Neath Port Talbot Council is introducing a black bag presentation area at its Briton Ferry Household Waste and Recycling Centre from Monday November 26th.
Under the new arrangement, residents arriving at the centre with black bags or general waste will be asked to remove recyclable items - so users of the centre are being asked to sort their waste before bringing it.
An earlier black bag presentation area has already been successfully introduced at the Council’s Household Waste and Recycling Centre in Cymmer.
Bags taken to waste and recycling centres should be separated beforehand but analysis shows more than 60% of the contents contain materials that could actually be recycled.
Experience of black bag presentation areas in neighbouring counties has shown these dramatically increase recycling rates.
The presentation areas are part of a range of changes being brought in to ensure the Council meets tough recycling targets set by the Welsh Government requiring us all to recycle 64% of waste by 2019/20 and 70% by 2025.
People in Neath Port Talbot currently recycle just over 60% of their waste - helping make Wales the fourth highest recycling country in the world (according to the latest figures from Eunomia Research and Consulting).
Other changes in the run up to April 1st 2019 - when the 64% target begins - include:
• Changing the way green waste is collected from the current single use plastic bags to re-usable sacks.
• Implementation and enforcement of the new “no side waste” rule, which means no black bags can be left alongside wheelie bins. In black sack areas the number of bags will be limited to three.
• A major drive to cut food waste by encouraging greater use of food recycling caddies (as food is by far the biggest category of waste people fail to recycle).
Cllr Ted Latham, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetscene and Engineering said: “There are a wide variety of changes planned to ensure we in Neath Port Talbot do our bit to keep Wales among the world leaders in recycling.
“Regarding the introduction of a black bag presentation area in Briton Ferry, please make sure there are no recyclable materials in your black bags before disposing of them in skips at the centre.
“You need to remove recyclable materials like glass, paper, cardboard, tins and plastic from your bags before bringing them to the site - where operatives will give help if needed.”
He added: “Recycling saves energy and water, lowers pollution and greenhouse gas emissions, improves air and water quality, preserves landfill space and conserves natural resources. It also helps prevent plastics polluting and killing wildlife in our precious oceans and rivers.
“The whole world is recycling more - with Wales helping lead the way.”
To help increase recycling, Neath Port Talbot Council is also planning an expansion of the Re-Use shop in Briton Ferry due for completion in the New Year where a host of unwanted treasures like TVs, furniture, gym equipment, tea sets etc can be bought at bargain prices.
The authority will also be introducing more recycling litter bins in town centres and other high footfall areas like parks in the coming months.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Newidiadau ar y gorwel yng Nghanolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu Llansawel
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cyflwyno ardal cyflwyno sachau du yng Nghanolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu Llansawel o ddydd Llun 26 Tachwedd.
Dan y trefniant newydd, bydd angen i breswylwyr sy'n cyrraedd y Ganolfan gyda sachau du neu wastraff cyffredinol dynnu eitemau sy'n gallu cael eu hailgylchu o'r gwastraff - felly gofynnir i breswylwyr sy'n ymweld â'r ganolfan ddidoli eu gwastraff cyn dod â'r gwastraff yno.
Mae ardal cyflwyno sachau du eisoes ar waith yng Nghanolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu'r Cyngor yn y Cymer.
Dylid didoli sachau cyn mynd â nhw i'r canolfannau ailgylchu a gwastraff ond mae'r dadansoddiad yn dangos bod mwy na 60% o'r cynnwys yn cynnwys deunydd y gellir ei ailgylchu.
Dengys bod ardaloedd cyflwyno sachau du mewn siroedd gerllaw wedi cynyddu cyfraddau ailgylchu yn sylweddol.
Mae'r ardaloedd cyflwyno yn rhan o nifer o newidiadau sy'n cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau bod y cyngor yn bodloni'r targedau ailgylchu llym a osodwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n gofyn i ni gyd ailgylchu 64% o wastraff erbyn 2019/2020 a 70% erbyn 2025.
Mae pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ailgylchu ychydig dros 60% o'u gwastraff ar hyn o bryd - mae hyn yn golygu mai Cymru yw'r bedwaredd wlad sy'n ailgylchu fwyaf yn y byd (yn ôl ffigyrau diweddaraf gan Eunomia Research and Consulting).
Bydd newidiadau eraill cyn 1 Ebrill 2019 - pan fydd y targed 64% yn dechrau - yn cynnwys y canlynol:
* Newid y ffordd y cesglir gwastraff gwyrdd o'r sachau plastig untro i sachau ailddefnyddiadwy.
* Gweithredu a gorfodi'r rheol "dim gwastraff ar yr ochr", sy'n golygu ni ellir gadael sachau du wrth ymyl biniau olwynion. Mewn ardaloedd sachau du bydd nifer y sachau'n cael ei gyfyngu i dair.
* Ymgyrch fawr i leihau gwastraff bwyd drwy annog mwy o ddefnydd o'r cynwysyddion ailgylchu bwyd (gan mai bwyd yw'r categori mwyaf o wastraff nad yw pobl yn llwyddo i'w ailgylchu).
Meddai'r Cynghorydd Ted Latham, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros y Strydlun a Pheirianneg, "Mae amrywiaeth eang o newidiadau wedi'u trefnu er mwyn sicrhau bod Castell-nedd Port Talbot yn gwneud ei waith o gadw Cymru ymysg arweinwyr y byd ym maes ailgylchu.
"O ran yr ardal cyflwyno sachau du yn Llansawel, sicrhewch nad oes unrhyw ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn eich sachau du cyn eu gwaredu mewn sgip yn y ganolfan.
"Mae angen i chi dynnu deunyddiau ailgylchadwy fel gwydr, papur, cardbord, tuniau a phlastig o'ch sachau cyn dod â nhw i'r safle - lle bydd gweithwyr yn rhoi help i chi os oes angen.”
Ychwanegodd, "Mae ailgylchu yn arbed ynni a dwr, yn lleihau llygredd ac allyriadau nwyon ty gwydr, gwella safon aer a dwr, arbed lle mewn safleoedd tirlenwi a chadw adnoddau naturiol. Mae hefyd yn helpu i atal plastigion rhag llygru a lladd bywyd gwyllt yn ein moroedd a'n hafonydd gwerthfawr.
"Mae'r byd cyfan yn ailgylchu mwy - gyda Chymru yn helpu i arwain y ffordd."
I helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd yn bwriadu ehangu'r siop Ailddefnyddio yn Llansawel, yn y gobaith y bydd wedi'i chwblhau yn y flwyddyn newydd, lle gellir prynu trysorau diangen megis teledu, dodrefn, cyfarpar campfa, setiau tê etc am brisoedd rhad.
Bydd yr awdurdod hefyd yn cyflwyno mwy o finiau ailgylchu sbwriel yng nghanol trefi ac ardaloedd eraill lle ceir llawer o ymwelwyr, fel parciau, yn y misoedd i ddod.
More stories