Neath Port Talbot Council’s Trading Standards Department is reminding people they should be using professional, fully trained and insured tree surgeons and arborists during the outbreak of Ash Dieback Disease which is currently affecting the UK.
During the previous Dutch elm disease outbreak the department noticed a surge in the number of complaints from consumers about rogue tree cutters taking advantage of the situation.
Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Community Safety and Public Protection, Cllr Leanne Jones, said: “We would remind residents they should be using professional, fully trained and insured tree surgeons and arborists. A list of these can be obtained from Nick Thomas, Senior Country Park Officer on 01639 686197.
“As we have seen in other authorities across Wales, the Council does not require homeowners to cut the trees down and we remind residents that they should never feel pressured into entering into contracts in their home.”
If you wish to report any such incidents please contact Citizens Advice Consumer Service on 0808 223113 or 0808 2231144 if you wish to speak to an advisor in Welsh.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Haint Clefyd y Coed Ynn – Cyngor gan Safonau Masnach
Mae Adran Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn atgoffa pobl y dylen nhw fod yn defnyddio coedwigwyr a meddygon coed proffesiynol, a hyfforddwyd yn llawn, ac sy’n meddu ar yswiriant, yn ystod cyfnod Haint Clefyd y Coed Ynn sy’n effeithio ar y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Yn ystod cyfnod clefyd Llwyfen yr Isalmaen, sylwodd yr adran ar dwf sydyn yn nifer y cwynion gan ddefnyddwyr am dorwyr coed diegwyddor oedd yn manteisio ar y sefyllfa.
Dywedodd y Cynghorydd Leanne Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros ddiogelwch cymunedol a diogelu'r cyhoedd: “Hoffem atgoffa preswylwyr y dylen nhw fod yn defnyddio coedwigwyr a meddygon coed proffesiynol, a hyfforddwyd yn llawn, ac sy’n meddu ar yswiriant. Gellir cael rhestr o bobl fel hyn gan Nick Thomas, Uwch-swyddog y Parciau Gwledig 01639 686197.
“Fel y gwelwyd mewn awdurdodau eraill ledled Cymru, nid yw’r Cyngor yn mynnu fod perchnogion tai’n torri’r coed i lawr, a hoffem atgoffa preswylwyr na ddylen nhw byth deimlo dan bwysau i ysgwyddo cytundebau yn eu cartrefi.”
Os hoffech riportio unrhyw ddigwyddiad o’r fath, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223113 neu 0808 2231144 os dymunwch siarad yn Gymraeg â chynghorwr. More stories