One of Neath Port Talbot’s most beautiful wildlife havens has been given £86,000 worth of funding to establish new nature trails, involve more people in conservation and to throw new light on its fascinating wildlife, geology and industrial heritage.
Craig Gwladus Country Park – a little known gem in Neath Port Talbot Council’s country park portfolio – straddles Cadoxton and Cilfrew around two miles from Neath and is shrouded in ancient and re-planted forests and features rushing streams, stunning views and strange rock formations.
A haven for flora, birds and other wildlife, Craig Gwladus features numerous trees fitted with “fairy doors” – tiny wooden entrances carved by local people to charm the children of visitors who play in the woods.
The park has now been given £51,000 from the Heritage Lottery Fund, £25,000 from Natural Resources Wales, £6,000 from Neath Port Talbot Council and £4,000 from the Council’s Members Fund (via Councillors Annette Wingrave and Doreen Jones).
The grants will fund the employment of a part-time Project Manager and a Volunteer Support Worker for the Park to help develop it as a teaching resource, visitor attraction and nature park.
The new Project Manager and Volunteer Support Worker will support local people who want to be involved in caring for Craig Gwladus, providing free training, support and advice.
There will also be a big increase in free activities including guided walks and talks aimed at shining a spotlight on the special qualities of the park including its varied wildlife, spectacular geology (one rock formation looks like a human face - as seen in the picture below) and its long industrial heritage.
A new history group is also being set up to research the history of the park in more depth. Those involved in exploring the area’s industrial heritage will be visiting local archives, meeting and recording local people with memories of coal mining in the area and of the site before it became a country park.
They will be looking for answers to questions like: how were heavy coal-filled drams lowered to the local canal? Those taking part will be supported by an expert historian.
Watch out too for art and photography workshops taking inspiration from multitude of subjects within the Park.
Schools will also benefit from a new trail and teacher support pack for the park which will enable them to plan curriculum led activities on what is a free outdoor space on the doorstep of people in Neath Port Talbot.
Throughout the project, staff and the Friends of Craig Gwladus will be seeking the opinion and support from local people to help develop a long-term vision for the park.
If you are interested in helping shape the future of this wonderful local asset, which has become a place to meet friends, enjoy nature, and walk, contact Lisa Kirman, e: l.kirman@npt.gov.uk or visit the Friends of Craig Gwladus facebook page.
A special Halloween bug hunt, led by an expert, will be the first of many activities taking place throughout the project. Monday 30th October 11am – 12.30pm (meeting in the middle car park by the painted container). Spooky outfits optional!
Richard Bellamy, Head of Heritage Lottery Fund in Wales says “Our natural heritage is a most precious resource and National Lottery money has helped to protect an amazing range of landscapes, habitats, and species of plants and animals. HLF is delighted to support Craig Gwladus Country Park. An area that is rich in history and wildlife that should be protected for the future and shared with all of those around it. ”
Councillor Annette Wingrave, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Regeneration and Sustainable Development said: “Both myself and Councillor Doreen Jones wanted to help the development of this precious resource.
“We are so grateful to National Lottery Players, Natural Resources Wales and local Councillors for the grants, which could now help to conserve, build and improve what is already a stunningly beautiful nature and education resource."
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Grantiau mawr i wneud parc natur penigamp hyd yn oed yn fwy arbennig!
Mae un o hafanau bywyd gwyllt harddaf Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn gwerth £86,000 o gyllid i sefydlu llwybrau natur newydd, cynnwys mwy o bobl mewn gwaith cadwraeth ac i daflu goleuni newydd ar ei bywyd gwyllt, ei daeareg a'i threftadaeth ddiwydiannol hynod ddiddorol.
Mae Parc Gwledig Craig Gwladus - gem go anadnabyddus ym mhortffolio parc gwledig Castell-nedd Port Talbot - yn pontio Llangatwg a Chilffriw, tua dwy filltir o Gastell-nedd. Mae'n gyfoeth o goedwigoedd hynafol ac ailblanedig, nentydd byrlymog, golygfeydd trawiadol a ffurfiannau creigiau rhyfedd.
Mae Craig Gwladus, hafan i blanhigion, adar a bywyd gwyllt arall, yn cynnwys nifer o goed a chanddynt 'ddrysau tylwyth teg" - mynedfeydd pren bychain iawn a gerfiwyd gan bobl leol i swyno plant ymwelwyr sy'n chwarae yn y goedwig.
Mae'r parc bellach wedi derbyn £51,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, £25,000 gan Cyfoeth Naturiol Cymru, £6,000 gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a £4,000 o Gronfa Aelodau'r Cyngor (drwy'r Cynghorwyr Annette Wingrave a Doreen Jones).
Bydd y grantiau'n ariannu cyflogi Rheolwr Prosiectau rhan-amser a Gweithiwr Cefnogi Gwirfoddolwyr i helpu i ddatblygu'r parc yn adnodd addysgu, yn atyniad i ymwelwyr ac yn barc natur.
Bydd y Rheolwr Prosiectau a'r Gweithiwr Cefnogi Gwirfoddolwyr newydd yn cefnogi pobl leol sydd am fod yn rhan o ofalu am Graig Gwladus, gan ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a chyngor am ddim.
Bydd cynnydd mawr hefyd yn nifer y gweithgareddau sydd am ddim gan gynnwys teithiau cerdded tywys a sgyrsiau a fydd yn tynnu sylw at nodweddion arbennig y parc megis ei fywyd gwyllt amrywiol, ei ddaeareg drawiadol (mae un graig ar ffurf wyneb dynol) a'i dreftadaeth diwydiannol hir.
Mae grwp hanes newydd hefyd yn cael ei sefydlu i ymchwilio'n ddyfnach i hanes y parc. Bydd y rhai sy'n rhan o ymchwilio i dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal yn ymweld ag archifau lleol, yn cwrdd â phobl leol a chanddynt atgofion o gloddio am lo yn yr ardal ac ar y safle cyn iddo ddod yn barc gwledig, ac yn eu recordio.
Byddant yn chwilio am atebion i gwestiynau fel: sut byddai dramiau trwm yn llawn glo'n cael eu gostwng i'r gamlas leol? Cefnogi’r rhai sy'n cymryd rhan gan hanesydd arbenigol.
Cadwch lygad hefyd am weithdai celf a ffotograffiaeth sy'n cael eu hysbrydoli gan nifer mawr o destunau yn y parc.
Bydd ysgolion yn elwa hefyd o lwybr newydd a phecyn cefnogi athrawon ar gyfer y parc a fydd yn eu galluogi i gynllunio gweithgareddau a arweinir gan y cwricwlwm ar yr hyn sy'n lle awyr agored am ddim ar garreg ddrws pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Drwy gydol cyfnod y prosiect bydd staff a Chyfeillion Craig Gwladus yn ceisio barn a chefnogaeth pobl leol i helpu i ddatblygu gweledigaeth tymor hir ar gyfer y parc.
Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i lunio dyfodol yr ased lleol gwych hwn, sydd wedi dod yn lle i gwrdd â ffrindiau, mwynhau natur a cherdded, cysylltwch â Lisa Kirman, e-bost: l.kirman@npt.gov.uk neu ewch i dudalen Facebook Cyfeillion Craig Gwladus.
Helfa drychfilod arbennig ar gyfer Calan Gaeaf, dan arweiniad arbenigwr, fydd un o'r gweithgareddau niferus a gynhelir drwy gydol cyfnod y prosiect. Dydd Llun 30 Hydref 11am – 12.30pm (cwrdd yn y maes parcio canol ger y cynhwysydd paentiedig). Gwisgoedd bwganllyd yn ddewisol!
Meddai Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, "Mae ein treftadaeth naturiol yn adnodd hynod werthfawr ac mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu i warchod amrywiaeth anhygoel o dirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri'n falch o gefnogi Parc Gwledig Craig Gwladys, ardal sy'n gyfoeth o hanes a bywyd gwyllt y dylid eu gwarchod ar gyfer y dyfodol, a'u rhannu â phawb o'u cwmpas. ”
Dywedodd y Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy Cyngor Castell-nedd Port Talbot, "Roeddwn i a'r Cynghorydd Doreen Jones am helpu i ddatblygu'r adnodd gwerthfawr hwn.
"Rydym mor ddiolchgar i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynghorwyr lleol am y grantiau a allai bellach helpu i gadw, datblygu a gwella'r hyn sydd eisoes yn adnodd natur ac addysg syfrdanol o hardd.
More stories