Neath Port Talbot Council is to re-lay eleven-year-old red brick paving in the centre of Neath.
Work is scheduled to start on replacing the paving in Green Street and Queen Street, Neath, on January 6th, 2020.
The existing red brick paving, which was laid eleven years ago, is showing signs of wear and tear, thought to be due in part to heavy delivery lorries which use the paved areas outside the pedestrian-only time of 10.30am – 5pm.
The original red bricks will gradually be removed and re-laid in a new pattern which will have wider joints. These will be filled with a robust cement grout mix.
The work will be completed segment by segment and pedestrians will be able to walk past the areas being re-paved, whilst maintaining access to every premises and minimising disruption.
Works are scheduled to start on Monday, 6th January 2020, with the first 15 segments taking 16 weeks to complete but potentially the works could take 20 weeks should the whole area be repaired (involving a further four segments).
A Council spokesman said: “This area was originally paved back in 1988 and was re-laid around 11 years ago so now, to ensure the safety of pedestrians, we plan to reuse and relay the bricks using a fixative which will give it a long life.
“Modern lorries are heavier and, with the passage of time, we now need to re-lay the bricks to ensure public safety. We apologise in advance for any inconvenience the work may cause but we hope any disruption will be kept to a minimum.”
Arrangements will be made for vehicular deliveries to be made to Green Street and Queen Street outside the core pedestrian-only time of 10.30am – 5pm.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gwaith pafin newydd ar gyfer canol tref Castell-nedd
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu ailosod y pafinau brics coch 11 mlwydd oed ynghanol tref Castell-nedd.
Amserlennwyd gwaith i ddechrau ar adnewyddu’r pafin yn Stryd y Maes a Stryd y Frenhines, Castell-nedd ar Ionawr 6, 2020.
Mae’r pafin brics coch presennol, a osodwyd un ar ddeg o flynyddoedd yn ôl, yn dangos olion traul, yn rhannol o bosib oherwydd lorïau cyflenwi trwm sy’n defnyddio’r darn pafin y tu allan i’r cyfnod cerddwyr yn unig rhwng 10.30am a 5pm.
Yn raddol, bydd y brics coch gwreiddiol yn cael eu tynnu a’u hailosod mewn patrwm newydd, fydd yn cynnwys cymalau mwy o faint rhyngddynt. Byddan nhw’n cael eu cadw yn eu lle gan gymysgedd growt sment gwydn.
Bydd y gwaith yn cael ei orffen ddarn wrth ddarn a bydd modd i gerddwyr basio heibio i’r rhannau sy’n cael eu hailosod, tra bo mynediad i bob eiddo yn cael ei gynnal, ac er mwyn gwneud y lleiaf posib o darfu ar bethau.
Disgwylir i’r gwaith ddechrau ddydd Llun 6 Ionawr 2020, gyda’r 15 darn cyntaf yn cymryd 16 wythnos i’w gwblhau ond gallai’r gwaith gymryd 20 wythnos pe bai angen trwsio’r ardal gyfan (sef pedwar darn ychwanegol).
Meddai llefarydd ar ran y Cyngor: “Cafodd yr ardal hon ei phalmantu’n wreiddiol yn 1988 ac ailosodwyd y brics tua 11 mlynedd yn ôl felly, nawr, er mwyn sicrhau diogelwch cerddwyr, rydym ni’n bwriadu ailddefnyddio ac ailosod y brics gan ddefnyddio deunydd sefydlogi fydd yn rhoi oes hir i’r pafin.
“Mae lorïau modern yn drymach a thros amser, mae angen i ni bellach ailosod y brics er mwyn sicrhau fod y cyhoedd yn ddiogel. Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra a achosir gan y gwaith, ond gobeithio y bydd modd cadw unrhyw darfu’n cael ei gyfyngu gymaint â phosib.”
Gwneir trefniadau ar gyfer dod â chyflenwadau mewn cerbydau i Stryd y Maes a Stryd y Frenhines y tu allan i’r amser craidd ar gyfer cerddwyr yn unig rhwng 10.30am a 5pm.
More stories