Cabinet Members at Neath Port Talbot Council will be asked to approve an ambitious £130m Capital Investment Programme when they meet on March 5th.
Some of the headlines include:
• Work to start on site this Autumn on a new £12.5 million retail and leisure facility in the centre of Neath.
• Significant investment in Welsh Language education which includes the completion of the final phase of work at Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur; and in the primary sector additional classrooms and childcare facilities being provided in Pontardawe, Briton Ferry and Cwmllynfell.
• Development of a major job creation zone at Harbourside in Port Talbot’s old docklands
• Work commencing on the exciting Swansea Bay City Deal programme starting with the delivery of the Swansea Bay Technology Centre.
These are just some of the elements contained in Neath Port Talbot Council’s Capital Programme and Capital Strategy – documents which outline the Authority’s high value schemes due to be worked on from now up to 2022/23.
Councillor Rob Jones, Leader of Neath Port Talbot Council said:
“Making our county borough a vibrant, healthy, and safe place to live, work and enjoy leisure time is one of our priorities, and capital investment is key to achieving this.
“We are fully committed to regeneration across the county borough and will be investing in the region of £87 million in the next financial year. By securing additional external funding, the investment over the next three years is projected to be more than £140 million.”
The year 2020/21, among other big money projects, will also see £140,000 worth of match funding to ensure progress on the ongoing Plaza Cinema regeneration project in the centre of Port Talbot, with another £100,000 going towards CCTV replacement.
The following two years (2021/22 and 2011/23) will see a further £250,000 going towards the Plaza project, £150,000 for CCTV replacement, £300,000 for neighbourhood improvements and £2.2m going to education.
The largest single budget continues to be Disabled Facilities Grants, which enable people to live independently in their own homes, with some £70m having been invested by the Council over the last 15 years.
Councillor Carol Clement-Williams, the Council’s Cabinet Member for Finance said:
“Major investment initiatives over the coming years include the continuation of the Council’s 21st Century Schools Programme. This has so far seen £123 million invested in school modernisation and new buildings, and is the biggest investment in future generations by a local authority in Wales outside of Cardiff.
“The Council is currently progressing with the second phase of the programme, which will see another £67 million invested in new schools. These include the £29 million Cefn Saeson school replacement currently underway in Cimla; the construction of a £9.2 million single site primary school in Longford, Neath to replace the existing three sites of the Abbey Primary School; and the final £8.5m phase of re-modelling works at Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur North Campus”
“This investment will help us to deliver on our commitment to ensuring our children and young people get the best start in life, so they can be the best they can be.”
In terms of Welsh Medium Education, the Council has secured grant funding of £3.4 million to improve facilities for Welsh Medium Education over three years. At YGG Pontardawe £1.6 million is being used to provide three extra classrooms and additional child care spaces, Ysgol Tyle’r Ynn will benefit from a £1.5 million investment for building two extra classrooms and child care facilities and YGG Cwmllynfell will see £600,000 invested to provide an additional classroom and an improved child care offer.
At its meeting on 28th January, the Swansea Bay City Region Joint Committee approved Neath Port Talbot’s business case entitled “Supporting Innovation and Low Carbon Growth”.
The business case includes details of a programme totalling £58.7 million with £47.7 million coming from the City Deal grant. The balance of the funding is due from other public sector funding (£6 million) and private sector funding (£5 million).
The programme is developed around four interlinked themes:
• The Swansea Bay Technology Centre – An ‘energy positive’ building on the Baglan Bay Energy Park providing space for start-up companies focusing on the R&D and ICT sectors. Excess energy created at the building will be converted for use by hydrogen vehicles.
• National Steel Innovation Centre – It will support the steel and metals industry in Port Talbot and Wales with the aim of reducing the carbon footprint of steel manufacture.
• Decarbonisation – A wide ranging programme involving projects such as electrical and hydrogen vehicle charging/fuelling points, air quality monitoring and real-time monitoring to introduce better informed air quality solutions in the future.
• Industrial Futures – A scheme to address the gap between demand and supply for businesses and available land in the Port Talbot Waterfront Enterprise Zone including space for start-ups, laboratories and a property development fund.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Rhaglen gyfalaf Castell-nedd Port Talbot – paratoi nawr ar gyfer y dyfodol!
Bydd gofyn i Aelodau Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gymeradwyo Rhaglen Fuddsoddi Cyfalaf uchelgeisiol werth £130m pan fyddan nhw’n cyfarfod ar 5 Mawrth.
Ymhlith rhai o’r penawdau mae:
• Gwaith i gychwyn ar safle ynghanol Castell-nedd yn yr hydref ar gyfleuster manwerthu a hamdden newydd gwerth £12.5 miliwn.
• Buddsoddiad sylweddol mewn addysg Cyfrwng Cymraeg, sy’n cynnwys cwblhau rhan olaf y gwaith ar Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur; ac yn y sector gynradd, darparu dosbarthiadau ychwanegol a chyfleusterau gofal plant ym Mhontardawe, Llansawel a Chwmllynfell.
• Datblygu parth creu swyddi o bwys yng Nglan yr Harbwr yn hen ddociau Port Talbot.
• Dechrau gwaith ar raglen gyffrous Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gan ddechrau gyda chyflawni Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe.
Dyma rai yn unig o’r elfennau a gynhwysir yn Rhaglen Gyfalaf a Strategaeth Gyfalaf Cyngor Castell-nedd Port Talbot – dogfennau sy’n amlinellu cynlluniau gwerth uchel yr Awdurdod fydd yn digwydd o nawr hyd at 2022/23.
Meddai’r Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae gwneud ein bwrdeistref sirol yn lle bywiog, iach a diogel i fyw, gweithio a mwynhau amser hamdden ynddo, yn un o’n blaenoriaethau, ac mae buddsoddi cyfalaf yn allweddol wrth geisio cyflawni hyn.
“Rydym ni wedi ymrwymo’n llwyr i adfywio ledled y fwrdeistref sirol a byddwn ni’n buddsoddi rhyw £87 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Drwy sicrhau cyllid allanol ychwanegol, rhagwelir y bydd y buddsoddiad dros y tair blynedd nesaf yn fwy na £140 miliwn.”
Ymhlith prosiectau eraill sy’n denu arian mawr, bydd £140,000 o gyllid cyfatebol yn cael ei glustnodi yn ystod 2020/21 i sicrhau cynnydd ar brosiect adfywio Sinema’r Plaza ynghanol Port Talbot, gyda £100,000 yn rhagor yn cael ei wario ar adnewyddu’r camerâu cylch cyfyng.
Yn ystod y ddwy flynedd ganlynol (2021/22 a 2022/23) bydd £250,000 yn rhagor yn cael ei wario ar brosiect y Plaza, £150,000 ar gyfer adnewyddu CCTV, £300,000 ar gyfer gwelliannau bro a £2.2m yn mynd at addysg.
Y gyllideb unigol fwyaf o hyd yw’r Grantiau Cyfleusterau Anabl, sy’n galluogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, wrth i ryw £70m gael ei fuddsoddi gan y Cyngor dros y 15 mlynedd ddiwethaf.
Meddai’r Cynghorydd Carol Clement-Williams, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid: “Ymhlith mentrau buddsoddi mawr dros y blynyddoedd i ddod, mae parhau â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor. Hyd yn hyn, gwelodd y cynllun hwn fuddsoddi gwerth £123 miliwn yn digwydd er mwyn moderneiddio ysgolion ac adeiladu o’r newydd, a dyma’r buddsoddiad mwyaf er budd cenedlaethau’r dyfodol gan awdurdod lleol yng Nghymru y tu fas i Gaerdydd.
“Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn bwrw ymlaen ag ail ran y rhaglen, a fydd yn gweld £67 miliwn yn rhagor yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion newydd. Ymhlith y gwariant bydd £29 miliwn ar adeilad i gymryd lle hen ysgol Cefn Saeson, sydd ar y gweill ar y Cimla; adeiladu ysgol gynradd un-safle gwerth £9.2 miliwn yn Longford, Castell-nedd, i gymryd lle tri safle presennol Ysgol Gynradd Abbey; a cham terfynol y gwaith gwerth £8.5 miliwn o ailfodelu Campws y Gogledd Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.”
“Bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i sicrhau fod ein plant a’n pobl ifanc yn cael y dechreuad gorau posib mewn bywyd, er mwyn iddyn nhw allu bod gystal byth ag y gallan nhw.”
O ran addysg cyfrwng Cymraeg, mae’r Cyngor wedi sicrhau £3.4 o arian grant er mwyn gwella cyfleusterau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg dros dair blynedd. Yn YGG Pontardawe, mae £1.6m yn ael ei ddefnyddio i ddarparu tri dosbarth ychwanegol, a mwy o leoedd gofal plant; bydd Ysgol Tyle’r Ynn yn elwa o fuddsoddiad gwerth £1.5 miliwn ar gyfer adeiladu dau ddosbarth ychwanegol ac adnoddau gofal plant, a bydd £600,000 yn cael ei fuddsoddi yn YGG Cwmllynfell er mwyn darparu dosbarth ychwanegol a gwell cynnig gofal plant.
Mewn cyfarfod ar 28 Ionawr, cymeradwyodd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe gynllun busnes Castell-nedd Port Talbot, o dan y teitl “Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel”.
Mae’r achos busnes yn cynnwys manylion rhaglen sy’n werth cyfanswm o £58.7 miliwn, a £47.7 miliwn o hwnnw’n dod o grant y Fargen Ddinesig. Bydd gweddill yr arian yn ddyledus o gyllid sector gyhoeddus arall (£6 miliwn) ac ariannu gan y sector breifat (£5 miliwn).
Datblygir y rhaglen o gwmpas pedair thema gydgysylltiol:
• Canolfan Dechnoleg Bae Abertawe – adeilad ‘ynni-gadarnhaol’ ar Barc Ynni Bae Baglan, er mwyn darparu lle i gwmnïau newydd sy’n canolbwyntio ar y sectorau Ymchwil a Datblygu a TGCh. Bydd unrhyw ynni dros ben a gynhyrchir yn yr adeilad yn cael ei drosi at ddefnydd cerbydau hydrogen.
• Canolfan Arloesi Genedlaethol Dur – bydd yn cefnogi’r diwydiant dur a metel ym Mhort Talbot a Chymru gyda’r nod o leihau ôl troed carbon gweithgynhyrchu dur.
• Datgarboneiddio – rhaglen eang ei sgôp yn cynnwys prosiectau fel pwyntiau gwefru / tanwydd i gerbydau trydan a hydrogen, monitro ansawdd awyr a monitro mewn amser go iawn er mwyn cyflwyno atebion doethach i faterion ansawdd awyr yn y dyfodol.
• Dyfodol Diwydiannol – cynllun i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng y galw a’r hyn sydd ar gael i’w gyflenwi o ran busnesau a thir ym Mharth Menter Glannau Port Talbot, gan gynnwys lle ar gyfer busnesau newydd, labordai a chronfa ddatblygu eiddo.
More stories