As National Recycle Week is here again, plans are being laid for a cleaner, greener Neath Port Talbot involving changes in the way waste is collected, disposed of and recycled.
The Council has been given tough recycling targets by the Welsh Government requiring us all to recycle 64% of waste by 2019/20 and 70% by 2025.
Neath Port Talbot already has an excellent recycling rate of just over 60% - helping make Wales the fourth highest recycling country in the world (according to the latest figures from Eunomia Research and Consulting).
But more has to be done to keep waste away from landfill sites where it can leak out, damaging the environment.
Food waste in particular needs to be tackled – not only does it add to the pollutant leachate in landfill sites (which can lead to river and stream pollution killing fish and other wildlife) it also damages the planet by degrading into the greenhouse gas methane.
Changes in the run up to April 1st 2019 - when the 64% target begins - include:
• Introducing more recycling litter bins in town centres and other high footfall areas like parks in the coming months.
• Changing the way green waste is collected from the current single use plastic bags to re-usable sacks (Due to start in April).
• Implementation and enforcement of the new ‘no side waste’ rule, which means no black bags can be left alongside wheelie bins. In black sack areas the number of bags will be limited to three.
• Introduction of “black bag presentation areas” at our Household Waste and Recycling Centres – in common with other councils, black bags taken to recycling areas are now to be checked for any recyclable material. (This has started successfully in Cymmer and will be rolled out to Briton Ferry in November).
• A major drive to prevent food waste going to landfill through use of food recycling caddies.
• An expansion of the Re-Use shop in Briton Ferry due for completion in the New Year where a host of unwanted treasures like TVs, furniture, gym equipment, tea sets etc can be bought at bargain prices.
Catrin Palfrey, campaign manager for Recycle for Wales which is holding a number of promotional events this week as part of National Recycle Week, said: “Increasingly people in Wales are recycling all they can from all around the home and our world ranking reflects this.
“Here in Neath Port Talbot it’s no different – more and more of us are recycling, so thank you for doing all you can and keep up the good work! Together we can help get Wales to number one in the world.”
Cllr Ted Latham, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetsceneand Engineering said: “There are a lot of changes planned to ensure we in Neath Port Talbot do our bit to keep Wales among the world leaders in recycling, and in so doing help to stop pollution and create a cleaner planet.
“For instance, please make sure there no recyclable materials in your black bags before disposing of them in skips in our recycling centres.
“You need to remove recyclable materials like glass, paper, cardboard, tins and plastic from your bags before bringing them to the site (where operatives will give help if needed).
“And we’d like to cut down as much as possible on food waste which in turn could help household budgets. Strategies including trying not to over-buy, keeping track of what you've bought and used and planning ahead by thinking about what you're going to cook and how you could use the leftovers.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Newidiadau ar y gweill i helpu i arbed gwastraff - a'r blaned!
Gan fod Wythnos Genedlaethol Ailgylchu yma unwaith eto, mae cynlluniau ar waith i wneud Castell-nedd Port Talbot yn lanach ac yn wyrddach sy'n ymwneud â newidiadau yn y ffordd y caiff sbwriel ei gasglu, ei waredu a'i ailgylchu.
Mae'r cyngor wedi derbyn targedau ailgylchu newydd, llymach gan Lywodraeth Cymru sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i ni i gyd ailgylchu 64% o wastraff erbyn 2019/20 a 70% erbyn 2025.
Mae'n golygu er bod gan Gastell-nedd Port Talbot eisoes gyfradd ailgylchu wych (ychydig dros 60%) - gan helpu i sicrhau mai Cymru yw'r wlad â'r gyfradd ailgylchu bedwaredd uchaf yn y byd - fod yn rhaid gwneud mwy i osgoi anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi lle gall ollwng gan niweidio'r amgylchedd.
Mae angen mynd i'r afael yn benodol â gwastraff bwyd - mae'n ychwanegu at y trwytholchion llygredd mewn safleoedd tirlenwi (sy'n gallu arwain at lygru afonydd a nentydd, gan ladd pysgod a bywyd gwyllt arall), a hefyd yn niweidio'r blaned drwy ddirywio'n nwy ty gwydr sef methan.
Bydd newidiadau yn y cyfnod cyn 1 Ebrill 2019, pan fydd y targed 64% yn dechrau, yn cynnwys y canlynol
Cyflwyno mwy o finiau ar gyfer sbwriel i'w ailgylchu mewn canol trefi ac ardaloedd eraill lle ceir llawer o ymwelwyr, fel parciau, yn y misoedd i ddod.
Newid y ffordd y cesglir gwastraff gwyrdd o'r sachau plastig un defnydd i sachau ailddefnyddiadwy (i ddechrau ym mis Ebrill).
Ymgyrch fawr i atal gwastraff bwyd rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi am ei fod yn cael ei roi mewn sachau du yn lle cynwysyddion ailgylchu bwyd. (Parhaus)
Ehangu'r siop ailddefnyddio yn Llansawel lle gellir prynu llu o drysorau diangen fel setiau teledu, soffas, celfi, cyfarpar campfa, setiau te etc, am brisiau rhad.
Meddai Catrin Palfrey, rheolwr ymgyrchoedd Ailgylchu dros Gymru, sy'n cynnal nifer o ddigwyddiadau hyrwyddol yr wythnos hon fel rhan o Wythnos Genedlaethol Ailgylchu, "Yn gynyddol, mae pobl yng Nghymru'n ailgylchu popeth y gallant o bob ran o'r cartref ac mae ein safle yn y byd o ran cyfraddau ailgylchu'n adlewyrchu hyn.
"Nid yw'n wahanol yma yng Nghastell-nedd Port Talbot - mae mwy a mwy ohonom yn ailgylchu, felly diolch am wneud popeth y gallwch a daliwch ati â'r gwaith da! Gyda'n gilydd gallwn helpu i sicrhau mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd o ran ailgylchu."
Meddai'r Cynghorydd Ted Latham, Pennaeth Gofal Strydoedd a Pheirianneg Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Mae llawer o newidiadau yn yr arfaeth i sicrhau ein bod ni yng Nghastell-nedd Port Talbot yn gwneud ein rhan i gadw Cymru ymysg arweinwyr y byd ym maes ailgylchu ac, wrth wneud hynny, yn helpu i atal llygredd a chreu planed lanach.
"Er enghraifft, gwnewch yn siwr nad oes deunyddiau ailgylchadwy yn eich sachau du cyn cael gwared arnynt mewn sgipiau yn ein canolfannau ailgylchu.
"Mae angen i chi dynnu deunyddiau ailgylchadwy fel gwydr, papur, cardbord, tuniau a phlastig o'ch sachau cyn dod â nhw i'r safle (lle bydd gweithwyr yn rhoi help i chi os oes angen).
"A hoffem wneud cymaint â phosib i leihau swm y gwastraff bwyd a fydd yn ei dro yn helpu cyllidebau aelwydydd. Mae strategaethau'n cynnwys ceisio peidio â phrynu gormod o fwyd, cadw llygad ar yr hyn rydych wedi'i brynu a'i ddefnyddio a chynllunio ymlaen llaw drwy feddwl am yr hyn rydych chi'n mynd i'w goginio a sut gallech ddefnyddio bwyd dros ben."
More stories