Mae'n bleser mawr gennym arddangos gwaith anhygoel ein myfyrwyr yn ein horiel rithwir fwyaf erioed.
Arddangosir celfwaith gan Raddedigion Preswyl eleni, a’n naw rhaglen radd mewn Rhith-wirionedd 3D, Cerameg a Gemwaith, Celf Gysyniadol a Darlunio, Ffasiwn, Celfyddyd Gain, Ffotograffiaeth, Cerflunio, Tecstilau a Gwaith Amlddisgyblaethol; ochr yn ochr â'n cyrsiau Addysg Bellach: Diploma Sylfaen, Mynediad i Gelf a Dylunio a chyrsiau Lefel 1, 2 a 3. Yn ychwanegol i hyn, rydym yn falch iawn o groesawu myfyrwyr Addysg Bellach o Gelf a Dylunio Coleg Ceredigion yn ôl, ac yn newydd ar gyfer eleni, cyrsiau Dylunio Dodrefn.
Am y tro cyntaf, eleni rydym yn falch iawn o fod yn arddangos y celfwaith o linynnau Portffolio (TGAU) a Chodi’r Bar (Safon Uwch) Prosiect Criw Celf Cyngor Celfyddydau Cymru a gyflwynir yn yr Ysgol Gelf; a detholiad o waith gan ddysgwyr Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth mewn ymateb i'r gweithdai ar-lein a gyflwynwyd gan staff Ysgol Gelf Caerfyrddin.
Yn olaf, estynnwn groeso cynnes iawn i chi i gyd i'n Harddangosfeydd Diwedd y Flwyddyn Myfyrwyr 2021, gobeithiwn y byddwch chi'n mwynhau'r sioe!
Anogir y cyhoedd i fwrw golwg ar yr arddangosfa o gysur eu cartrefi eu hunain wrth i ni ddadorchuddio’r arddangosfa rithwir.
Rhyddheir dolen gyswllt ar ddydd Gwener Mehefin 25 at 1yp ar wefannau’r coleg https://www.colegsirgar.ac.uk a https://www.ceredigion.ac.uk
Bydd yr arddangosfa ar gael drwy gydol yr haf.
Dilynwch Ysgol Gelf Caerfyrddin a Choleg Ceredigion ar Facebook ac Instagram.
https://www.facebook.com/CarmarthenSchoolOfArt/
https://www.facebook.com/colegceredigion/
Instagram @carmarthenschoolofart
Cyswllt: csofa@colegsirgar.ac.uk
Phôn: 01554 748201
More stories