There are lots of fun things to do and enjoy in and around Neath Port Talbot during the summer holidays - outdoors or indoors and for FREE!
If your children prefer indoor fun, encourage them to better their reading skills by participating in the Summer Reading challenge. This year’s Reading Challenge theme is Mischief Makers, which is inspired by the popular children’s tittle Beano in celebration of its 80th Anniversary. Neath Port Talbot libraries are holding a number of activities for this year’s challenge which can be found on the What’s On section of the Council’s website, together with other activities in and around the county borough, such as the popular Lego club at Neath Library for children who love having fun creating with Lego.
The county borough is famous for its great outdoors, including Afan Forest Park, which hosts six world class mountain biking trails - the ‘Penhydd’, ‘Y Wâl’, ‘White’s Level’ and 'W²'. The trails here have been carved out of hillsides once surrounded by coal mining, but now the valley has been transformed into a biker’s haven. The low level cycle route ‘Y Rheilffordd’ is a great way to explore the countryside. This is a suitable trail for the family with picnic and refreshment stops along the trail, which is 36km in total. If you prefer walking there are plenty of trails to suit all abilities, from easy walks such as 1.25 mile Old Parish Road Walk which takes up to 45 minutes, to the challenging 5.5mile Gyfylchi Ridgetop Trail which takes approximately 3.5 hours.
The Port Talbot Half Marathon on 12th August at 9:00am will be running through the Afan Valley. This exciting run will leave the beautiful surroundings of Glyncorrwg Ponds and follow the former railway route down the valley to Pontrhydyfen, the birth place of Richard Burton. From here, it turns to the opposite side of the valley to return to Glyncorrwg. Without doubt this is one of Wales' most scenic races and it is one of the cheapest half marathons around. Electronic chip timing is offered, including four water stations, bespoke event technical t-shirt and a medal, plus the all-important goody bag! Entry fee for this event is £19, but if you want to give your support and cheer your family/ friends over the line, that’s absolutely free.
The Aberavon Aquathlon – Race 2, Welsh Triathlon's Club Event of the Year in 2017 is back this year and will be bigger than before. This event will take place on Monday 30th July 2018, with the swim starting in the sheltered cove of Aberavon Beach, followed by a run along the promenade with views over the beautiful bay. The field has been extended this year due to all three races selling out last year. The race caters for everyone from elite athletes to novices. It is fully chip timed and each competitor will receive an event technical t-shirt.
Musica Rediviva at the Visitors Centre in Gnoll Estate Country Park is a series of FREE, short concerts every Saturday and Sunday from 4th to 26th August. It will feature The Velca Ladies Choir from Rome on 4th and 5th August and local singers on the other weekends. Every concert will begin at 3pm, except the concert on Sunday 5th, which will start at 2.30pm. Each concert will last no longer than one hour. The repertoire will be a mixture of operatic arias, classical works and popular songs.
Pontardawe is the place to be on the weekend of Friday 17th to Sunday 19th August when The Pontardawe Chamber of Trade presents the Pontardawe Summerfest Weekend. There will be craft stalls, folk dancing and more than 70 bands, in ten venues, with six outdoor stages over the three days and a parade at 1.30pm on Saturday. All entertainment at this great event is FREE, with a charge of £1 per child for a Circus skills workshop on Saturday 18th August.
The Aberavon Aqua Splash will also be open every day from 10am – 7mp throughout the summer holidays for children to enjoy. Keep up to date with what’s going on at Aberavon Aqua Splash’ Facebook page.
For more information about things to do in Neath Port Talbot visit www.npt.gov.uk/whatson
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gwyliau'r Haf - Pethau i'w gwneud am ddim yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae llawer o bethau llawn hwyl i'w gwneud a'u mwynhau yng Nghastell-nedd Port Tabot a'r cyffiniau yn ystod gwyliau'r haf - yn yr awyr agored neu dan do, a phob un ohonynt AM DDIM!
Os yw'ch plant yn hoff o gael hwyl dan do, anogwch nhw i wella'u sgiliau darllen drwy gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf. Thema Sialens Ddarllen eleni yw Dyfeiswyr Direidi, sydd wedi'i hysbrydoli gan y teitl poblogaidd i blant - Beano - er mwyn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot yn cynnal nifer o weithgareddau ar gyfer sialens eleni, a gallwch ddod o hyd iddynt yn adran Digwyddiadau gwefan y cyngor, ynghyd â gweithgareddau eraill yn y fwrdeistref sirol ac o'i chwmpas, megis y clwb LEGO poblogaidd yn Llyfrgell Castell-nedd i blant sy'n dwlu ar gael hwyl wrth fod yn greadigol â LEGO.
Mae'r fwrdeistref sirol yn enwog am yr hyn sydd i'w gynnig yn yr awyr agored, gan gynnwys Parc Coedwig Afan, sy'n cynnig chwe llwybr beicio mynydd o'r radd flaenaf, gan gynnwys ‘Penhydd’, ‘Y Wâl’, ‘White’s Level’ a 'W²'. Mae'r llwybrau mewn bryniau a oedd wedi'u hamgylchynu gan lo ar un adeg, ond erbyn hyn mae'r cwm wedi cael ei drawsnewid yn hafan i feicwyr. Mae llwybr beicio lefel isel 'Y Rheilffordd' yn ffordd wych o archwilio cefn gwlad. Mae'r llwybr hwn yn addas i'r teulu gyda mannau picnic a lluniaeth ar hyd y llwybr, sy'n 36km yn ei gyfanrwydd. Os yw'n well gennych gerdded mae digon o lwybrau sy'n addas i bob gallu, o lwybrau cerdded hawdd megis llwybr Heol yr Hen Blwyf, sy'n 1.25 milltir o hyd ac sy'n cymryd hyd at 45 o funudau, i lwybr heriol Esgair Gyfylchi, sy'n 5.5 milltir o hyd ac sy'n cymryd oddeutu 3.5 awr.
Bydd rhan o lwybr Hanner Marathon Port Talbot ar 12 Awst am 9.00am yn rhedeg drwy Gwm Afan. Bydd y ras gyffrous hon yn gadael golygfeydd prydferth Pyllau Glyncorrwg ac yn dilyn hen lwybr y rheilffordd i lawr drwy'r cwm i Bont-rhyd-y-fen, man geni Richard Burton. O'r pwynt yma, bydd yn troi i ochr gyferbyn y cwm er mwyn dychwelyd i Lyncorrwg. Heb os nac oni bai, dyma un o rasys mwyaf golygfaol Cymru ac un o'r llwybrau hanner marathon rhataf sydd ar gael. Cynigir amseru electronig gan ddefnyddio sglodyn yn ogystal â 4 gorsaf ddwr, crys T technegol sy'n unigryw i'r digwyddiad a medal a bagiau rhoddion! Codir ffi gwerth £19 i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, ond os ydych am ddangos eich cefnogaeth ac annog eich teulu/ffrindiau i groesi'r llinell derfyn, gallwch wneud hynny am ddim.
Mae Acwathlon Aberafan - Ras 2, Digwyddiad Clwb y Flwyddyn Treiathlon Cymru 2017, yn dychwelyd eleni a bydd yn fwy nag o'r blaen. Cynhelir y digwyddiad ddydd Llun 30 Gorffennaf 2018, gyda'r nofiad yn dechrau ar gildraeth cysgodol Aberafan, gyda ras redeg ar hyd y promenâd gyda golygfeydd prydferth dros y bae i'w ddilyn. Mae mwy o leoedd ar gael eleni gan fod y tair ras wedi gwerthu pob tocyn y llynedd. Mae'r ras yn agored i bawb, o athletwyr profiadol i ddechreuwyr. Caiff y ras ei hamseru â sglodyn a bydd pob cystadleuydd yn derbyn crys T technegol ar gyfer y digwyddiad.
Mae Musica Rediviva yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yn gyfres o gyngherddau byr AM DDIM bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 4 a 26 Awst. Bydd yn cynnwys Côr Merched Velca o Rufain ar 4 a 5 Awst a chantorion lleol ar y penwythnosau eraill. Bydd pob cyngerdd yn dechrau am 3pm, oni bai am gyngerdd ddydd Sul 5 Awst, a fydd yn dechrau am 2.30pm. Ni fydd unrhyw gyngerdd yn para dros awr. Bydd y repertoire yn cynnwys cymysgedd o ariâu opera, gwaith clasurol a chaneuon poblogaidd.
Pontardawe yw'r lle i fod ar y penwythnos rhwng dydd Gwener 17 a dydd Sul 19 Awst pan fydd Siambr Masnach Pontardawe'n cyflwyno Penwythnos Gwyl yr Haf Pontardawe. Bydd stondinau crefft, dawnsio gwerin a thros 70 o fandiau mewn 10 lleoliad gyda 6 llwyfan awyr agored dros y tri diwrnod, yn ogystal â gorymdaith am 1.30pm ar y dydd Sadwrn. Mae’r holl adloniant yn y digwyddiad hwn AM DDIM, gyda chost o £1 y plentyn ar gyfer gweithdy sgiliau Syrcas ddydd Sadwrn 18 Awst.
Bydd pwll Aquasplash Aberafan hefyd ar agor bob dydd rhwng 10am a 7pm drwy gydol gwyliau'r haf er mwyn i'r plant ei fwynhau. Cewch y newyddion diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd ar dudalen Facebook Aberavon Aqua Splash
I gael mwy o wybodaeth am bethau i'w gwneud yng Nghastell-nedd Port Talbot, ewch i www.npt.gov.uk/whatson
More stories