An awards ceremony has taken place to celebrate the achievements of the people who attend a Neath Port Talbot Council pan-disability service.
The annual ceremony was held to recognise the dedication and hard work of those who attend the service. Over 100 people attended the ceremony in which 15 people received awards in categories such as Most Improved, Trainee of the Year and Best Supportive Mentor. A further 60 certificates were awarded for special recognition.
The awards were presented by Councillor Rob Jones; the Leader of Neath Port Talbot Council and Councillor Dennis Keogh; the Mayor of Neath Port Talbot; other attendees at the ceremony included the friends, family and carers of the award winners.
The employment and training service supports adults with pan-disabilities to build confidence and become more independent through creating and selling of handcrafted gifts. All attendees are encouraged to participate in different workshops at the service to learn a range of skills such as carpentry, sewing, bike repairs and maintenance, arts and crafts, catering and glass work.
The service operates from two locations, Fresh Start which is based in Croeserw Community Enterprise Centre, and Bspoked Enterprises which is based in Neath Abbey Industrial Estate.
Councillor Peter Richards, Cabinet Member for Adult Social Care and Health, who attended the awards ceremony, said:
“The annual awards ceremony is a great opportunity to recognise the hard work and dedication that everyone has put in during the last year. It is clear from the quality of the products made at Bspoked Enterprises and Fresh Start that everyone who attends the service has a lot of ambition.
“Giving people with disabilities the opportunity to develop their skills and gain confidence is essential to them reaching their full potential and becoming more independent.”
All of the products made at the service are repurposed from materials such as glass, wood, textiles and even donated bikes. The products are converted and sold as everyday items such as clocks, ornaments, wall displays and garden furniture.
For more information about Bspoked Enterprises and Fresh Start and to view their latest products, search for their pages on Facebook.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Defnyddwyr gwasanaeth anabledd y cyngor yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo i ddathlu cyflawniadau'r bobl sy'n defnyddio Gwasanaeth Pan-anabledd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn Orendy Margam i gydnabod ymroddiad a gwaith caled y rheiny sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Roedd dros 100 o bobl yn bresennol yn y seremoni lle derbyniodd 15 o bobl wobrau mewn categorïau megis Y Gwelliant Mwyaf, Hyfforddai'r Flwyddyn a Mentor Cefnogol Gorau. Cyflwynwyd 60 o dystysgrifau eraill am gydnabyddiaeth arbennig.
Cyflwynwyd y gwobrau gan y Cynghorydd Rob Jones; Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a'r Cynghorydd Dennis Keogh; Maer Castell-nedd Port Talbot; roedd y bobl eraill a oedd yn bresennol yn y seremoni'n cynnwys ffrindiau, teulu a gofalwyr enillwyr y gwobrau.
Mae'r gwasanaeth cyflogaeth a hyfforddiant yn cefnogi oedolion â phan-anableddau i fagu hyder a dod yn fwy annibynnol trwy greu a gwerthu anrhegion a wnaed â llaw. Anogir yr holl ddefnyddwyr i gymryd rhan mewn gweithdai gwahanol yn y gwasanaeth er mwyn dysgu amrywiaeth o sgiliau megis gwaith saer, gwnïo, atgyweirio a chynnal a chadw beiciau, celf a chrefft, arlwyo a gwaith gwydr.
Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o ddau leoliad, sef Fresh Start yng Nghanolfan Menter Gymunedol Croeserw, a Bspoked Enterprises sydd yn Ystâd Ddiwydiannol Mynachlog Nedd.
Meddai'r Cynghorydd Peter Richards, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd, a oedd yn bresennol yn y seremoni wobrwyo,
"Mae'r seremoni wobrwyo flynyddol yn gyfle gwych i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad pawb dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n glir o ansawdd y cynnyrch sy'n cael ei greu gan Bspoked Enterprises a Fresh Start fod pawb sy'n mynd i'r gwasanaeth yn uchelgeisiol iawn.
"Mae rhoi'r cyfle i bobl ag anableddau ddatblygu eu sgiliau a magu eu hyder yn hanfodol er mwyn iddynt gyflawni eu potensial llawn a bod yn fwy annibynnol."
Mae'r holl gynnyrch a wnaed yn y gwasanaeth wedi'i addasu a'i wneud â llaw o ddeunyddiau fel gwydr, pren, tecstilau a hyd yn oed beiciau a roddir. Mae'r nwyddau'n cael eu trawsnewid a'u gwerthu fel eitemau bob dydd megis clociau, addurniadau, arddangosiadau wal a dodrefn gardd.
I gael mwy o wybodaeth am Bspoked Enterprises a Fresh Start, ac i weld eu cynnyrch diweddaraf, gallwch ddod o hyd i'w tudalennau ar Facebook.
More stories