Mae grwp ymgyrchu lleol yn cynnal digwyddiad sy'n ceisio darparu gwybodaeth am effaith Coronafeirws yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a helpu i fynd i'r afael â phetruster brechu, yn enwedig ymhlith aelodau o’r cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn yr ardal.
Bydd sesiwn holi ac ateb Tell Me More, lle byddant yn trafod Coronafeirws mewn cymunedau a brechiadau COVID-19, am ddim ac fe'i cynhelir am 5.30pm nos Fercher 17 Tachwedd 2021.
Cefnogir y digwyddiad byw gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd yn darparu cyfle i ddeall mwy am effaith Coronafeirws a chymryd rhan mewn trafodaeth agored a gonest am unrhyw bryderon ynghylch cael brechiad, gan gynnwys cyflwyno'r brechlyn ymhlith pobl ifanc 12 i 15 oed. Gall cyfranogwyr ofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr iechyd ac arweinwyr cymunedol lleol.
Meddai Henry Gilbert, Cadeirydd yr Ymgyrch, a fu’n Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg:
"Adroddwyd yn eang am effaith anghymesur Coronafeirws ar bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (BAME), ac yn anffodus, ers cyflwyno brechlynnau COVID-19 am y tro cyntaf cafwyd twf mewn propaganda gwrth-frechlyn peryglus ac anwir, a chamwybodaeth.
"Gyda'r gaeaf yn nesáu, a brechiadau'n cael eu cynnig i bobl ifanc 12 i 15 oed, mae grwp rhanddeiliaid Tell Me More wedi cytuno y byddai'n amser da i gynnal digwyddiad er mwyn deall mwy am yr effaith ar ein cymunedau BAME, ac i helpu i chwalu unrhyw fythau a rhoi tawelwch meddwl ynghylch y brechiadau.
"Wrth gwrs, mae cael brechiad yn ddewis personol ond mae brechlynnau COVID-19 yn achub bywydau, a'n nod yw rhoi'r ffeithiau a'r wybodaeth i bobl fel y gallant wneud penderfyniad cytbwys am y brechlynnau, ar gyfer eu hunain a'u teuluoedd."
Caiff y panel ar gyfer y digwyddiad ei gyhoeddi cyn bo hir, ond disgwylir iddo gynnwys arbenigwyr iechyd ac arweinwyr cymunedol lleol.
Ychwanegodd Mr Gilbert,
"Byddwn yn annog unrhyw un a chanddo gwestiynau am Coronafeirws neu ddiogelwch ac effeithiolrwydd y brechlynnau COVID-19, pryderon sy'n gysylltiedig â chredoau crefyddol neu foesol neu unrhyw gwestiynau ynghylch a yw cael brechlyn yn iawn iddo ef a'i deulu i alw heibio a thrafod y materion hyn â'n panel o arbenigwyr."
Dylai unrhyw un sy'n dymuno dod gofrestru erbyn 5pm ddydd Llun 15 Tachwedd. Gallwch ddod o hyd i sut i gofrestru a chyflwyno ffurflen gwestiynau, yn ogystal â rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yn www.tellmemore.wales
Er bod y digwyddiad wedi'i deilwra ar gyfer preswylwyr cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, mae croeso i unrhyw un ymuno â'r drafodaeth.
Mae cynrychiolwyr cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi dod ynghyd i lansio'r ymgyrch leol i ddileu ofn a diffyg ymddiriedaeth, ac annog pobl i gael brechlyn Covid-19. Mae’n cyfeirio pobl at wybodaeth onest a chywir o ffynonellau lleol y gallan nhw ymddiried ynddynt, gan gynnwys ymarferwyr meddygol, arweinwyr ffydd a chymuned, yn ogystal â phobl gyffredin, ffrindiau a chymdogion, sy’n byw ac yn gweithio yn y gymuned, fel bod pobl o gymunedau BAME yn wir yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus.
More stories