Carers living in Neath Port Talbot are being invited to attend an information event to find out what support is available to them.
The event is taking place at Aberafan Shopping Centre on Tuesday 12th June 2018 between 10am and 4pm.
As part of the annual Carers Week campaign, the event aims to raise awareness of caring and give carers the opportunity to find out what support is available year-round for them. This year’s theme focuses on helping carers to be ‘healthy and connected’, highlighting the need for them to look after their own physical and mental health.
There will be a number of stands at the event including Neath Port Talbot Carers Service, ABMU Health Board, Neath Port Talbot Council and various third sector organisations.
Alison James, manager of Neath Port Talbot Carers Service, said:
“Bringing together so many organisations into one event is a great opportunity for carers to find out what support services are available in the local area and how they can access them.
“I would encourage anyone who considers themselves to be a carer to come along to the event and speak to the different organisations.
Councillor Peter Richards, Cabinet Member for adult social care and health, said:
“The Council fully recognises how important carers are at providing support to family members and friends who could not manage without this help.
“Carers of all ages are supporting loved ones on a daily basis to improve a person’s quality of life. Therefore, it is vital carers are aware of what support is available for themselves, as well as the person they care for.
In the 2011 Census, 14.6% of the population of Neath Port Talbot identified themselves as carers.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gwahoddir gofalwyr sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot i ddigwyddiad gwybodaeth er mwyn darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Siopa Aberafan ddydd Mawrth 12 Mehefin 2018 rhwng 10am a 4pm.
Fel rhan o ymgyrch flynyddol Wythnos Gofalwyr, bydd y digwyddiad yn cynyddu ymwybyddiaeth o ofalu a rhoi'r cyfle i ofalwyr ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt trwy'r flwyddyn. Bydd y thema eleni'n canolbwyntio ar helpu gofalwyr i fod yn 'iach ac yn gysylltiedig', wrth bwysleisio bod angen iddynt ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol eu hunain.
Bydd nifer o stondinau yn y digwyddiad, gan gynnwys Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd PABM, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a sefydliadau trydydd sector amrywiol.
Meddai Alison James, rheolwr Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot,
"Bydd presenoldeb cynifer o sefydliadau mewn un digwyddiad yn gyfle arbennig i ofalwyr ddarganfod pa wasanaethau cefnogi sydd ar gael yn yr ardal leol a sut y gallant gael mynediad atynt.
"Bydden yn annog unrhyw un sy'n ystyried ei hun yn ofalwr i ddod i'r digwyddiad a siarad â'r sefydliadau gwahanol yno.
Meddai'r Cynghorydd Peter Richards, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd i Oedolion,
"Mae'r cyngor yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd gofalwyr sy'n rhoi cefnogaeth i aelodau'r teulu ac i ffrindiau na allant ymdopi heb yr help hwn.
"Mae gofalwyr o bob oedran yn cefnogi anwyliaid yn ddyddiol er mwyn gwella ansawdd eu bywydau. Felly, mae'n hanfodol bod gofalwyr yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, yn ogystal ag i'r person maent yn gofalu amdano.
Yng nghyfrifiad 2011, nododd 14.6% o boblogaeth Castell-nedd Port Talbot eu bod yn ofalwyr.
More stories