The Safer Neath Port Talbot Partnership has taken action against a prolific shoplifter operating in Neath Town Centre after he refused the support offered to him and continued to break the law.
Stephen Paul Smith has been served with a five-year Criminal Behaviour Order which prohibits him from entering retail premises in any part of Neath Town Centre bordered by The Parade, Croft Road, Riverside Drive, The B4434 and Alfred Street. The order also bars Mr. Smith from entering any part of Wilko stores, Boots and Marks & Spencer in Neath Port Talbot County Borough or in the City and County of Swansea. He must also comply with a drug referral treatment plan with the Welsh Centre for Action on Dependency and Addiction (WCADA).
Councillor Des Davies, the Council’s Cabinet Member for Community Safety and Public Protection said:
“The people of Neath are warm and welcoming and we are keen to ensure the town’s reputation is not damaged by the behaviour of a minority. Last year we launched our Neath Together campaign to reduce anti-social behaviour in Neath Town Centre. Partners have been clear from the outset that our preferred approach is to identify those who are involved in anti-social behaviour because they are in genuine need of support and work with agencies to help them.
“However, we also made a commitment that we will build a case against people who wilfully engage in anti-social behaviour and take action to stop them. Stephen Paul Smith has repeatedly broken the law and refused to engage with the support offered by a range of agencies.”
Inspector Roy Portlock of South Wales Police said: “The Safer Neath Port Talbot partnership works closely with agencies who support the most vulnerable individuals in society, however we will deal robustly with repeat offenders who have a negative impact on the community and seek orders if necessary.
“We are committed to ensuring that Neath continues to be a safe and welcoming place and the Criminal Behaviour Order reinforces our message that anti-social and criminal behaviour will not be tolerated. Any breach of this order will result in further action being taken against Mr. Smith."
An important part of the Neath Together campaign is for people in the town centre to report any incidents of anti-social behaviour they see to South Wales Police. This should be done using the 101 telephone number or 999 in an emergency.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Cyflwyno Gorchymyn Ymddygiad Troseddol i leidr yng Nghastell-nedd
Mae Partneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel wedi cymryd camau gweithredu yn erbyn lleidr siopau toreithiog yng nghanol tref Castell-nedd ar ôl iddo wrthod y gefnogaeth a gynigiwyd iddo a pharhau i dorri'r gyfraith.
Cyflwynwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol pum mlynedd i Stephen Paul Smith sy'n ei wahardd rhag mynd i fangre manwerthu yn unrhyw ran o ganol tref Castell-nedd sy'n ffinio ar Y Parêd, Heol Croft, Rhodfa Riverside, y B4434 a Stryd Alfred. Mae'r gorchymyn hefyd yn gwahardd Mr Smith rhag mynd i unrhyw ran o siopau Wilko, Boots a Marks & Spencer ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn Ninas a Sir Abertawe. Mae'n rhaid iddo hefyd gydymffurfio â chynllun atgyfeirio triniaeth cyffuriau gyda Chanolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru (WCADA).
Meddai'r Cynghorydd Des Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu'r Cyhoedd,
"Mae trigolion Castell-nedd yn gyfeillgar ac yn groesawgar ac rydym yn awyddus i sicrhau nad yw ymddygiad y lleiafrif yn amharu ar enw da'r dref. Y llynedd, lansiom ein hymgyrch Castell-nedd ar y Cyd i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Castell-nedd. Mae partneriaid wedi bod yn glir o'r cychwyn cyntaf mai'r ymagwedd a ffefrir yw nodi'r bobl hynny sy'n euog o ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd bod gwir angen cefnogaeth arnynt a gweithio gydag asiantaethau i'w helpu.
"Fodd bynnag, gwnaethom ymrwymiad hefyd y byddwn yn creu achos yn erbyn pobl sy'n cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwriadol ac yn cymryd camau gweithredu i'w hatal. Mae Stephen Paul Smith wedi torri'r gyfraith dro ar ôl tro ac wedi gwrthod y gefnogaeth a gynigiwyd gan amrywiaeth o asiantaethau."
Dywedodd yr Arolygydd Roy Portlock, Heddlu De Cymru,
"Mae Partneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel yn gweithio'n agos gydag asiantaethau sy'n cefnogi'r unigolion mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas. Serch hynny, byddwn yn ymdrin yn gadarn â'r rheiny sy'n troseddu dro ar ôl tro sy'n cael effaith negyddol ar y gymuned ac yn cyflwyno gorchmynion os oes angen.
"Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod Castell-nedd yn parhau i fod yn lle diogel a chroesawgar ac mae'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn atgyfnerthu ein neges na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol yn cael ei oddef. Os torrir y gorchymyn hwn mewn unrhyw ffordd, cymerir camau gweithredu pellach yn erbyn Mr Smith."
Elfen bwysig o ymgyrch Castell-nedd ar y Cyd yw i bobl yng nghanol y dref adrodd am unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol maent yn eu gweld i Heddlu De Cymru. Dylid gwneud hyn drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng. More stories