Cafodd UWCH-SWYDDI GWLEIDYDDOL eu cadarnhau gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn ei Gyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot ddydd Mawrth (Mehefin 7, 2022).
Cafodd clymblaid newydd i arwain Cyngor Castell-nedd Port Talbot ei benodi’n ffurfiol ar ôl etholiadau lleol mis Mai pan ddaeth cynrychiolwyr o’r grwpiau Annibynnol, Plaid Cymru ac Annibynwyr Dyffryn ynghyd i gytuno i rannu grym.
Bydd aelodau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r Blaid Werdd yn cefnogi’r glymblaid newydd drwy gyfrwng cytundeb hyder a chyflenwi.
Ar hyn o bryd mae’r glymblaid a’r grwpiau sy’n ei chefnogi’n dal 33 sedd allan o gyfanswm o 58. Bydd y ddwy sedd olaf ar y cyngor, a’r ddwy yn ward Port Talbot, yn cael eu hymladd ar 23 Mehefin (gan ddod â chyfanswm y seddi ar y cyngor i 60). Bu’n rhaid gohirio’r bleidlais yn y ward hon ar ôl i un o’r ymgeiswyr farw.
Yn y Cyfarfod Blynyddol, cadarnhawyd y Cynghorydd Stephen Hunt, Arweinydd y grwp Annibynnol, fel Arweinydd y cyngor tra bo’r Cynghorydd Alun Llewelyn, Arweinydd grwp Plaid Cymru, wedi’i gadarnhau fel Dirprwy Arweinydd.
Yn y cyfarfod hefyd, cadarnhawyd mai’r Cynghorydd Robert Wood (Llafur) fyddai Maer Castell-nedd Port Talbot ar gyfer 2022/23 gyda’r Cynghorydd Chris Williams (Plaid Cymru) yn Ddirprwy Faer.
Cadarnhawyd y penodiadau cabinet canlynol yn ogystal:
Cymuned ac Arweinyddiaeth Strategol / Arweinydd: Y Cynghorydd Stephen Hunt (Arweinydd).
Cyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol: Y Cynghorydd Simon Knoyle.
Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant: Y Cynghorydd Nia Jenkins.
Adfywio Economaidd a Chymunedol: Y Cynghorydd Martyn Peters.
Newid Hinsawdd a Llesiant: Y Cynghorydd Jeremy Hurley.
Gwasanaethau Plant a Theulu: Y Cynghorydd Sian Harris.
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd: Y Cynghorydd Jo Hale.
Tai a Diogelwch Cymunedol: Y Cynghorydd Alun Llewelyn (Dirprwy Arweinydd
Cynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd: Y Cynghorydd Wyndham Fryer Griffiths.
Strydlun: Y Cynghorydd Scott Jones.
Wrth siarad yn y cyfarfod, meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hunt: “Heddiw yw un o’r diwrnodau balchaf yn fy mywyd.
“Mae’r fraint o gynrychioli’r cyngor hwn fel ei Arweinydd newydd yn golygu llawer iawn i ,i. Diolch i chi, y cygnor, am roi’r cyfle hwn i mi. Byddaf yn gweithio’n ddiflino i hybu’r fwrdeistref sirol ac i wella bywyd i bawb sy’n byw yma.
“Waeth beth fo ein gwahaniaethau gwleidyddol, mae un peth sy’n ein huno ni i gyd yn yr ystafell hon fel cynrychiolwyr etholedig a swyddogion y cyngor – sef gwneud y gorau allwn ni i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot er mwyn cyflawni’r gwasanaethau o ansawdd gorau y maen nhw eisiau’u cael, y mae’u hangen arnyn nhw, ac y mae ganddyn nhw bob hawl i’w ddisgwyl, ac i greu’r amodau cywir ar gyfer ffyniant economaidd.
“Ar ôl 14 mlynedd fel cynghorydd, rwy’n hyderus y gallwn ni, er y byddwn o bosib yn anghytuno o bryd i’w gilydd ar sut i gyflawni’r agenda hon, barhau i ddod ynghyd a chydweithio er budd cenedlaethau heddiw a’r dyfodol yn ein bwrdeistref sirol.
“Hefyd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i longyfarch Tîm Pêl-droed Cymru a’r sgwad ar gyrraedd Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, gyda llongyfarchiadau arbennig i Rubin Colwill, Ben Davies, a Connor Roberts am fod y tri’n dod o’n bwrdeistref sirol ni, gyda Connor Roberts (Creunant) a Ben Davies (Blaendulais) ill dau’n dod o Gwm Dulais.”
Ychwanegodd yr Arweinydd: “Byddaf yn amlinellu rhaglen arfaethedig Clymblaid yr Enfys mewn cyfarfod o’r cyngor yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Alun Llewelyn: “Mae cael fy ethol yn Ddirprwy Arweinydd yng nghyfarfod heddiw’n fraint enfawr i fi.
“Wrth i’r cyngor symud ymlaen i’r pandemig i gyfeiriad adferiad mae llawer o broblemau fydd angen sylw, a rhai cyfleoedd cyffrous hefyd. Fel Dirprwy Arweinydd edrychaf ymlaen at chwarae rhan lawn a bywiog o fewn y glymblaid sy’n llywio, ond hefyd i weithio gyda phob aelod o’r cyngor i wella deilliannau ar gyfer y bobl rydyn ni’n eu cynrychioli.
“Heddiw, mae’n gyfle’n bennaf i longyfarch a chefnogi ein Maer a Dirprwy Faer newydd, ond cawn gyfle hefyd yn y dyfodol agos i amlinellu gweledigaeth y weinyddiaeth newydd hon.”
More stories