Neath Port Talbot Council is planning to give its town centres a major boost this Christmas by offering free car parking at key times during the festive period.
To help increase trade, councillors are being asked to approve plans to give free Christmas parking in Neath, Port Talbot and Pontardawe Pay and Display Car Parks from Saturday, 15th December 2018 to Tuesday, 1st January 2019 inclusive.
This year’s proposed offer is an improvement on last year’s offer, including an extra weekend at the start of the free parking period.
Free Christmas parking is estimated to cost around £40,000 for the three towns, based upon the current tariff structure which has to be absorbed by the Council.
Members of the Council’s Streetscene and Engineering Cabinet Board will be recommended to accept the free parking proposals for Christmas 2018 at their next meeting on Friday, October 19th.
Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetscene and Engineering, Councillor Ted Latham said: “This has proved to be very successful previously and we want shoppers and businesses to continue to benefit from free parking at key times, particularly during the run up to Christmas.
“We hope this offer will once again encourage residents to shop more locally in Neath, Port Talbot and Pontardawe over Christmas and will continue to support businesses in our area.”
The Leader of Neath Port Talbot Council, Councillor Rob Jones, added: “We recognise this is an important time of year for both families and businesses. We are encouraging people to support our local businesses and believe offering a seasonal reduction in parking charges will make this much easier.”
During the festive period, meters in the participating car parks will be displaying the free car parking.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu rhoi hwb i ganol trefi'r Nadolig hwn drwy gynnig parcio am ddim yn ystod cyfnodau allweddol dros y Nadolig.
Er mwyn cynyddu masnach, gofynnir i gynghorwyr gymeradwyo cynlluniau i ddarparu parcio am ddim dros y Nadolig ym meysydd parcio talu ac arddangos Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe o ddydd Sadwrn 15 Rhagfyr 2018 i ddydd Mawrth 1 Ionawr 2019.
Mae cynnig eleni'n well na chynnig y llynedd, gan gynnwys penwythnos ychwanegol ar ddechrau'r cyfnod parcio am ddim.
“Amcangyfrifir y bydd parcio am ddim yn costio oddeutu £40,000 ar gyfer y tair tref, yn seiliedig ar y strwythur tariff presennol y mae'n rhaid i'r cyngor ei dalu”
Argymhellir bod aelodau o Fwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet y cyngor yn derbyn y cynigion ar gyfer parcio am ddim ar gyfer Nadolig 2018 yn ei gyfarfod nesaf ddydd Gwener 19 Hydref.
Meddai Aelod Cabinet Castell-nedd Port Talbot dros y Strydlun a Pheirianneg Cyngor y Cyng. Ted Latham, "Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol ac rydym am i siopwyr a busnesau barhau i elwa o barcio am ddim yn ystod cyfnodau prysur, yn enwedig cyn y Nadolig.
"Rydym yn gobeithio y bydd y cynnig hwn unwaith eto yn annog preswylwyr i siopa'n lleol yng Nghastell-nedd, Port Talbot a Phontardawe dros y Nadolig a bydd yn parhau i gefnogi busnesau yn ein hardal."
Meddai Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyng. Rob Jones, "Rydym yn cydnabod bod hon yn adeg bwysig o'r flwyddyn i deuluoedd a busnesau. Rydym yn annog pobl i gefnogi ein busnesau lleol ac rydym yn credu bod cynnig gostyngiad tymhorol ar gyfer taliadau parcio'n gwneud hyn yn haws."
Yn ystod y cyfnod parcio am ddim dros y Nadolig, bydd sticeri ar beiriannau tocynnau'r meysydd parcio perthnasol yn dangos y dyddiadau parcio am ddim.
More stories