Cafodd Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Castell-nedd Port Talbot ymweliad brenhinol yr wythnos hon (dydd Mercher, 9 Mawrth, 2022) pan ddaeth ei Huchelder Brenhinol Iarlles Wessex i gwrdd â rhieni ifanc, eu plant a staff sy’n rhan o’r Ddarpariaeth Rhieni Ifanc. Ariennir y Ddarpariaeth gan Grant Cefnogi Ieuenctid Llywodraeth Cymru a’i rhedeg mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid, Dechrau’n Deg a Thrive. Gall y Rhieni Ifanc gael mynediad i Weithwyr Ieuenctid, ynghyd â chefnogaeth gan raglen Dechrau’n Deg Cyngor Castell-nedd Port Talbot (rhaglen gefnogi’r blynyddoedd cynnar i deuluoedd â phlant dan bedair oed) a’u cefnogi gan Grwp Thrive Cymru. Mae’r grwp Rhieni Ifanc yn darparu cefnogaeth a chyngor gwerthfawr i rieni ifanc sydd mewn perygl o gael eu hynysu ac mae wedi bod yn rhaff bywyd i rieni newydd wrth iddyn nhw lywio’u ffordd drwy ofalu am fabis a phlant bach yn ystod pandemig Covid-19. Mae’r gefnogaeth a ddarperir i’r grwp wedi cynnwys Prosiect Popty Pwyll (Slow Cooker), sesiynau cerdded a siarad, cwrs meithrin rhieni a sesiynau un i un. Mae gan Iarlles Wessex ddiddordeb personol cryf mewn gwella cyfleoedd a chymorth i bobl ifanc, a bydd hi’n hyrwyddo elusennau cenedlaethol fel NSPCC. Yn ystod ei hymweliad â’r Grwp Rhieni Ifanc yng Nghanolfan Chwarae Playhem, cyfarfu’r Iarlles â rhieni, plant, y Cyngor Ieuenctid a staff, ac fe’i croesawyd hefyd gan Faer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd John Warman, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mrs Louise Fleet a Dirprwy Faer Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot, Maddie Pritchard. Yn ôl y Cynghorydd Warman: “Roedden ni wrth ein bodd i groesawu EHB Iarlles Wessex i Gastell-nedd Port Talbot, ac roedd hi’n awyddus i gwrdd â’r rhieni ifanc oedd yn cael cymorth gan ein gwasanaeth ieuenctid ar y cyd â Dechrau’n Deg a Grwp Thrive yn Playhem. Dyma brosiect o’r radd flaenaf ar gyfer helpu a chefnogi rhieni ifanc a fyddai mewn perygl fel arall o gael eu hynysu.” Meddai’r Maer Ieuenctid Bethan Nicholas-Thomas: “Roedd hi’n hyfryd i EHB Iarlles Wessex ymweld â ni yng Nghastell-nedd Port Talbot, a siarad â’r Grwp Rhieni Ifanc a’r Cyngor Ieuenctid. Mae’n bwysig i ni fel pobl ifanc i gael y cyfleoedd hyn ble gallwn leisio ein bar ar faterion sy’n effeithio ar ein bywydau. Mae’r prosiect Rhieni Ifanc yn enghraifft ragorol o’r Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i helpu pobl ifanc sydd angen cymorth.” Ynghynt yn y dydd, roedd yr Iarlles, sy’n noddwr i’r Scar Free Foundation, wedi ymweld â chanolfan ymchwil yr elusen Lundeinig, ym Mhrifysgol Abertawe – nod y ganolfan, gan weithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw gwella technegau ailadeiladu wynebau gan ddefnyddio bioargraffu 3D. More stories
  • FYI Neath
  • FYI Neath 
  • HomeHome
  • ContactContact
  • SearchSearch
  • Add ContentAdd content
  • LoginLogin...
  • MapShowHide Map
  • Facebook Twitter
FYI Neath
Login with Facebook or Login via Email

Sign up or log in here to add content to FYI:

If you'd like us to occasionally send you newsletters and other information, give us your name and email address below:

<   

  • Shops & Services
  • Jobs
  • What's On
  • Community News
  • Eating Out
  • Neath Market
  • Sport
  • History
  • Public Information
  • FYI Maker
  • FYI Carmarthen
  • FYI Brecon
  • FYI Talgarth
×

Thumbs down?

Please tell us why so we can better personalise for you in future...

Anything by Cancel
  • Privacy Policy
  • Terms and conditions
  • Copyright © 2013