More than a million pounds of Welsh Government grant money will be ploughed into Neath Port Talbot Council transport schemes to improve safety, reduce congestion, create economic growth and promote active travel in the current financial year.
The £1,171,084 worth of local transport grants given to Neath Port Talbot will include road improvements, safety training and transport projects in Ystalyfera, Crynant, Pontrhydyfen, Dyffryn Cellwen and other parts of the county borough.
The £1,171,04 is part of the overall £25.9m in transport grants given to local authorities across Wales in the 2018/19 financial year.
These are the transport grants handed out this year out in Neath Port Talbot:
Neath Port Talbot Safe Routes in Communities - Ystalyfera (£185,000) – Involves a feasibility study into a 20mph zone (followed by consultation), improvements to an underpass and pathway and the installation of a controlled pedestrian crossing.
Road Safety Capital Grant - A4109 Crynant to Dyffryn Cellwen (£256,000) – This will see the provision of “speed cushions” at several locations, an entry feature, signage, road markings, anti-skid surfacing and junction improvements. The same grant will also pay for - B4286 Port Talbot to Pontrhydyfen (£212,000) – the provision of an entry feature to a 30mph zone, signage, road markings, anti-skid surfacing, carriageway width reduction, pedestrian refuge and footway and speed cushion work.
Road Safety Revenue Grant Road (73,084) - This includes National Standards Cycling Training (£15,000), Megadrive (£4,000), Kerbcraft (£22,000), FBOS (£5,005), Pass Plus Cymru (£10,074), Bikesafe (£5,005) and Dragon Rider (£12,000).
Local Transport Fund (£235,000) - Involves work on developing an active travel scheme to encourage travel by foot and bicycle (land purchase, design, feasibility studies, consultation and engagement work).
Local Transport Network Fund (£210,000) – A series of junction improvements in the Neath area.
The grant funding relates to the period 1st April 2018 to March 31st 2019 and must be claimed in full by March 30th 2019.
Councils across Wales were invited to submit applications for their priority schemes. A total of 190 applications were received.
Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetscene and Engineering, Cllr Ted Latham said: “The grants will allow us to develop our road safety projects and travel schemes right across our town centres and valley areas.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Bydd dros filiwn o bunnoedd o arian grant Llywodraeth Cymru'n cael ei roi i gynlluniau cludiant Cyngor Castell-nedd Port Talbot i wella diogelwch, lleihau tagfeydd, creu twf economaidd a hybu teithio llesol yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Bydd y grantiau cludiant lleol sy'n werth £1,171,084 a roddwyd i Gastell-nedd Port Talbot yn cynnwys gwelliannau ffyrdd, hyfforddiant diogelwch, a phrosiectau cludiant yn Ystalyfera, y Creunant, Pont-rhyd-y-fen, Dyffryn Cellwen a rhannu eraill o'r fwrdeistref sirol.
Mae'r £1,171,04 yn rhan o'r £25.9m mewn grantiau cludiant a roddwyd i awdurdodau lleol ledled Cymru yn y flwyddyn ariannol 2018/19.
Dyma'r grantiau cludiant a ddosbarthwyd eleni yng Nghastell-nedd Port Talbot:
Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Castell-nedd Port Talbot - Ystalyfera (£185,000) – mae'n cynnwys astudiaeth dichonoldeb i barth 20mya (ac ymgynghoriad i ddilyn), gwelliannau i danffordd a llwybr a gosod croesfan i gerddwyr a reolir.
Grant Cyfalaf Diogelwch Ffyrdd - yr A4109, y Creunant i Ddyffryn Cellwen (£256,000) – gyda'r grant hwn darperir "clustogau arafu" mewn sawl lleoliad, nodwedd mynediad, arwyddion, marciau ffyrdd, arwyneb gwrthsgidio a gwelliannau i'r gyffordd. Bydd yr un grant hefyd yn talu am y canlynol ar y B4286 Port Talbot i Bont-rhyd-y-fen (£212,000) - nodwedd mynediad i barth 30mya, arwyddion, marciau ffyrdd, arwyneb gwrthsgidio, lleihau lled y ffordd gerbydau, lloches i gerddwyr a gwaith ar y droedffordd a chlustogau arafu.
Grant Refeniw Diogelwch Ffyrdd (£73,084) - Mae hyn yn cynnwys Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol (£15,000), Megadrive (£4,000), Kerbcraft (£22,000), FBOS (£5,005), Pass Plus Cymru (£10,074), Bikesafe (£5,005) a Dragon Rider (£12,000).
Y Gronfa Trafnidiaeth Leol (£235,000) Mae'n cynnwys gwaith ar ddatblygu cynllun teithio llesol i annog teithio ar droed ac ar feic (prynu tir, dylunio, astudiaethau dichonoldeb, gwaith ymgynghori a chynnwys).
Cronfa'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Lleol (£210,000) – cyfres o welliannau i gyffyrdd yn ardal Castell-nedd.
Mae'r arian grant yn gysylltiedig â'r cyfnod 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019 a rhaid ei hawlio'n llawn erbyn 30 Mawrth 2019.
Gwahoddwyd cynghorau ledled Cymru i gyflwyno ceisiadau ar gyfer eu cynlluniau blaenoriaeth. Derbyniwyd cyfanswm o 190 o geisiadau.
Meddai Aelod Cabinet Castell-nedd Port Talbot dros y Strydlun a Pheirianneg, y Cyng. Ted Latham, "Bydd y grantiau'n caniatáu i ni ddatblygu'n prosiectau diogelwch ffyrdd a'n mentrau teithio ar draws canol ein trefi ac yn ardaloedd y cymoedd.
More stories