A £9m new primary school serving Neath Abbey catering for 520 pupils and featuring a grass rugby pitch, a mixed-use games area plus soft and hard play areas has been granted conditional approval by Neath Port Talbot Council’s Planning Committee.
The new school will be built on the site of the former Dwr y Felin Lower Comprehensive School and will replace the current Abbey Primary School which will continue on its three separate sites while construction goes on.
The primary school at Neath Abbey will be the latest development in the second phase (Band B) of Neath Port Talbot Council’s dynamic Strategic School Improvement Programme which has seen more than £123m invested in modernising Neath Port Talbot’s educational estate, including:
• Awel Y Mor – a £7.9m primary school in Sandfields.
• Ysgol Bae Baglan - The award winning £40m all-through facility on Baglan Moors.
• Ysgol Gyfun Ystalyfera – A £16m Welsh medium school in the Swansea Valley. A new £3.5m teaching block for primary aged pupils has also opened there.
• Ysgol Cwm Brombil – A £30m all-through school in Margam with 78 miles of data cabling.
• The £19.3m Ysgol Gymraeg Bro Dur – A Welsh medium school for 11 to 16- year-olds in Sandfields.
• The £7m Ysgol Carreg Hir in Briton Ferry.
Some of the key design features of the Neath Abbey school include easy connections to the school’s new sports facilities, a sports hall which can be used by the community, the primary pupil entrance being from hard social space which will be good for safeguarding and a split car park which will segregate the parents’ drop off point from the staff parking area.
The school site will be secured with a fence to ensure access can be controlled and monitored and the development also includes CCTV security within the site itself. There will be 46 full time staff, six nursery staff and 11 part-time staff.
The school has targeted a minimum 25% reduction in energy consumption relative to current building regulation standards by adopting initiatives such as photovoltaic panels, “breathing building” passive ventilation to classrooms, a 40% increase in insulation and natural light being complemented by automatically dimmable electric lights controlled by sensors.
Cllr Peter Rees, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Education, Skills and Culture, said: “This development for the community of Neath Abbey will be another key landmark in Neath Port Talbot Council’s ambitious plan for creating the best possible environment for teaching and learning. It will help us continue to improve standards, making sure the right schools are in the right place, and that they are fit for 21st Century learners.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Mae ysgol gynradd newydd werth £9m i wasanaethu Mynachlog Nedd, gyda lle ar gyfer 520 o ddisgyblion newydd, gyda chae rygbi porfa, ardal chwaraeon defnydd lluosog ynghyd ag ardaloedd chwarae meddal a chaled wedi derbyn cymeradwyaeth amodol gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar gyn safle Ysgol Gyfun Isaf Dwr y Felin, a bydd yn cymryd lle Ysgol Gynradd Abbey presennol, a fydd yn parhau dros y tri safle ar wahân sydd ganddo wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo.
Bydd yr ysgol gynradd ym Mynachlog Nedd yn ddatblygiad diweddaraf yn ail gam (Band B) o Raglen Wella Strategol gyffrous Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a welodd fuddsoddiad gwerth dros £123m yn cael ei wneud i foderneiddio ystâd addysgol Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys:
• Awel Y Môr – ysgol gynradd £7.9m yn Sandfields.
• Ysgol Bae Baglan – Y cyfleuster pob oed £40m ar Rosydd Baglan a enillodd wobrau.
• Ysgol Gyfun Ystalyfera – Buddsoddiad £16m yng Nghwm Tawe.( Cyfrwng Cymraeg). Mae canolfan addysg newydd gwerth £ 3.5m hefyd wedi agor.
• Ysgol Cwm Brombil – Ysgol bob oedran werth £30m ym Margam, â 78 milltir o geblau data.
• Ysgol Gymraeg Bro Dur werth £19.3m yn Sandfields.( Cyfrwng Cymraeg)
• Ysgol Carreg Hir werth £7m yn Llansawel.
Ymhlith rhai o’r nodweddion dylunio a welir yn yr ysgol ym Mynachlog Nedd mae cyswllt hawdd â chyfleusterau chwaraeon newydd yr ysgol, neuadd chwaraeon y gall y gymuned ei defnyddio, mynediad disgyblion cynradd yn dod o ofod cymdeithasol caled a fydd yn llesol ar gyfer diogelu, a maes parcio wedi’i rannu, a fydd yn gwahanu man gollwng y rhieni oddi wrth ardal barcio’r staff.
Diogelir safle’r ysgol â ffens i sicrhau bod modd rheoli a monitro mynediad, ac mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys diogelwch camera cylch cyfyng yn y safle’i hun. Bydd yno 46 o staff llawn amser, chwe aelod o staff meithrin ac 11 aelod rhan amser o staff.
Mae’r ysgol wedi targedu lleiafswm o 25% o leihad mewn defnydd o ynni o’i gymharu â safonau rheoliadau adeiladu presennol, drwy fabwysiadu mentrau fel paneli ffotofoltäig, awyru goddefol ‘adeilad sy’n anadlu’ ar gyfer dosbarthiadau, cynnydd o 40% mewn inswleiddio, a chyd-osod golau naturiol gyda goleuadau trydan sy’n gallu tywyllu’n awtomatig dan reolaeth synwyryddion.
Meddai’r Cynghorydd Peter Rees, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant: “Bydd y datblygiad hwn ar gyfer cymuned Mynachlog Nedd yn nodwedd allweddol arall yng nghynllun uchelgeisiol Cyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn creu’r amgylchedd orau bosib ar gyfer dysgu ac addysgu. Bydd yn ein helpu i barhau i wella safonau, gan sicrhau fod yr ysgolion cywir yn y lle cywir, a’u bod yn addas ar gyfer dysgwyr yr 21ain ganrif.”
More stories