A poignant cheque presentation has taken place in the Mayor of Neath Port Talbot’s Parlour
A total of £20,900 was handed to the Ty Olwen Trust and the Salvation Army – the two charities supported by Neath Port Talbot Council’s late Mayor, Cllr Janice Dudley.
The popular Bryncoch South Councillor’s term as Mayor was tragically cut short in August 2017 when she died suddenly after collapsing while carrying out Mayoral duties at Aberavon Beach.
The then Deputy Mayor, Cllr Dennis Keogh, (now the current Neath Port Talbot Mayor) stepped up and formally took office as Mayor a few weeks later and chose to continue supporting Janice’s charities for the remainder of her Civic year.
A total of £20,900 was raised through a variety of fundraising events such as the annual Christmas Show and Mayor’s Charity Dinner. Money was also raised via Just Giving, donations and sponsorhip.
This month, Cllr Dudley’s daughter Amanda Cornwell, handed the money on her late mother’s behalf to Major Mary Wolfe from the Salvation Army (Skewen Corps) and to Paul Murray, Vice Chairman of the Ty Olwen Hospice Trust.
The amount will be split equally with each charity receiving £10,450.
Cllr Dudley chose the Ty Olwen Trust as one of her two Mayoral Charities in loving memory of her husband, Marcus, who sadly passed away in 1997 having been tenderly cared for by what she termed “the wonderful staff” at Ty Olwen.
The trust supports the Ty Olwen Palliative Care Service based at the Ty Olwen Hospice in Swansea which provides care to people in Swansea, Neath and Port Talbot suffering from cancer and other life limiting illnesses.
The service consists of a 19 bed in-patient hospice with day centre, Specialist Nurses based in all the major hospitals in the area, a team of home care sisters providing care to patients in their own homes and regular outreach clinics.
The late Mayor chose the Salvation Army as her second Mayoral Charity because of the support it gives to the homeless and vulnerable throughout the county borough. The Salvation Army is a protestant Christian church and an international charitable organisation formed by Methodist preacher General William Booth in London in 1865.
The Mayor of Neath Port Talbot, Cllr Dennis Keogh said: “It was fitting Janice’s daughter Amanda was here to pass on the money raised for two charities so close to her late mother’s heart.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Cynhaliwyd digwyddiad cyflwyno siec deimladwy iawn ym Mharlwr Maer Castell-nedd Port Talbot.
Cafodd swm o £20,900 ei rhoi i Ymddiriedolaeth Ty Olwen a Byddin yr Iachawdwriaeth - dwy elusen a gafodd eu cefnogi gan ddiweddar Faer Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Janice Dudley.
Torrwyd tymor y Cynghorydd poblogaidd o Dde Bryncoch fel Maer yn fyr ym mis Awst 2017 pan fu farw wrth iddi ddisgyn wrth ymgymryd â'i dyletswyddau Maerol ar draeth Aberafan.
Camodd y cyn-ddirprwy Faer, y Cynghorydd Dennis Keogh, (Maer Castell-nedd Port Talbot bellach) i'r adwy, a chymerodd swydd y Maer yn ffurfiol ychydig wythnosau'n ddiweddarach a dewisodd barhau i gefnogi elusennau Janice am weddill ei blwyddyn ddinesig.
Codwyd swm o £20,900 trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian fel y Sioe Nadolig flynyddol a Chinio Elusen y Maer. Codwyd arian hefyd trwy Just Giving, cyfraniadau a noddwyr.
Y mis hwn trosglwyddodd merch y Cynghorydd Dudley, Amanda Cornwell, yr arian ar ran ei diweddar fam i'r Uwchgapten Mary Wolfe o Fyddin yr Iachawdwriaeth (Corfflu Sgiwen) ac i Paul Murray, Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth Hosbis Ty Olwen.
Bydd y swm yn cael ei rannu'n gyfartal gyda'r ddwy elusen yn derbyn £10,450 yr un.
Dewisodd y Cynghorydd Dudley Ymddiriedolaeth Ty Olwen fel un o'i helusennau Maerol er cof am ei gwr, Marcus, a fu farw ym 1997 ar ôl cael triniaeth ofalgar gan "staff anhygoel" Ty Olwen.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cefnogi Gwasanaeth Gofal Lliniarol Ty Olwen sydd wedi ei leoli yn Hosbis Ty Olwen yn Abertawe sy'n darparu gofal i bobl yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot sy'n dioddef o ganser ac afiechydon eraill sy'n cyfyngu bywyd.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys hosbis cleifion mewnol, gydag 19 gwely ynghyd â chanolfan ddydd, nyrsys arbenigol sy'n gweithio yn yr holl ysbytai mawr yn yr ardal, tîm o brif nyrsys gofal cartref sy'n darparu gofal i gleifion yn eu cartrefi eu hunain a chlinigau allgymorth rheolaidd.
Dewisodd y diweddar Faer Fyddin yr Iachawdwriaeth fel ei hail elusen Faerol oherwydd y cymorth mae'r elusen yn ei roi i'r digartref a'r diamddiffyn yn y fwrdeistref sirol. Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn eglwys Gristnogol Brotestannaidd ac yn sefydliad elusennol rhyngwladol a sefydlwyd gan bregethwr Methodistaidd, y Cadfridog William Booth yn Llundain ym 1865.
Dywedodd Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Dennis Keogh, "Roedd e'n hyfryd bod merch Janice, Amanda, yma i gyflwyno'r arian a godwyd i'r ddwy elusen a oedd mor agos at galon ei Mam."
More stories