Neath Port Talbot Council is teaming up with the Welsh Illegal Money Lending Unit (WIMLU) this week in staging three public events targeting areas of concern over the Christmas season.
The three outdoor events featuring trailers and stalls attended by the Council’s Trading Standards and Road Safety teams along with officials from WIMLU will run from 10.30 - 3pm (though there may be an early finish if footfall is low).
The venues for each event are as follows:
• Wednesday, November 13th : Ffordd Parc Ynysderw, Pontardawe, SA84EG
• Thursday, November 14th : Wind Street / Green Street / New Street square (opposite Holland and Barrett), Neath Town Centre, SA111DF
• Friday, November 15th - The Square outside the Port Talbot Civic Centre, SA131PJ
The combined events have been arranged as there is significant pressure on consumers to spend money over the Christmas period on goods and services.
A Council spokesman said: “We want people to have a good time but we also want to help ensure they make wise choices, buy safely, if necessary borrow safely, and also travel safely.”
Trading Standards will have examples of counterfeit goods on display to show consumers how to detect fakes and there will be advice on the dangers of buying fakes.
Also, the Trading Standards team will provide information on combating scams, ways to find trusted traders as well as information on product safety.
WIMLU officials will be offering advice on illegal money lending including what to do if you are the victim of a loan shark and alternative sources of credit.
The Road Safety team will be advising on the dangers of drink driving and promoting safer driver schemes such as "Biker Safety". Officers from the three services will not only be on hand to speak to members of the public who have queries they will also liaise with those who want to pass on information.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Tri digwyddiad allweddol er mwyn sicrhau Nadolig mwy llawen
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ymuno ag Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WIMLU) yr wythnos hon i gynnal tri digwyddiad cyhoeddus fydd yn targedu meysydd gofid dros dymor y Nadolig.
Bydd y tri digwyddiad awyr-agored, gyda stondinau a threlars, a fynychir gan dimau Safonau Masnach a Diogelwch Ffyrdd y Cyngor, ynghyd â swyddogion o WIMLU, yn digwydd rhwng 10.30 a 3pm (er y gallai orffen yn gynt os nad oes llawer o bobl yn mynychu).
Cynhelir pob digwyddiad yn y mannau isod:
• Dydd Mercher, Tachwedd 13 – Ffordd Parc Ynysderw, Pontardawe, SA84EG
• Dydd Iau, Tachwedd 14 – Sgwâr Stryd y Gwynt / Green Street / New Street (gyferbyn â Holland & Barrett), Canol tref Castell-nedd, SA111DF
• Dydd Gwener, Tachwedd 15 – Y Sgwâr y tu allan i Ganolfan Ddinesig Port Talbot, SA131PJ
Trefnwyd y digwyddiadau hyn, sy’n dod â sawl tîm ynghyd, am fod pwysau mawr ar brynwyr i wario ar nwyddau a gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig.
Meddai llefarydd ar ran y Cyngor: “Rydym eisiau i bobl gael amser da, ond rydym hefyd eisiau sicrhau eu bod yn dewis yn ddoeth, yn prynu’n ddiogel, yn benthyca’n ddiogel os oes angen, a hefyd yn teithio’n ddiogel.”
Bydd Safonau Masnach yn arddangos enghreifftiau o nwyddau ffug er mwyn dangos i brynwyr sut i adnabod eitemau ffug, ynghyd â chyngor am beryglon prynu pethau ffug.
Yn ogystal, bydd tîm Safonau Masnach yn darparu gwybodaeth ar sut i wrthsefyll sgamiau, ffyrdd o ddarganfod masnachwyr dibynadwy, a gwybodaeth am ddiogelwch cynnyrch.
Bydd swyddogion WIMLU yn cynnig cyngor ar fenthycwyr arian anghyfreithlon gan gynnwys beth i’w wneud os ydych wedi mynd yn ysglyfaeth i siarcod benthyca a ffynonellau eraill o fenthyciadau.
Bydd y tîm Diogelwch Ffyrdd yn cynghori ar beryglon yfed a gyrru ac yn hybu rhaglenni gyrru’n ddiogel fel ‘Diogelwch Beic’. Bydd swyddogion o’r tri gwasanaeth ar gael i siarad â’r cyhoedd sydd eisiau holi cwestiynau, a byddant hefyd yn cysylltu â phobl sydd eisiau trosglwyddo gwybodaeth.
More stories