People with unused musical instruments stored in their homes are being asked to donate them so that they can be used by young people in Neath Port Talbot.
During the week beginning 20th November, Cerdd NPT Music Service will be participating in ‘Instruments for Kids’, an amnesty for unused musical instruments launched earlier this month by the Welsh Government. The campaign follows a successful pilot undertaken in Cardiff earlier this year.
Donated instruments, specifically woodwind, brass, percussion and string instruments, will be checked and repaired if necessary before being delivered to schools in Neath Port Talbot and to pupils through the County Music Service.
Cllr Peter Rees, Cabinet Member for Education, Skills and Culture welcomed the initiative: “The Instruments for Kids campaign is a simple idea that could however make a big difference to local children and young people and help to encourage a new generation of musicians.”
“Items that might be gathering dust and cluttering up people’s homes now have the chance for a new lease of life and give school pupils from across the county borough the chance to learn and love music themselves. Initiatives such as this can help more young people to enjoy the many benefits that learning an instrument can bring, at a time when resources are increasingly limited.”
Instruments can be handed to the Cerdd NPT Music Office in Baglan Education and Training Centre, Baglan, SA12 8TF from Monday 20th November to Friday 24th November, 8.30am to 4.30pm.
Instruments can also be donated at the following times and venues:
Wednesday 22nd November, 5.30pm to 8.00pm
Cwmtawe Brass Centre, YGG Pontardawe, Alltycham Drive, Pontardawe, SA8 4JX
Thursday 23rd November, 5.30pm to 7.30pm
Cwmtawe Orchestral Centre, Cwmtawe Community School, Ffordd Parc Ynysderw, Pontardawe, SA8 4EG
Thursday 23rd November, 5.30pm to 7.30pm
Dwr y Felin Music Centre, Dwr- y-Felin Road, Neath, SA10 7RE
For more information, or if you are unable to get to any of the drop off points, please contact the Cerdd NPT Music Service on (01639) 686827 or cerddnptmusic@btconnect.com.
For the latest updates on Cerdd NPT Music Service follow @CerddNPTMusic on Twitter or like https://www.facebook.com/cerddnptmusic.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gofynnir i bobl ag offerynnau cerdd diddefnydd yn eu cartrefi i'w cyfrannu fel y gall pobl ifanc eu defnyddio yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 20 Tachwedd, bydd Gwasanaeth Cerdd CNPT yn cymryd rhan mewn amnest offerynnau cerdd nad ydynt yn cael eu defnyddio o'r enw "Offerynnau i Blant" a lansiwyd yn gynharach y mis hwn gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ymgyrch yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn gynharach eleni.
Caiff offerynnau sy'n cael eu cyfrannu, yn benodol, chwythbrennau, offerynnau pres, taro a llinynnol, eu gwirio a'u hatgyweirio os oes angen cyn cael eu dosbarthu i ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot ac i ddisgyblion drwy Wasanaeth Cerdd y sir.
Croesawyd y fenter gan y Cyng. Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, "Mae'r ymgyrch Offerynnau i Blant yn syniad syml a allai wneud gwahaniaeth mawr i blant a phobl ifanc leol a helpu i annog cenhedlaeth newydd o gerddorion."
"Bydd cyfle i eitemau sydd efallai wedi bod yn casglu llwch yng nghartrefi pobl gael eu defnyddio o'r newydd a bydd yn gyfle hefyd i ddisgyblion ysgol ar draws y fwrdeistref sirol ddysgu cerddoriaeth eu hunain a meithrin cariad ati. Gall mentrau fel hyn helpu mwy o bobl ifanc i fwynhau'r buddion niferus a geir o ddysgu offeryn ar adeg pan fo adnoddau'n gynyddol gyfyngedig."
Gellir mynd â'r offerynnau i Swyddfa Cerdd CNPT yng Nghanolfan Addysg a Hyfforddiant Baglan, Baglan SA12 8TF o ddydd Llun 20 Tachwedd i ddydd Gwener 24 Tachwedd, 8.30am tan 4.30pm.
Gellir rhoi offerynnau hefyd ar yr amserau ac yn y lleoliadau canlynol:
Nos Fercher 22 Tachwedd, 5.30pm tan 8.00pm
Canolfan Offerynnau Pres Cwm Tawe, YGG Pontardawe, Rhodfa Alltycham, Pontardawe SA8 4JX
Nos Iau, 23 Tachwedd, 5.30pm tan 7.30pm
Canolfan Gerddorfaol Cwm Tawe, Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Ffordd Parc Ynysderw, Pontardawe SA8 4EG
Nos Iau, 23 Tachwedd, 5.30pm tan 7.30pm
Canolfan Gerdd Dwr y Felin, Heol Dwr y Felin, Castell-nedd SA10 7RE
Am ragor o wybodaeth, neu os na allwch gyrraedd unrhyw un o'r mannau gollwng, ffoniwch Wasanaeth Cerdd CNPT ar (01639) 686827 neu e-bostiwch cerddnptmusic@btconnect.com.
I gael y diweddaraf am Wasanaeth Cerdd CNPT, dilynwch @CerddNPTMusic ar Twitter neu hoffwch https://www.facebook.com/cerddnptmusic.
More stories