Mae pobl yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu hannog i barhau i chwarae eu rhan i gadw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rhag cael eu gorlethu.
Daw’r alwad ar ôl i nifer o achosion coronafeirws cynyddu dros yr wythnosau diwethaf, gan fynd â’r rhanbarth yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru.
Mewn ymateb, mae penaethiaid byrddau iechyd a chynghorau yn apelio ar gymunedau i ddilyn y rheolau cyfnod atal y coronafeirws a helpu i leihau lledaeniad y feirws.
Dywedodd Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer rhanbarth BIP Bae Abertawe: “Rydyn ni nawr mewn sefyllfa ddifrifol iawn yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
“Mae COVID-19 yn effeithio’n sylweddol ar ein cymunedau, ac mae hyn yn effeithio ar y ffordd mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu rhedeg.
“Yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, rydyn ni wedi colli 40 o gleifion i COVID-19 yn ardal Bae Abertawe - pob un o’r rhain yn fam, tad, gwr, gwraig, partner, chwaer, brawd, ffrind, neu rywun annwyl.”
Ychwanegodd Dr Reid: “Ar hyn o bryd, mae gennym 166 o bobl yn derbyn triniaeth ar gyfer COVID-19 yn ein hysbytai - gyda nifer o’r rhain mewn gofal critigol.
“Rydyn ni nawr yn profi dros 5,000 o bobl bob wythnos am coronafeirws. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, roedd bron i un o bob pump o’r rhai a brofwyd yn gadarnhaol.”
Meddai: “Mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod nad yw'r feirws yn effeithio ar bobl hyn a bregus yn unig. Mae cleifion o dan 40 oed sydd yn yr ysbyty â COVID-19.
“O'r rhai sydd yng ngwelyau gofal critigol ein hysbytai ar hyn o bryd, mae nifer sylweddol o dan 60 oed.”
Dywedodd Dr Reid, wrth i nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn gyda COVID-19 gynyddu, mae'r gallu i gael gwasanaethau di-frys a gweithdrefnau meddygol sydd wedi'u cynllunio wedi dod yn fwy cyfyngedig.
Bythefnos yn ôl, dangosodd data profi fod 161.9 a 186.3 o achosion i bob 100,000 o bobl yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Ers hynny mae'r niferoedd hyn wedi mwy na dyblu i 385.4 a 344.0 achos fesul 100,000 - ac maent yn parhau i godi.
Dywedodd Dr Reid: “Mae ein gwasanaethau Prawf, Olrhain, Amddiffyn dan straen wrth i nifer y bobl sydd angen profion COVID-19 dyfu. Mae'r cynghorau'n recriwtio pobl ar frys i gynyddu capasiti. Yn y cyfamser, rhaid i unrhyw un sydd â symptomau hunan-ynysu ar unwaith gyda'r bobl maent yn byw gyda nhw a mynd allan i gael eu profi yn unig. Dylai gweddill eich cartref hefyd ynysu nes bod y canlyniad yn hysbys. Gallant ddod allan o hunan-ynysu os yw'r prawf yn negyddol ond rhaid iddynt ynysu am 14 diwrnod os daw'r prawf yn ôl yn bositif.”
Dywedodd Andrew Jarrett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod y ddau awdurdod lleol yn gweithredu ar unwaith i ddelio â'r effaith ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn y rhanbarth, sydd hefyd wedi bod yn sylweddol ac mae'r pwysau'n cynyddu.
Dywedodd Mr Jarrett: “Roedd rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd i atal gwasanaethau dydd a gwasanaethau seibiant am o leiaf pythefnos, yn dilyn nifer o achosion cadarnhaol ymhlith defnyddwyr gwasanaeth a staff. Mae'n bosibl bydd aflonyddwch y gwasanaeth hwn yn ymestyn y tu hwnt i'r cyfnod atal y coronafeirws, yn dibynnu ar gyfraddau trosglwyddo Covid-19 lleol.
“Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth, ond mae'n rhaid i ni bwyso a mesur buddion mynychu gwasanaeth dydd neu ddarpariaeth seibiant, yn erbyn y risgiau sy'n gysylltiedig â dal Covid-19.
“Mae gwasanaethau gofal cartref a gofal preswyl hefyd o dan straen cynyddol, wrth i fwy o staff ynysu, naill ai oherwydd eu bod wedi cael eu heintio neu oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif.”
Ychwanegodd: “Byddwn yn parhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn y gorau ag y gallwn i helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel - ond ni allwn wneud hyn heboch chi. Nid yw'r cynnydd mewn achosion COVID-19 yn anochel. Os ydym i gyd yn parhau i ddilyn y rheolau, gallwn reoli'r feirws.”
Dywedodd Dave Howes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe: “Rydym yn gweld pwysau enfawr ar wasanaethau gyda’r nifer o bobl sydd angen ein cefnogaeth wedi dwblu yr hyn ydoedd ym mis Mawrth. Mae gennym fwy na 100 o welyau preswyl awdurdodau lleol ar hyn o bryd ac ym mis Medi yn unig gawsom 652 o ymholiadau newydd yn ceisio am gefnogaeth.
“Mae staff yn gwneud gwaith gwych i ddelio â’r pwysau mewn amgylchiadau anodd iawn ond rydym am ddechrau gaeaf hir ac anodd a dyna pam y byddwn yn annog pobl i ddilyn y rheolau a lleihau eu cyswllt ag eraill lle bynnag bod modd.
“Rydym yn recriwtio mwy o staff gofal cartref, staff cartrefi preswyl a gweithwyr cymdeithasol i fynd i’r afael â’r galwadau cynyddol hyn ar draws y gwasanaeth ac rydym yn paratoi capasiti preswyl ychwanegol yn barod ar gyfer pan fydd ei angen.
“Ond ni allaf bwysleisio hyn yn ddigonol, mae angen i’r cyhoedd gwneud eu rhan i helpu i dorri lledaeniad y feirws.”
Dywedodd Dr Reid: “Mae Bae Abertawe wedi gwneud hyn o’r blaen a gallwn wneud eto. Yn gynharach eleni roeddem yn gallu cadw gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i fynd oherwydd bod pawb yn dilyn y rheolau cloi cenedlaethol.
“Mae'n anodd torri arferion ond os ydym am atal lledaeniad coronafeirws, mae'n rhaid i ni i gyd barhau i fyw ein bywydau yn wahanol.
“Rydyn ni’n gwybod o achosion diweddar fod pobl ym Mae Abertawe yn dal i gwrdd ag eraill nad ydyn nhw'n byw gyda nhw, sy'n helpu'r feirws i ledaenu. Yn ystod y cyfnod atal hwn, ni ddylem fod yn cwrdd â phobl yr ydym yn byw gyda hwy oni bai ein bod yn byw ar ben ein hun neu fod gennym drefniadau rhannu plant."
“Rydym hefyd wedi gweld coronafeirws yn lledu mewn gweithleoedd. Yn aml mae hyn yn digwydd mewn ystafelloedd egwyl a ffreuturau, a phan fydd pobl yn rhannu cerbydau. Mae'n hawdd cwympo yn ôl i hen arferion ond nid yw coronafeirws yn diflannu tra ein bod ni yn y gwaith. Mae angen i ni aros dau fetr ar wahân o hyd, gwisgo gorchuddion wyneb lle bo angen a chadw ein dwylo'n lân.”
“Mae angen eich cefnogaeth arnom i fynd drwy’r ail don hon ac i roi’r cyfle gorau posibl inni barhau i ddarparu’r system o wasanaethau cymorth lleol hanfodol i’r preswylwyr mwyaf agored i niwed. Trwy wneud y newidiadau bach hyn nawr, gallwch chi atal COVID-19 rhag lledaenu a chadw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Bae Abertawe i redeg.”
More stories