sy'n ymweld yn rheolaidd.
Bydd aelodau hefyd yn derbyn gostyngiadau gwych gan atyniadau amrywiol yn y parc. Rhoddir gostyngiad o 10% i ddeiliaid cerdyn aelodaeth yn siop roddion y parc, Charlotte’s Pantry, dillad awyr agored PGM ac yn Antur ym Mrigau'r Coed Go Ape.
Bydd aelodau hefyd yn elwa o fynediad cynnar i'r parc, o 9am tan 10am yn ogystal â mynediad hwyr i'r parc, 30 munud cyn yr amser cau tymhorol. Pa well ffordd sydd i fwynhau'r parc gwych a gwneud yn fawr ohono drwy gydol y tymhorau, y penwythnosau a'r gwyliau?
Pris aelodaeth safonol yw £40 ac mae tocyn gostyngol ar gael i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot am £35. Gallwch brynu'r ddau ar-lein ac yn bersonol o'r parc.
Beth am alw heibio'r parc dros wyliau'r Pasg i brynu aelodaeth o'r parc ac ar yr un pryd fwynhau'r gwanwyn yn y parc yn ogystal â rhai o'r gweithgareddau ar gyfer y Pasg sy'n addas i'r teulu cyfan.
Mae'r parc 850 erw lle mae ceirw'n crwydro ac sy'n agos i'r M4 yn cynnwys atyniadau niferus megis castell neo-gothig syfrdanol Margam, yr Orendy crand o'r 12fed ganrif ac adfeilion trawiadol abaty canoloesol Margam - cyn-gartref mynachod Sistersaidd.
Mae'r cerdyn aelodaeth yn ddilys ar gyfer un flwyddyn galendr o'r dyddiad prynu ac mae'n cynnwys ffïoedd parcio ar gyfer cerbyd unigol.
Mae dewis gennych i ychwanegu rhodd o £5 pan fyddwch yn prynu eich tocyn tymor. Rydym yn ddiolchgar am yr holl roddion sy'n cael eu defnyddio'n uniongyrchol ar gyfer cynnal y parc.
Meddai'r Cyng. Peter Rees, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, "Mae gennym gynifer o ymwelwyr rheolaidd â Pharc Gwledig Margam mae'n wych y gallwn gynnig ysgogiadau ychwanegol i'r bobl niferus sy'n defnyddio'r parc llawer.
Ychwanegodd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot sydd hefyd yn cynrychioli ward Margam, "Mae Parc Gwledig Margam yn lle gwych i ymlacio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau megis cerdded neu feicio ac rydym am sicrhau ei fod ar gael i gynifer o bobl â phosib."
More stories