Bydd pobl sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu gofyn i rannu’u barn am lwybrau cerdded a seiclo (Teithio Llesol) presennol ac arfaethedig yn y fwrdeistref sirol yn ystod cyfnod ymgynghori 12 wythnos o hyd i ddechrau ar 30 Gorffennaf 2021.
Pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau, bydd y cyngor hefyd yn lansio cystadleuaeth fideo teithio llesol gyda’r cyfle i ennill un o blith deg Fitbit – felly cadwch eich llygad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y cyngor i gael mwy o wybodaeth!
Mae’r ymgynghoriad yn dilyn ymgynghoriad cerdded a beicio cynharach a ddigwyddodd o 27 Tachwedd 2020 tan Ionawr 25 eleni gyda chyfanswm o 2,642 cyfraniad yn cael eu derbyn a 1,040 o bobl yn ymateb.
Mae’r cyngor wedi ystyried yr holl sylwadau’n ofalus ac wedi cyfuno’r farn gyhoeddus hon gyda gwybodaeth berthnasol arall i gynhyrchu Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM) drafft ar gyfer pob annedd dynodedig yn CnPT.
O ganlyniad mae 127km ychwanegol o lwybrau cerdded a theithio arfaethedig ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft yn yr ymgynghoriad, o’i gymharu â’r map a gymeradwywyd yn 2017.
Mae’r mapiau ar gyfer yr anheddau dynodedig yn dangos:
• Ble mae angen gwella llwybrau a ble mae angen llwybrau newydd (a labelir fel ‘llwybrau’r dyfodol’)
• Llwybrau sydd eisoes yn cwrdd â’r safon addas ar gyfer cynllunio llwybr teithio llesol (a labelir fel ‘llwybrau presennol’)
Bellach mae’r cyngor yn gwahodd preswylwyr i roi gwybod a yw’r llwybrau arfaethedig yn fwy tebygol o’u helpu i deithio o gwmpas eu hardal leol fel cerddwr neu seiclwr. Os na, mae’r cyngor yn gofyn i chi ystyried pa welliannau eraill allai fod yn addas.
Mae’r cyngor yn gallu gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn i weithredu’r cynigion ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol. Os nad yw llwybrau ar y map, dydyn nhw ddim yn gymwys i dderbyn cyllid, felly mae’n bwysig fod y cyngor yn deall beth sy’n bwysig i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot.
Nod Teithio Llesol yw rhoi’r cyfle i gynifer o bobl â phosib ddewis dull amgen na theithio modur, ac fe’i diffinnir fel cerdded a seiclo ar gyfer teithiau byr pwrpasol beunyddiol, heb gyfrif teithiau a wneir i bwrpasau hamdden neu gymdeithasol yn unig.
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn mynnu fod cynghorau Cymru’n paratoi, yn cyhoeddi ac yn cadw dan adolygiad parhaus Fap Rhwydwaith Teithio Llesol sy’n cynnwys llwybrau presennol (cofnod cyhoeddus o’r llwybrau sy’n bodoli eisoes yn y Fwrdeistref Sirol sydd yn nhyb y cyngor yn addas ar gyfer Teithio Llesol gan gwrdd â safonau Llywodraeth Cymru) a llwybrau’r dyfodol (gan amlinellu uchelgais y cyngor dros y 15 mlynedd nesaf, adnabod gwelliannau i lwybrau presennol neu lwybrau newydd ychwanegol y mae’r cyngor yn ystyried ddylai gael eu hychwanegu at y rhwydwaith).
Cafodd ATNM y cyngor ei adolygu, gan ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn gynt gan y cyhoedd a phartïon â diddordeb ac mae ATNM Drafft Ymgynghorol newydd bellach wedi cael ei baratoi. Mae hwn yn amlinellu llwybrau sy’n bodoli eisoes mewn ardaloedd trefol ac uchelgais y cyngor ar gyfer y 15 mlynedd nesaf.
Gellir gweld yr ymgynghoriad yma: https://neathporttalbot2.commonplace.is/cy-GB More stories