Neath Port Talbot Council is about to start work on phase two of essential refurbishment work to the Vale of Neath Railway Bridge.
The phase one work currently being done involves the underside of the bridge and includes structural concrete repairs, painting of structural steelwork and replacement of vital bearings.
The second phase of the major bridge maintenance project begins on Monday July 8th , 2019 and the work will last for eight weeks.
Phase two will involve the removal and replacement of the carriageway surfacing, concrete verges and concrete central reserves plus safety barriers. The bridge deck will also be waterproofed.
Unfortunately due to the nature of the work it will be necessary to run the section of the A474 between the A465 and the Neath Abbey Tesco store as single lane traffic 24 hours a day for the duration of the work.
Councillor Ted Latham, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetscene and Engineering said: “We have chosen this time period to do the work as the daylight hours are longer, the weather is generally dryer (some of the operations need to be completed in dry conditions) and finally it is during the school and college summer holidays so the traffic volumes are generally lower.
“We would like to apologise for any disruption during the period of the maintenance project, but clearly, this is essential work on a vital bridge near the centre of Neath.”
Initially work will involve the traffic running in the right hand lanes, in both directions, so that both verges and both left hand lanes can be worked on.
Following this, the traffic running in the left hand lanes, in both directions, so the central reserve and both right hand lanes can be worked on.
There may also be some occasional full closures but these will be night-time only and probably Saturday or Sunday nights, if they are necessary.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gwaith cynnal a chadw hanfodol ar bont bwysig yng Nghastell-nedd
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar fin dechrau ar yr ail gam o waith cynnal a chadw hanfodol ar Bont Rheilffordd Cwm Nedd.
Mae’r gwaith ar y cam cyntaf, sy’n digwydd ar hyn o bryd, yn digwydd dan y bont, gan gynnwys trwsio’r concrit strwythurol, peintio’r gwaith dur strwythurol ac ailosod cynalyddion hanfodol.
Bydd ail gam y prosiect mawr i gynnal a chadw’r bont yn dechrau ar ddydd Llun 8 Gorffennaf, 2019, a bydd y gwaith yn para am wyth wythnos.
Bydd cam dau’n golygu tynnu ac ailosod arwynebedd y gerbydffordd, y lleiniau concrit a’r llain ganol goncrit, ynghyd â’r atalfeydd diogelwch. Bydd dec y bont hefyd yn cael gwaith wedi’i wneud er mwyn iddo allu dal dwr.
Yn anffodus, oherwydd natur y gwaith, bydd yn rhaid rhedeg y darn o’r A474 rhwng yr A465 ac archfarchnad Tesco Abaty Nedd fel ffordd un lôn am 24 awr y dydd yn ystod holl gyfnod gwneud y gwaith.
Meddai’r Cynghorydd Ted Latham, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun a Pheirianneg:
“Rydym ni wedi dewis y cyfnod hwn i wneud y gwaith am fod mwy o oriau golau yn ystod y dydd, mae’r tywydd yn gyffredinol yn sychach (rhaid cwblhau rhai agweddau ar y gwaith mewn tywydd sych) ac yn olaf, mae’r cyfnod yn digwydd ar adeg gwyliau’r ysgolion a’r colegau, felly mae llai o draffig o gwmpas ar y cyfan.
“Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sy’n digwydd yn ystod y cyfnod cynnal a chadw hwn, ond yn amlwg, dyma waith hanfodol ar bont eithriadol o bwysig ynghanol Castell-nedd.”
I ddechrau, bydd y gwaith yn golygu y bydd traffig yn rhedeg ar hyd y lonydd llaw dde, i’r ddau gyfeiriad, er mwyn gweithio ar y lleiniau a’r ddwy lôn chwith.
Wedi hyn, bydd traffig yn symud yn y lonydd llaw chwith, i’r ddau gyfeiriad, er mwyn trwsio’r llain ganol a’r ddwy lôn dde.
Efallai y bydd yn rhaid cau’r ffordd yn llwyr o bryd i’w gilydd, ond dim ond yn ystod y nos, ac yn fwyaf tebygol ar nos Sadwrn neu nos Sul, y bydd hynny’n digwydd, os oes angen.
More stories