Work has begun on a new “green” extension to the popular visitors’ centre at Neath’s Gnoll Country Park featuring a solar panel covered canopy.
The energy producing roof is aimed at generating as much electricity as the centre uses – drastically slashing power costs there.
Over the last few years, Neath Port Talbot Council, which runs the country park, has been taking measures to reduce the level of subsidy required to run the attraction.
Substantial progress has been made and the new solar power generation scheme is aimed at reducing as much as possible the cost of electricity used by the centre.
The scheme includes an alfresco style extension to the café with the new south facing solar panel equipped roof canopy to the pond side of the visitors’ centre.
The canopy will provide a much needed sheltered seating and dining extension to the café which currently has insufficient seating during busy periods – the idea being to boost sales from the café.
The project will see triangular end photovoltaic (PV) panels on the surface of the roof to produce electricity.
It is also planned this will be the first of a number of “green technology” initiatives at Gnoll Park going forward to develop the visitors’ centre and park generally as an environmental exemplar destination.
The PV installation will have a number of benefits including:
• An improved energy performance at the visitor centre
• Demonstrating renewable technology to Park visitors.
• Helping the Council deliver the aims and objectives of the Wellbeing of Future Generations Act.
• A reduced carbon footprint for the park.
The park is an important site for locals and visitors alike, featuring lakeside and woodland walks, restored formal cascades, a grotto, a coarse fishery, play area, adventure playground and a visitor centre exploring the history and evolution of the estate.
Councillor Annette Wingrave, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Regeneration and Sustainable Development said: “Not only with this be a valuable addition to the existing visitor facilities and hopefully help gain sales from the park’s Café, it will set an example by showing how energy generation can become a part of new buildings.”
The centre remains open while the work goes on.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Dechreuwyd gwaith ar estyniad "gwyrdd" newydd i'r ganolfan ymwelwyr boblogaidd ym Mharc Gwledig y Gnoll, a fydd yn cynnwys canopi a orchuddir â phaneli solar.
Nod y to a fydd yn cynhyrchu ynni yw cynhyrchu digon o drydan ar gyfer y ganolfan, a fydd yn lleihau costau ynni'n sylweddol yno.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n cynnal y parc gwledig, wedi bod yn cymryd camau er mwyn lleihau lefel y cymhorthdal y mae ei angen er mwyn cynnal yr atyniad.
Gwnaed cynnydd sylweddol a nod y cynllun cynhyrchu pwer solar newydd yw lleihau cost y trydan a ddefnyddir gan y ganolfan gymaint â phosib.
Mae'r cynllun yn cynnwys estyniad awyr agored i'r caffi, a bydd y to canopi newydd â phaneli solar, a fydd yn wynebu'r de, ar ochr y pwll dwr o'r ganolfan ymwelwyr.
Bydd y canopi'n darparu estyniad mawr ei angen gyda lle i eistedd a bwyta dan do, gan nad oes digon o le i eistedd yn y caffi yn ystod cyfnodau prysur ar hyn o bryd - a'r syniad yw cynyddu gwerthiannau'r caffi.
O ganlyniad i'r prosiect, bydd paneli ffotofoltäig trionglog yn cael eu gosod ar arwyneb y to er mwyn cynhyrchu trydan.
Cynllunnir hefyd mai hwn fydd y cyntaf o nifer o fentrau "technoleg werdd" ym Mharc Gwledig y Gnoll er mwyn datblygu'r ganolfan ymwelwyr a'r parc yn gyffredinol fel lleoliad amgylcheddol rhagorol.
Bydd manteision amrywiol gosod paneli ffotofoltäig yn cynnwys:
• perfformiad ynni gwell yn y ganolfan ymwelwyr
• gallu dangos technoleg ynni adnewyddadwy i ymwelwyr â'r parc
• helpu'r cyngor i gyflawni nodau ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
• lleihau ôl troed carbon y parc
Mae'r parc yn safle pwysig i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac mae'n cynnwys llwybrau ger y llyn ac yn y coetir, rhaeadrau ffurfiol wedi'u hadfer, groto, pysgodfa fras, ardal chwarae, lle chwarae antur a chanolfan ymwelwyr sy'n archwilio hanes a datblygiad yr ystâd.
More stories