Swansea City legend Lee Trundle has put children from Melyn through their paces as part of a school holiday programme.
Known as ‘Food and Fun’, the programme uses school facilities during the summer holidays to encourage children between the ages of 6 and 11 to become more active, eat healthily and develop friendships. Everyone who attends the programme is given a healthy breakfast and lunch, and takes part in a range of physical and educational activities throughout the day.
At a recent session at Melin Primary School, the children enjoyed an hour-long football session with the former Swansea City ace as part of the scheme’s aim to promote physical activity. They all took part in a masterclass on how to shoot, pass and dribble like a top professional footballer.
Lee Trundle, who now works as an Ambassador for Swansea City AFC, said:
“We’ve been supporting the Food and Fun programme for the last 4 years in Neath Port Talbot.
“It is clear the children enjoy attending, and is a fun way of keeping them healthy and in contact with their friends throughout the school holidays.”
In addition to the football session, the children had the opportunity to take part in an arts and crafts session delivered by the child and family team and a range of sporting activities arranged by NPT PASS. It was also the first year for local construction firm Andrew Scott Ltd to get involved in the programme through teaching the young people some key gardening skills, and constructing benches and picnic tables for the schoolyard.
Councillor Peter Rees, Cabinet Member for Education, Skills and Culture, said:
“Food and Fun is also a great way of supporting young people to make new friends and encourage positive attitudes towards their health and diet.
“This is a prime example of how the Council can work with partner organisations to provide additional support to families during the school holidays, and give young people the chance to improve their wellbeing.”
Food and Fun is currently run in four schools in Neath Port Talbot. It is part funded by Welsh Government, co-ordinated by the WLGA and delivered by Neath Port Talbot Council.
A number of partner organisations provide support to deliver the scheme in Neath Port Talbot including Mid and West Wales Fire Service, South Wales Police, Swansea City Football Club, CADW, Healthy Schools, NPT Physical Activity Sports Service, NPT Children and Families Team, ABMU Health Board Dietetics, school nurses, NPT Youth Service, Healthy Schools, and Andrew Scott Ltd.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Un o enwogion yr Elyrch yn ymweld â phrosiect gwyliau ysgol
Mae un o enwogion Clwb Pêl-droed Abertawe, Lee Trundle, wedi herio plant o Felin fel rhan o raglen gwyliau ysgol.
Mae'r rhaglen, a elwir yn 'Bwyd a Hwyl', yn defnyddio cyfleusterau'r ysgol yn ystod gwyliau'r haf er mwyn annog plant rhwng 9 ac 11 oed i fod yn fwy heini, bwyta'n iachus a meithrin cyfeillgarwch. Mae pawb sydd ar y rhaglen yn cael brecwast a chinio iachus ac yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau corfforol ac addysgol drwy gydol y dydd.
Yn ystod sesiwn ddiweddar yn Ysgol Gynradd Melin, roedd y plant wedi mwynhau sesiwn awr o hyd gyda chyn-chwaraewr gwych Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe fel rhan o nod y cynllun i hyrwyddo gweithgaredd corfforol. Roedd yr holl blant wedi cymryd rhan mewn dosbarth meistr ar sut i saethu, pasio a driblo fel chwaraewr pêl-droed proffesiynol.
Meddai Lee Trundle, sydd bellach yn gweithio fel Llysgennad dros Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe,
"Rydym wedi bod yn cefnogi'r rhaglen Bwyd a Hwyl dros y 4 blynedd diwethaf yng Nghastell-nedd Port Talbot.
"Mae'n amlwg fod y plant yn mwynhau dod, ac mae'n ffordd ddifyr o'u cadw nhw'n iach ac mewn cysylltiad â'u ffrindiau yn ystod gwyliau'r haf."
Yn ogystal â'r sesiwn bêl-droed, cafodd y plant y cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn celf a chrefft a ddarparwyd gan y tîm plant a theuluoedd ac amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon a drefnwyd gan PASS CNPT. Eleni oedd y flwyddyn gyntaf i'r cwmni adeiladu lleol, Andrew Scott Ltd, gymryd rhan yn y rhaglen trwy gyflwyno nifer o sgiliau garddio allweddol i'r bobl ifanc megis plannu blodau mewn dysglau plannu, a chreu meinciau a byrddau picnic.
Meddai'r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant,
"Mae Bwyd a Hwyl hefyd yn ffordd wych o gefnogi pobl ifanc i wneud ffrindiau newydd ac annog agweddau cadarnhaol at eu hiechyd a'u deiet.
"Dyma enghraifft wych o sut gall y cyngor weithio gyda sefydliadau partner i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol, ac i roi'r cyfle i'r holl bobl ifanc gyflawni eu potensial a mwynhau'r lles gorau posib."
Ar hyn o bryd, cynhelir Bwyd a Hwyl mewn pedair ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Caiff ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, ei chydlynu gan CLlLC a'i darparu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae nifer o sefydliadau partner yn darparu cefnogaeth i gyflwyno'r cynllun yng Nghastell-nedd Port Talbot gan gynnwys Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Heddlu De Cymru, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, CADW, Ysgolion Iach, Gwasanaeth Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol CNPT, Tîm Plant a Theuluoedd CNPT, Bwrdd Iechyd Deieteg PABM, nyrsys ysgol, Gwasanaeth Ieuenctid CNPT, Ysgolion Iach, WCADA (Canolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru) ac Andrew Scott Ltd.
More stories