The countdown to the 2019 Rugby World Cup has started, and the Safer NPT Partnership is planning to use the tournament to help raise awareness of the issues surrounding County Lines. They will be distributing free Rugby World Cup fixtures cards, which include dates, venues and times of matches, together with space to note the results of each match.
On the reverse of the card will be important information on County Lines, including an explanation of what County Lines is, how it can affect people, the signs to look out for and where to get help or report anything that you think might be cause for concern.
Councillor Leanne Jones, Cabinet Member for Community Safety and Public Protection said:
“County Lines is an emerging national issue that poses significant threat to communities and exploits the most vulnerable members of society. A multi-agency approach is being taken across Neath Port Talbot and Swansea in an effort to combat this threat. Raising awareness about County Lines plays an important part in this.
“We know that there is huge interest in the Rugby World Cup and will be giving away the cards free of charge. The only thing we ask in return is that anyone who picks one up takes a few minutes to read the important information about County Lines on the reverse.”
The pocket size fixtures cards will be available from libraries, council buildings and other public spaces around NPT from the week commencing Monday 16 September. They will also be available to download from the Safer NPT website www.safernpt.org/countylines.
The Rugby World Cup kicks off on Friday 20 September in Japan. In light of the tournament’s popularity, it is anticipated that demand for the cards will be high and that this will be an affective way to spread important information about County Lines to a wide audience.
When an organised crime group or urban gang extends their drug dealing enterprise across county boundaries, it is known as running a ‘county line’. They move into local properties, through 'cuckooing', using coercion or force to intimidate a vulnerable resident to let them into their home. The property is then used as a base for their illegal activities.
Councillor Jones added:
“Vulnerable people being exploited include children, drug users, sex workers, elderly people and people with mental illnesses. If you suspect drug dealing is taking place or you are concerned that a young person or vulnerable adult may have been targeted by an organised crime group, please report it.”
“You don’t have to be certain, just concerned!”
Anyone wishing to report suspected County Lines activity should contact South Wales Police on 101 or Crimestoppers on 0800 555111. If someone is in immediate danger or a crime is taking place you should always dial 999.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Ciciwch linellau sirol dros yr ystlysMae cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2019 yn dechrau cyn bo hir, ac mae Partneriaeth CNPT Mwy Diogel yn bwriadu defnyddio'r twrnamaint i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o broblemau sy'n ymwneud â Llinellau Sirol. Byddant yn dosbarthu cardiau gemau Cwpan Rygbi'r Byd am ddim, sy'n cynnwys dyddiadau, lleoliadau ac amserau gemau ynghyd â lle i nodi canlyniadau pob gêm.
Ar ochr arall y cerdyn bydd gwybodaeth bwysig am Linellau Sirol, gan gynnwys esboniad o'r hyn yw Llinellau Sirol, sut gall effeithio ar bobl, yr arwyddion i gadw llygad amdanynt a ble i gael help neu adrodd am rywbeth a allai fod yn achos pryder yn eich barn chi.
Meddai'r Cynghorydd Leanne Jones, Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd,
"Mae Llinellau Sirol yn broblem genedlaethol sydd wedi dod i'r amlwg sy'n fygythiad sylweddol i gymunedau, ac mae'n ecsbloetio'r aelodau mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas. Defnyddir ymagwedd amlasiantaeth ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe mewn ymgais i wrthsefyll y bygythiad hwn. Mae cynyddu ymwybyddiaeth am Linellau Sirol yn rhan bwysig o hyn.
"Gwyddwn fod diddordeb mawr yng Nghwpan Rygbi'r Byd a byddwn yn rhoi'r cardiau hyn i bobl am ddim. Yr unig beth y gofynnwn ni amdano yw bod unrhyw un sy'n codi cerdyn yn cymryd ychydig funudau i ddarllen yr wybodaeth bwysig am Linellau Sirol ar y cefn.
Bydd y cardiau gemau maint poced ar gael mewn llyfrgelloedd, adeiladau'r cyngor a mannau cyhoeddus eraill yn CNPT o'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 16 Medi. Byddant hefyd ar gael i'w lawrlwytho o wefan CNPT Mwy Diogel yn www.safernpt.org/llinellausirol.
Mae Cwpan Rygbi'r Byd yn cychwyn ddydd Gwener 20 Medi yn Japan. O gofio poblogrwydd y twrnamaint, disgwylir y bydd galw mawr am y cardiau, ac y bydd hyn yn ffordd effeithiol o ledaenu gwybodaeth bwysig am Linellau Sirol i gynulleidfa ehangach.
Pan fydd grwp troseddau cyfundrefnol neu griw trefol yn ehangu eu menter delio cyffuriau ar draws ffiniau sirol, gelwir hyn yn rhedeg 'llinell sirol'. Maen nhw'n symud i eiddo lleol, drwy 'gogio', gan ddefnyddio gorfodaeth neu rym i fygwth preswylydd diamddiffyn i'w gadael i mewn i'w gartref. Yna defnyddir yr eiddo fel canolfan ar gyfer eu gweithgareddau anghyfreithlon.
Ychwanegodd y Cynghorydd Jones,
"Mae pobl ddiamddiffyn sy'n cael eu hecsbloetio'n cynnwys plant, defnyddwyr cyffuriau, gweithwyr rhyw, yr henoed a phobl â salwch meddwl. Os ydych yn amau bod pobl yn delio cyffuriau neu rydych yn poeni efallai fod person ifanc neu oedolyn diamddiffyn wedi'i dargedu gan grwp troseddau cyfundrefnol, adroddwch amdano."
"Does dim angen i chi fod yn sicr, dim ond yn bryderus!"
Gall unrhyw un sy'n dymuno adrodd am weithgarwch Llinellau Sirol amheus, ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu Crimestoppers ar 0800 555111. Os oes rhywun mewn perygl dybryd neu mae trosedd yn digwydd, dylech ffonio 999 bob amser.
More stories