A man who walked off without cleaning up after his dog defecated outside a house in Briton Ferry Road, Neath, then failed to pay a fixed penalty, has been given a fine and costs totalling £632.56 by Swansea Magistrates.
David John Parfitt, 21, of The Oaks, Cimla, Neath, was spotted walking a “staffy type dog” in Briton Ferry by a Neath Port Talbot Council enforcement officer on December 3rd, 2018.
The enforcement officer followed Mr Parfitt and identified himself outside the Pennsylvania public house a short distance away where Mr Parfitt gave his name and address and explained he was walking the dog for a friend and did not have dog fouling bags on him.
The enforcement officer explained as he was in charge of the dog he would be liable for a fixed penalty fine of £100 reduced to £75 if paid within 10 days.
Swansea Magistrates’ Court heard, at a hearing which Mr Parfitt did not attend on April 23rd, 2019, before he could be issued with the on-the-spot fine, Mr Parfitt suggested going back to where the dog had defecated so he could pick up the faeces “with a pasty wrapper”.
But as he did so, the male owner of the dog arrived and when he saw the enforcement officer’s identification details he ran off in the direction of Neath with his dog. Mr Parfitt, who had picked up the faeces using the pasty wrapper, also ran off in the opposite direction throwing the pasty wrapper containing the faeces onto a wall on Briton Ferry Road.
Mr Parfitt was sent a fixed penalty notice and was later sent reminders but no payment was made.
At the Swansea Magistrates’ Court hearing Mr Parfitt was found guilty in his absence of failure to pay a fixed penalty notice in respect of an offence contrary to the Dogs Fouling of Land Act 1996.
He was fined £220 and was ordered to pay a £382.56 costs order and a victim impact surcharge of £30.
Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetscene and Engineering, Cllr Ted Latham said: “Dog fouling is currently one of the main concerns expressed by members of the public throughout the county borough and is regularly raised as a priority in local PACT meetings.
“Dog fouling also carries serious health risks; particularly for children. The most widely known infection is Toxacara Canis which can result in a range of symptoms from aches and pains to bronchial conditions and in some cases the eyesight of the victim can be seriously affected.
“There is also a significant cost implication to the Local Authority for clearing up dog faeces left behind by irresponsible dog owners.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Dyn a adawodd i'w gi fawa ar y stryd yn talu'n ddrud
Mae dyn a gerddodd i ffwrdd heb lanhau ar ôl i'w gi fawa y tu allan i dy ar Heol Llansawel, Castell-nedd, cyn peidio â thalu cosb benodol, wedi derbyn dirwy oddi wrth Lys Ynadon Abertawe a bydd yn gorfod talu costau gwerth £632.56.
Gwelwyd David John Parfitt, 21, o The Oaks, Cimla, Castell-nedd, yn mynd â chi fel daeargi tarw Swydd Stafford am dro yn Llansawel gan swyddog gorfodi Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 3 Rhagfyr 2018.
Dilynodd y swyddog gorfodi Mr Parfitt ac esboniodd pwy oedd ef y tu allan i dafarn The Pennsylvania gerllaw, lle rhoddodd Mr Parfitt ei enw a'i gyfeiriad ac esboniodd ei fod yn mynd â chi ei ffrind am dro ac nad oedd ganddo fagiau baw cwn.
Esboniodd y swyddog gorfodi gan mai ef oedd yn gofalu am y ci, byddai'n rhaid iddo dalu dirwy cosb benodol gwerth £100, a fyddai wedi'i lleihau i £75 petai'n talu o fewn 10 niwrnod.
Clywodd Llys Ynadon Abertawe, mewn gwrandawiad nad oedd Mr Parfitt yn bresennol ynddo ar 23 Ebrill 2019, cyn y gellid rhoi dirwy yn y fan a'r lle iddo, fod Mr Parfitt wedi awgrymu mynd yn ôl i le'r oedd y ci wedi bawa fel y gallai godi'r baw gyda "deunydd lapio pastai".
Ond wrth iddo wneud hyn, cyrhaeddodd y dyn a oedd yn berchen ar y ci a phan welodd fanylion adnabod y swyddog gorfodi, rhedodd ef i ffwrdd i gyfeiriad Castell-nedd gyda'i gi. Rhedodd Mr Parfitt, a oedd wedi codi baw'r ci gan ddefnyddio'r deunydd lapio pastai, hefyd, ond yn y cyfeiriad arall, gan daflu'r deunydd lapio pastai â baw'r ci ynddo yn erbyn wal ar Heol Llansawel.
Pan gadarnhawyd bod Mr Parfitt wedi rhoi'r manylion cyfeiriad cywir, anfonwyd hysbysiad o gosb benodol ato ac anfonwyd hysbysiadau atgoffa ato hwyrach ond ni wnaethpwyd unrhyw daliadau.
Yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Abertawe, dyfarnwyd Mr Parfitt yn euog yn ei absenoldeb o beidio â thalu hysbysiad o gosb benodol mewn perthynas â throsedd sy'n groes i Ddeddf Cwn (Baeddu Tir) 1996.
Cafodd ddirwy o £220, gorchymyn costau gwerth £382.56 a gordal dioddefwr gwerth £30.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros y Strydlun a Pheirianneg, y Cyng. Ted Latham, "Mae baw cwn ar hyn o bryd yn un o'r prif bryderon a fynegwyd gan aelodau'r cyhoedd ledled y fwrdeistref sirol ac fe'i codir yn rheolaidd fel blaenoriaeth mewn cyfarfodydd PACT lleol.
"Mae baw cwn hefyd yn peri peryglon difrifol i iechyd, yn enwedig i blant. Yr haint mwyaf adnabyddus yw Toxacara Canis, a all achosi amrywiaeth o symptomau o boenau i gyflyrau bronciol ac, mewn rhai achosion, gall effeithio'n ddifrifol ar olwg y dioddefwr.
"Mae hefyd oblygiad cost sylweddol i'r awdurdod lleol wrth lanhau baw cwn a adawyd gan berchnogion cwn anghyfrifol."
More stories