Neath Port Talbot Council Building Control Officer Clayton Harrington is to feature in a new daytime property TV show.
The Great House Give Away, which will go on air later this year on both Channel 4 and S4C, follows the fortunes of aspiring home owners looking to get on the property ladder with the help of £150,000 to buy a property.
Contestants get six months to improve a home they buy at auction before putting it back under the hammer. Any profit they make, they get to keep with the aim of eventually becoming full time property developers and owners.
One of the episodes in the 28-part series sees contestant Dafydd Gronow of Pontypridd looking to develop a former chapel in Old Road, Neath, which is where he comes into contact with the Council’s Clayton Harrington.
Experienced Clayton uses his years in Building Control to give Mr Gronow invaluable advice over his plans for the old chapel – especially in the tricky field of fire safety.
Neath Port Talbot Council Building Control Manager Paul Davis explained: “Local Authority Building Control does not always get the best press as it is sometimes seen as the body which says ‘you can’t do this or you can’t do that’.
“But this episode of the show makes it clear Building Control Officers like Clayton can be extremely helpful and are only too happy to give advice on what developers can do as well as what they can’t do – usually for sound safety reasons.
“Mr Gronow had not employed the services of an architect but Clayton was able to give advice on fire safety regulations and offer design solutions which prevented the contestant doing alterations which would otherwise have contravened Building Regulations on safety grounds. This would have wasted a lot of time and money but Clayton was able to intervene and provide constructive advice on the areas he could develop.
“That meant his completed development would be safe to live in and would meet regulations and I would hope the advice given will increase the value of the property when completed.”
Ten essential functions of Building Control:
-To encourage innovation to produce energy efficient and sustainable buildings.
-Supporting local, regional and national businesses.
-Educating and informing building professionals, contractors and trades people.
-Defending vulnerable communities and householders.
-Driving out rogue traders.
-Safeguarding the investments of individuals and companies.
-Enhancing access for disabled, sick, young and old people.
-Protecting the community from dangerous structures by checking standards and regulations are met.
-Providing advice in support of the emergency services.
-Ensuring sports grounds and public venues are safe for crowds.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Rhaglen deledu'n rhan o swydd Clayton fel Swyddog Rheoli Adeiladu!
Bydd Clayton Harrington, Swyddog Rheoli Adeiladu o Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymddangos mewn sioe deledu newydd yn ystod y dydd sy'n trafod eiddo.
Bydd The Great House Give Away, a fydd yn cael ei darlledu ar Channel 4 ac S4C yn hwyrach eleni, yn dilyn taith darpar berchnogion tai sy'n ceisio dringo'r ysgol eiddo a phrynu ty, gyda £150,000 i'w helpu.
Bydd gan y cystadleuwyr chwe mis i wella cartref sy'n cael ei brynu mewn arwerthiant cyn ei roi yn ôl ar y farchnad. Os ceir unrhyw elw o'r gwerthiant, y cystadleuwyr fydd yn ei gadw gyda'r nod o ddod yn ddatblygwyr a pherchnogion eiddo amser llawn yn y pendraw.
Mae'r gyfres yn cynnwys 28 o raglenni a bydd un ohonynt yn dangos Dafydd Gronow, o Bontypridd, yn ceisio datblygu hen gapel ar Old Road, Castell-nedd - yn ystod y broses, mae'n cwrdd â Clayton Harrington, un o weithwyr y cyngor.
Mae Clayton yn defnyddio'i flynyddoedd o brofiad ym maes Rheoli Adeiladu i roi cyngor amhrisiadwy i Mr Gronow o ran ei gynlluniau ar gyfer yr hen gapel - yn enwedig ym maes diogelwch tân.
Esboniodd Paul Davis, Rheolwr Rheoli Adeiladu Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Nid yw adran Rheoli Adeiladu'r awdurdod lleol bob amser yn cael sylw da gan ei fod weithiau'n cael ei ystyried yn gorff sy'n dweud 'ni allwch wneud hyn'.
"Ond mae'r bennod hon o'r rhaglen yn dangos yn glir y gall Swyddogion Rheoli Adeiladu, fel Clayton, fod yn gymorth fawr ac maent yn ddigon hapus i roi cyngor ar yr hyn y gall datblygwyr ei wneud yn ogystal â'r hyn nad ydynt yn gallu ei wneud - fel arfer oherwydd rhesymau diogelwch sain.
"Ni chyflogodd Mr Gronow bensaer ond roedd Clayton ar gael i roi cyngor ar reoliadau diogelwch tân ac i gynnig syniadau dylunio a oedd, yn y pendraw, wedi atal y cystadleuydd rhag gwneud unrhyw newidiadau a fyddai fel arall wedi mynd yn groes i Reoliadau Adeiladu ar sail diogelwch. Byddai hyn wedi gwastraffu llawer o amser ac arian ond roedd Clayton ar gael i ymyrryd a rhoi cyngor adeiladol ar yr ardaloedd yr oedd yn gallu eu datblygu.
"O ganlyniad byddai'r datblygiad terfynol yn ddiogel i fyw ynddo ac yn bodloni rheoliadau, a gobeithiaf y bydd y cyngor a roddwyd yn cynyddu gwerth yr eiddo ar ôl ei orffen."
10 o swyddogaethau hanfodol Rheoli Adeiladu:
-Annog arloesedd er mwyn cynhyrchu adeiladau ynni effeithlon a chynaliadwy.
-Cefnogi busnesau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
-Addysgu a helpu adeiladwyr, contractwyr a masnachwyr proffesiynol.
-Amddiffyn cymunedau ac aelwydydd diamddiffyn.
-Atal masnachwyr twyllodrus.
-Diogelu buddsoddiadau unigolion a chwmnïau.
-Gwella mynediad i bobl anabl, sâl, ifanc a hen.
-Amddiffyn y gymuned rhag adeiladau peryglus trwy wirio bod safonau a rheoliadau'n cael eu bodloni.
-Rhoi cyngor i gefnogi'r gwasanaethau brys.
-Sicrhau bod safleoedd chwaraeon a lleoliadau cyhoeddus yn ddiogel i dorfeydd.
More stories