Final preparations are being made for the 2019 Neath Music Festival which will provide more than 100 hours of music across all genres, with artists appearing on three stages from Thursday July 11th to Sunday July 14th.
Sponsored by Neath Inspired in association with Neath Round Table, the festival’s three stages are in Angel Square, Wind Street and Orchard Street.
Running from 11am to 9pm, Thursday’s festival will see the likes of Serenata, Shania Johnston and Scarlett Bree Davies appearing at Orchard Street with Iain Scott (60s and 70s Music), James Alexander (Rock) and PD Brown (Motown) among those on stage at Wind Street and Phil Elliot (Blues), Dave Riley (Rock&Roll) and Andy Hill (Mix) among those at Angel Square.
Running from 11am to 5pm, Friday will see acts including Gerry Slowman (Country) at Angel Square, Sara Jones (80s) at Wind Street and the Backroom Bluegrass Band (Country) at Orchard Street while Saturday’s festival involves a fancy dress walking parade which will assemble in Angel Square at 12pm with Prizes for “Best Costumes”. Well Seasoned Trio will perform from 10am – 12pm on the Angel Square stage and between 12 pm – 1pm the Gwaun Cae Gurwen Brass Band will play its popular repertoire, followed by the band Smooth Operator from 2pm until 4pm.
On Sunday (11am – 8pm), Morriston Choir, Neath Choir and the Excelsior Ladies Choir will be among those appearing at Angel Square, Sean Maloney (Meatloaf) and Bruce Anderson (rock and classic) will be among a number of acts at Wind Street while Clare Powell, Mo Oliver and Clare Jones will be part of a strong line-up at Orchard Street.
All performances during the four day festival are free to attend.
The Neath Music Festival is just one of a string of popular events held in Neath’s town centre which help provide a boost in footfall.
Other events include the Neath Real Ale and Cider Festival (July 19th and 20th), The Neath Comedy Festival (held annually in June), Neath September Fair (September 11th – 14th), The Neath Food and Drink Festival (October 4th – 6th) and the Neath “Christmas Lights On” Festival (29th November) which this year will include a Christmas Fayre.
Robert Williams, Chairman of Neath Inspired said: “The Music Festival will take place over four days and will have a variety of musical genres. The aim of Neath Inspired Ltd is to attract more people into the town of Neath so they can enjoy its great shopping experience and relaxing atmosphere and to provide our many businesses with a vibrant ambience.”
Cllr Annette Wingrave, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Regeneration and Sustainable Development added: “This is one of many events held throughout the year which help create a lively atmosphere for the centre of Neath. A lot of hard work goes into organising these events and we thank all those who have been involved in creating the festival and we offer a warm welcome to all visitors.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Mae’r paratoadau terfynol ar y gweill ar gyfer Gwyl Gerddoriaeth Castell-nedd 2019, a fydd yn cyflwyno dros 100 awr o gerddoriaeth o bob math, wrth i artistiaid ymddangos ar dri llwyfan o ddydd Iau 11 Gorffennaf tan ddydd Sul 14 Gorffennaf.
Lleolir tri llwyfan yr wyl, a noddir gan Neath Inspired mewn cydweithrediad â Bord Gron Castell-nedd, yn Sgwâr yr Angel, Stryd y Gwynt a Stryd y Berllan.
Gan ddigwydd rhwng 11am a 9pm, bydd gwyl dydd iau’n gweld perfformwyr sy’n cynnwys Serenata, Shania Johnston a Scarlett Bree Davies yn ymddangos yn Stryd y Berllan, gydag Iain Scott (cerddoriaeth y 60au a’r 70au), James Alexander (roc) a PD Brown (Motown) ymhlith perfformwyr llwyfan Stryd y Gwynt, a Phil Elliot (blws), Dave Riley (roc a rôl) ac Andy Hill (cymysgedd) ymhlith perfformwyr Sgwâr yr Angel.
Rhwng 11am a 5pm ddydd Gwener, bydd y perfformwyr yn cynnwys Gerry Slowman (canu gwlad) yn Sgwâr yr Angel, Sara Jones (80au) yn Stryd y Gwynt, a’r Backroom Bluegrass Band (canu gwlad) yn Stryd y Berllan, tra bo gwyl dydd Sadwrn, sy’n cychwyn am 12pm, yn gyfle i weld gorymdaith ar droed dan arweiniad band Gwauncaegurwen o ganol tref Castell-nedd i gaeau chwarae Cwrt Herbert.
Ar y Sul (11am – 8pm), bydd Côr Treforys, Côr Castell-nedd a chôr Merched Exelsior ymhlith y rheiny fydd yn ymddangos yn Sgwâr yr Angel, Sean Maloney (Meatloaf) a Bruce Anderson (roc a chlasurol) ymysg perfformwyr Stryd y gwynt, tra bydd Clare Powell, Mo Oliver a Clare Jones yn rhan o arlwy deniadol yn Stryd y Berllan.
Gellir mynychu’r holl berfformiadau fydd yn digwydd dros gyfnod pedwar diwrnod yr wyl yn rhad ac am ddim.
Mae Gwyl Gerddoriaeth Castell-nedd yn un o blith cyfres o ddigwyddiadau poblogaidd a gynhelir yng nghanol tref Castell-nedd, sy’n golygu fod nifer fawr yn ychwanegol o bobl yn dod i mewn i’r dref.
Ymysg digwyddiadau eraill mae Gwyl Cwrw a Seidr Castell-nedd (19 a 20 Gorffennaf), Gwyl Gomedi Castell-nedd (a gynhelir yn flynyddol ym mis Mehefin), Ffair Fedi Castell-nedd (11-14 Medi), Gwyl Fwyd a Diod Castell-nedd (4-6 Hydref) a Gwyl Cynnau’r Goleuadau Nadolig yng Nghastell-nedd (29 Tachwedd).
Meddai Robert Williams, Cadeirydd Neath Inspired: “Bydd yr Wyl Gerddoriaeth yn digwydd dros bedwar diwrnod a bydd yn cynnwys amrywiaeth o fathau o gerddoriaeth. Bwriad Neath Inspired Ltd yw denu mwy o bobl i mewn i dref Castell-nedd, er mwyn iddyn nhw allu mwynhau profiad siopa ardderchog ac awyrgylch ymlaciol y dref, ac i ddarparu amgylchfyd bywiog i fusnesau allu cynnal eu busnes ynddo.”
Meddai’r Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy: “Dyma un o blith nifer o ddigwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn sy’n cyfrannu at greu awyrgylch fywiog ynghanol tref Castell-nedd. Mae llawer o waith caled yn cael ei wneud i drefnu’r digwyddiadau hyn, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan wrth greu’r wyl.”
More stories